Ymgyrchoedd

Blodyn mewn dwylo agored

Ymgyrch Ddi-filitareiddio Cymru

Mudiad sy’n ymgyrchu dros heddwch a dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro yw Cymdeithas y Cymod ar draws y byd.

Ydych chi’n bryderus hefyd am y duedd ddiweddar i Gymru gael ei militareiddio’n fwyfwy?

Mae Cymdeithas y Cymod yn credu ei bod hi’n bryd i Gymru fuddsoddi mewn swyddi adeiladol a chynaladwy ac i ni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol at fudd pobl Cymru a’r byd yn hytrach nag at ddibenion rhyfel a dinistr.

  • Mae tir Cymru'n frith o safleoedd y lluoedd arfog ac o safleoedd sy ynghlwm â'r fasnach arfau.
  • Mae rhan helaeth o awyr Cymru yn barth hedfan milwrol, a'r ardal rhwng Aberporth a Mynydd Epynt yn barth arbrofi awyrennau di-beilot.
  • 5% o boblogaeth Prydain sy'n byw yng Nghymru, ond mae'r lluoedd arfog â tharged i recriwtio 7-8% o'u milwyr o Gymru.
  • Mae strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar ddiwydiant awyr-ofod, gan gynnwys buddsoddi arian mawr mewn safleoedd awyrennau di-beilot.

Yn ystod 2012-2015 roedd Cymdeithas y Cymod yn canolbwyntio ei gwaith ar ymgyrch fawr dros ddi-filitareiddio Cymru: 

  • Gwrthwynebu arbrofi awyrennau di-beilot yn Aberporth, Ceredigion a'r posibiliad o hynny yn Llanbedr, Meirionnydd.
  • Ymgyrchu yn erbyn dulliau recriwtio'r lluoedd arfog, yn enwedig rhai sy'n anelu at blant ysgol ac yn targedu ardaloedd tlawd.
  • Mynd ar bererindod i faes ymarfer y fyddin ar Fynydd Epynt i ddangos ein gwrthwynebiad yn erbyn defnyddio daear Cymru i baratoi at ryfel.
  • Gwrthwynebu'r awgrym y gallai arfau niwclear y Deyrnas Unedig gael eu symud i Aberdaugleddau petai'r Alban yn mynd yn annibynnol. Ymunwch â'r gwasanaeth cofio Hiroshima ar 6 Awst bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Lobïo Llywodraeth Cymru i dynnu nôl ei chefnogaeth economaidd o'r diwydiant awyr-ofod a buddsoddi mewn swyddi cynaliadwy megis ynni adnewyddadwy, bwyd lleol a thwristiaeth werdd. Mae templed o lythyr gallwch ei yrru at eich Aelodau Cynulliad ar gael ar ein tudalen adnoddau.
  • Gweithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru a chyrff eraill i sefydlu Academi Heddwch i Gymru.

Gallwch gefnogi'n hymgyrch drwy: -

Byddwn yn falch o glywed oddi wrthych chi.

Colomen gwyn

Academi Heddwch i Gymru

Erthygl gan Jill Evans ASE, Is-Lywydd Plaid Cymru, Cadeirydd CND Cymru

Mae gennym yng Nghymru ymrwymiad cryf i heddwch. Dros y canrifoedd bu Cymry yn amlwg yn y mudiad heddwch, nid yn unig yng Nghymru neu ym Mhrydain ond yn fyd eang. Gellir dyfynnu sawl enghraifft; bob blwyddyn mae ein pobl ifanc yn anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da at bobl ifanc y byd; o Gaerdydd dechreuodd yr orymdaith i Gomin Greenham a ddaeth yn symbol o brotest heddychlon yn rhyngwladol; a’n dyheadau i fod yn genedl ddi-niwclear.

Jill EvansOnd beth yw ystyr hyn i gyd os na allwn eu gwireddu? Fel rhywun sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru, mae'r ateb tymor hir yn glir. Ond am y tro beth bynnag, mae gennym lywodraeth ein hunain heb y pwerau i ffurfio polisi "amddiffyn" i Gymru.

Canlyniad hynny yw bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y llywodraeth Brydeinig, heb unrhyw ystyriaeth o'n traddodiad o ymgyrchu dros heddwch a chyfiawnder.

Felly cynlluniau'r llywodraeth honno sydd gyda ni, fel preifateiddio hyfforddiant y lluoedd arfog a'i rhoi i gyd mewn academi filwrol enfawr yn Sain Tathan; cynlluniau ar gyfer gorsaf niwclear newydd yng Nghymru pan rydyn ni'n dal i ddelio ag effaith Chernobyl ar ein mynyddoedd; ac ymgyrch recriwtio dwys y fyddin sydd yn cynnwys pobl ifanc ein ysgolion.

Ond sut allwn ni newid pethau nawr?

Rwy'n credu bod yr ateb yn gorwedd yn rhannol beth bynnag mewn sefydliad neu academi heddwch. Ceir sefydliadau felly mewn nifer o wledydd eraill ond yr un rydw i'n fwyaf cyfarwydd â hi yw'r un yn Fflandrys ym Mrwsel. Rwyf wedi cwrdd â phennaeth a staff Sefydliad Heddwch Fflandrys i ddysgu mwy am eu gwaith. Prif ffocws eu gwaith yw ymchwilio i mewn i effaith penderfyniadau gwleidyddol a rôl Fflandrys mewn helpu adeiladu heddwch rhyngwladol. Mae senedd Fflandrys yn gorfod ymgynghori â nhw ac, yn fwy na hynny, mae rhaid iddynt gymryd y cyngor i ystyriaeth pan yn penderfynu ar bolisïau perthnasol, neu rhoi rhesymau dros beidio gwneud.

Rwy'n credu y byddai corff fel hyn yng Nghymru, a fyddai'n cael ei ariannu gan y llywodraeth ond yn annibynnol iddi, yn creu meddylfryd hollol wahanol yn y senedd ei hun. Petasai holl oblygiadau penderfyniadau fel adeiladu academi filwrol yn cael eu gosod o flaen gwleidyddion a'r cyhoedd, byddai'r ymateb yn wahanol. Ni fyddai'r drafodaeth yn canolbwyntio ar faint o swyddi y gellid eu creu, ond ar effaith y datblygiad ar bob agwedd o'n diwylliant, ein economi a'n hamgylchedd a delwedd Cymru yn y byd.

Byddai'r Academi Heddwch hefyd yn chwarae rôl amlwg mewn addysg ac astudiaethau heddwch, yn hyrwyddo gwerthoedd di-drais ac adeiladu cysylltiadau rhyngwladol.

Felly byddai sefydlu Academi Heddwch ('Peace Institute' yn Saesneg) yn gam mawr tuag at wireddu ein hamcanion. Mae atyniad y syniad yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o fudiadau gwahanol sydd wedi datgan cefnogaeth iddo'n barod. Llynedd, mabwysiadodd Plaid Cymru bolisi yn cefnogi'r syniad o Academi Heddwch, a phetasai'r pleidiau eraill yn ei wneud hefyd byddai'n bosib cael cefnogaeth traws-bleidiol. Fy amcan i yw gweld ymrwymiad i sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru ym maniffesto pob plaid yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011. Yna, wrth ateb y cwestiwn "A oes heddwch?", fe allen ni fel cenedl ateb, gyda hyder, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i'w sicrhau.


Ar 21 Mehefin 2014 ymgasglodd rhyw 20 o bobl yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth i gynllunio'r ffordd ymlaen ar gyfer Academi Heddwch Cymru.

Prif amcan y cyfarfod oedd edrych yn fanylach ar bwrpas a ffurf Academi Heddwch a rhannu syniadau pendant am strategaeth ac amserlen. Yr hyn yr oeddem am ei osgoi yn anad dim oedd creu siop siarad. Mae ymdeimlad bellach ymhlith y Pwyllgor Llywio ei bod hi'n hen bryd i ni ddechrau rhoi cig ar yr esgyrn, fel yr anogwyd i ni ei wneud gan adroddiad Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn ôl ym mis Hydref y llynedd.

Cawsom gyflwyniad gan Jill Evans ASE am Academi Heddwch Ynysoedd Åland (Y Ffindir). Mae'r model sydd ganddyn nhw yn un y gallwn ni efelychu i raddau - er y byddai rhaid i Academi Heddwch Cymru weddu i amgylchiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol y Gymru gyfoes. Mae eu gwaith yn cwmpasu ymchwil ond hefyd gwaith ar ddidreisedd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

Daeth rhai awgrymiadau penodol o'r cyfarfod. Dyma rai ohonynt:

  • Y dylid sefydlu'r Academi yn ffurfiol - e.e. fel Ymddiriedolaeth.
  • Bod angen ehangu'r Pwyllgor Llywio - e.e. i gynnwys Undebau Llafur a chynrychiolwyr o brifysgolion a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru.
  • Y dylem lunio cynllun busnes ac amserlen.
  • Y dylid edrych ar fodelau eraill o gyfansoddiadau a dechrau fanylu ar union amcanion a chwmpas gwaith academi.
  • Y dylem edrych ar ddyddiad pendant - e.e. 1 Mawrth 2015 i lansio'r Academi yn ffurfiol. Byddai hyn yn ddigwyddiad â phroffeil uchel. Byddwn yn edrych ar ofyn i'r Prif Weinidog lansio'r Academi.

Adar Angau Llanbedr Meirionnydd

Awyrennau di-beilot

Achos llys protestwyr Llanbedr, 2015

Ar 17 Medi 2015 bu pedwar ymgyrchydd o Gymdeithas y Cymod o flaen llys ynadon Caernarfon am beintio sloganau ar lain lanio maes awyr Llanbedr. Roeddent yn dadlau bod yn rhaid iddyn nhw weithredu i atal trosedd llawer iawn mwy, sef defnyddio awyrennau dibeilot i ladd pobl o bell, a hynny heb gyfle i’r cyhoedd na’r Senedd graffu ar gyfreithlondeb a moesoldeb eu defnydd. Roeddent gobeithio sbarduno trafodaeth am ddefnydd awyreannau dibeilot yn Senedd San Steffan drwy eu gweithred. Er bod y barnwr yn cydnabod eu bod wedi gweithredu yn ddiffuant roedd yn eu gweld yn euog o ddifrod troseddol. Ni ddyfarnodd ddirwy, ond eu rhyddhau yn amodol gan eu gorfodi i dalu £565 o gostau a iawndal yr un.

Gallwch ddarllen am yr achos ar wefan Cymru Fyw.

Meddai Anna Jane Evans o Gaernarfon: "Rwy'n gresynu bod rhaid i mi dalu fy siar o gostau glanhau'r llain lanio ond rwyf yn rhyfeddu at y nifer o bobl sydd wedi bod yn awyddus i gyfrannu. Rydym wedi casglu bron £4000, llawer mwy na chyfanswm y costau sydd i'w talu i'r llys. Byddwn yn defnyddio'r arian ychwanegol i gynhyrchu fersiwn Gymraeg o'r adnodd addysg 'Fly Kites, not Drones' ar gyfer pobl ifanc Cymru."

Ychwanegodd Awel Irene o Lanfrothen: "Mae hi braidd yn eironig fod cyhoeddiad Finmeccanica AgustaWestland am arbrofi hofrenyddion dibeilot militaraidd yn Llanbedr nôl ym mis Mai 2015 - wedi cael ei ryddhau ar Fedi 20fed, tridiau ar ôl ein hachos llys ni yng Nghaernarfon."

Ddydd Iau, Hydref 30ain 2014, fe gynhaliwyd dau gyfarfod pwysig a drefnwyd gan Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, y naill yn Llanbedr ger Harlech a'r llall y tu fas i swyddfa QinetiQ ger Blaenannerch, Aberporth. Pwrpas y cyfarfodydd oedd tynnu sylw at y datblygiadau diweddaraf gyda'r 'adar angau' neu'r 'awyrennau di-beilot' sy'n cael eu hymarfer ar hyn o bryd yn Aberporth. Wythnos cyn y cyfarfodydd fe ryddhawyd gwybodaeth fod maes awyr Llanbedr yn mynd i fod yn fan glanio i'r awyrenau di-beilot, ac o ganlyniad y byddai ardal Bae Ceredigion yn fan a fydd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad yr arfau rhyfel yma. Golyga hyn y bydd cynnydd anferth yn arwynebedd ein gwlad a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi at ryfel.

Ar hyn o bryd nid yw'r awyrennau yn cario arfau rhyfel, y prif awyren yw'r 'Watchkeeper' sydd yn cael ei reoli gan y 'Royal Artillery' ac yn hedfan draw i Fynydd Epynt er mwyn cyfarwyddo'r gynnau mawr sydd yn cael eu hymarfer yno. Er hynny mae technoleg yr arf hwn yn cael ei ddatblygu a'i ddefnyddio fel awyren arfog gan Israel yn Gasa a Phalesteina. Gyda'r datblygiad yn Llanbedr bydd awyrennau mwy yn gallu cael eu hedfan a'u harbrofi - rhai arfog.

Nid ydym yn cael gwybodaeth am y datblygiadau hyn drwy ein cyfryngau, fel y gwelwyd ar Hydref 30ain pan anwybyddwyd y digwyddiadau bron yn llwyr gan yr holl gyfryngau gydag ambell eithriad. Brwydr anodd a chyson yw ceisio cael pobl i sylweddoli beth sy'n digwydd yn ein gwlad a'r modd y mae'n hadnoddau prin yn cael eu defnyddio; fel y pwysleisia Cymdeithas y Cymod - nid ydym yn dymuno gweld economi Cymru yn cael ei ddatblygu i ddibynu ar ryfela a lladd. Ystyria Cymdeithas y Cymod mai rhan o'i gwasanaeth yn y Gymru hon yw tynnu sylw at y modd y mae'n gwlad, yn dir, môr ac awyr, yn cael eu defnyddio i wasanaethu'r rhyfelgwn, a'r modd y mae'n pobl yn cael eu militareiddio'n feddyliol ac eneidiol.

Gallwch ddarllen datganiad i'r wasg ynglŷn â gwylnos Llanbedr yma.

Ym mis Mehefin 2014 symudodd Cell Dwyryd a Glaslyn gam ymhellach yn ei hymateb i'r datblygiadau ym Maes Awyr Llanbedr, ger Harlech. Ar ôl cyfarfodydd cyhoeddus, deiseb, llythyrau i gynghorau cymunedau lleol yn ogystal â llythyrau i'r AS a'r AC lleol, - ar ôl hyn i gyd penderfynodd y grŵp weithredu yn uniongyrchol i dynnu sylw at yr hyn fydd yn digwydd yn Llanbedr.

adar angau llanbedr 2014

Yn blygeiniol ddydd Gwener, Mehefin 13eg 2014 dringodd pump o aelodau Cymdeithas y Cymod dros giât/clwyd i'r maes awyr yn Llanbedr ac ysgrifennu y geiriau "Dim Adar Angau/No Death Drones" ar y llain lanio. Ymunodd y pump wedyn gyda phump arall a fu'n cynnal tystiolaeth dawel wrth y brif fynedfa tan tua 11.00 y bore. Ar ôl i Reolwr y Safle gysylltu â Rheolwr Cwmni QinetiQ daeth yr heddlu a chymeryd enwau y rhai a weithredodd. Cafodd y pump alwad i swyddfa'r heddlu ac rydym yn dal i ddisgwyl am y canlyniad.

Oherwydd i ni hefyd lythyru â'r wasg ac oherwydd i un cynghorydd lleol ymweld â'r protestwyr (ac yr oeddent yn gwerthfawrogi hynny) i leisio ei wrthwynebiad fod 'pobl fel chi yn peryglu dyfodiad gwaith i'r ardal hon', mae'r gell yn argyhoeddiedig fod llawer iawn o anwybodaeth ar bob lefel am y datblygiad hwn. Mae anwybodaeth ynglŷn â'r cwmni QinetiQ a'u cysylltiad ag Aberporth a'r awyren ddi-beilot Watchkeeper; mae anwybodaeth ynglŷn â beth yw awyren ddi-beilot filwrol; mae anwybodaeth ynglŷn â'r sibrydion y gallai hyd yn oed y Global Hawk ddefnyddio Llanbedr gan fod y llain yn ddigon o hyd; mae anwybodaeth ynglŷn â nifer y swyddi ac ynglŷn â chynllun tymor hir QinetiQ. Pan holodd Golwg Reolwr y Safle, fe gyfaddefodd fod yna bethau 'hush-hush' na all eu trafod!

Fe gyflwynwyd llythyr i Carwyn Jones ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala yn mynegi pryderon mawr ynglŷn â'r datblygiad yn Llanbedr ac nad 'ydym yn fodlon fod Cymru yn cael ei thynnu i mewn i hybu math o ryfela y mae'r gymuned ryngwladol yn ei ystyried yn anghyfreithlon'. Fe fydd yr ymgyrch yn parhau.

Ym mis Medi 2013 daeth cyhoeddiad bod maes awyr Llanbedr ym Meirionnydd hefyd yn mynd i gael ei ddefnyddio i arbrofi awyrennau di-beilot, yn ychwanegol i'r ganolfan arbrofi yn Aberporth, Ceredigion. Ym mis Tachwedd cynhaliodd cell leol Cymdeithas y Cymod gyfarfod cyhoeddus ym Mhorthmadog i drafod hyn. Dysgodd y gynulleidfa lawer gan y tri siaradwr gwadd.

Eglurodd y Dr Gwyn Williams bryderon Cymdeithas y Cymod bod awyrennau di-beilot yn cael eu defnyddio i ysbïo ac i ymosod ar bobl. Maent yn llai costus i'w cynhyrchu a'u rhedeg nag awyrennau arferol a does dim perygl i'r peilotiaid sy'n eistedd yn ddiogel mewn swyddfa ymhell i ffwrdd. Ac felly mae eu defnydd wedi cynyddu yn aruthrol yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gan ladd nifer fawr o bobl ddiniwed ac o leiaf 200 o'r rhain yn blant. Er nad yw'r awyrennau di-beilot Watchkeeper sy'n cael eu harbrofi yng Nghymru hyd yma yn arfog, mae'n hawdd eu haddasu i gario taflegrau. Fe ddigwyddodd hyn gyda'r Reaper sydd yn awr yn arfog ac yn cario pedwar taflegryn Hellfire a dau fom.

Roedd Harry Rogers o Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bro Emlyn wedi dod yn unswydd i adrodd am brofiadau ardal Aberporth, lle mae'r awyrennau di-beilot eisoes yn cael eu harbrofi. Esboniodd fel yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £16,000,000 ar Barc Aberporth er mwyn creu "canolfan ardderchowgrwydd" ym maes awyrennau di-beilot, oedd i fod i greu 230 o swyddi yn ôl disgwyliadau 2004. Fodd bynnag, dim ond 37 o bobl fu yn gweithio yno ar ddechrau 2011. Pan sefydlwyd y ganolfan yn Aberporth, dim ond dros y môr roedd yr awyrennau di-beilot yn hedfan, ond bellach ymlaen crëwyd gofod awyr arbennig uwchben y tir, sydd yn achosi niwsans a pherygl i bobl leol. Rhybuddiodd Harry y gallai'r un peth ddigwydd yn Llanbedr. Hyd yn hyn does dim awyrennau di-beilot sifil wedi cael eu harbrofi yn Aberporth, dim ond rhai sy'n perthyn i'r fyddin, yn groes i'r addewidion gwreiddiol.

Y trydydd siaradwr oedd yr actores Mair Tomos Ifans, sy'n hanu o Ddyffryn Ardudwy. Eglurodd fel roedd hi'n cydymdeimlo gyda phobl sy'n ddi-waith, ond nad swyddi fel hyn y byddai hi'n dymuno i'w theulu, swyddi fydd yn achosi dioddefaint ac yn lladd pobl ddiniwed ym mhendraw'r byd. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru na'r cwmni Qinetiq, fydd yn gwneud yr arbrofion, wedi addo unrhyw swyddi pendant. Dim ond am "gyfleoedd" a "gobeithion" am swyddi roeddent yn sôn ar eu gwefannau.

Gallwch ddarllen sgwrs Gwyn Williams yma. Mae sgwrs Harry Rogers ar gael yma.

Ar 23 Mehefin 2012 cynhaliodd Cymdeithas y Cymod wasanaeth yn yr Hen Gapel, Aberporth i edifarhau am mai Parc Aberporth yw'r unig le ym Mhrydain i hedfan a phrofi'r "adar angau", sef yr awyrennau di-beilot arfog. Trefnwyd y gwasanaeth gan y Prifardd Mererid Hopwood a chafwyd pregeth gan y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a gweddi gan y Parchedig Cen Llwyd. Daeth dros 70 o bobl i'r gwasanaeth, a chyflwynodd Mererid ddeiseb yn erbyn yr adar angau â 1750 o enwau arni i Lywydd y Gymdeithas, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor i'w gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Gallwch lawrlwytho taflen ddwyieithog am yr awyrennau di-beilot yma. Ac mae taflen wybodaeth fwy manwl ar gael yma.

Cynhaliodd Cymdeithas y Cymod bererindod i Fynydd Epynt ar 25 Mehefin 2011 er cof am y bobl ddiniwed a laddwyd gan awyrennau di-beilot. Mae adroddiad a fideo ar gael ym mlwch Epynt ar y dudalen hon.

Gallwch ddarllen anerchiad Guto Prys ap Gwynfor yn Aberporth 2010 yma.

O Penyberth i Barc Aberporth: Croeso i Gymru Ryfelgar oedd teitl Darlith Lewis Valentine 2010, a draddoddwyd gan Angharad Mair. Gallwch ddarllen y ddarlith ar
www.clickonwales.org/2010/07/from-penyberth-to-parc-aberporth-welcome-to-warmongering-wales/.

ADAR ANGAU - ffilm am awyrennau dibeilot gan Lleucu Meinir ar Vimeo.

Recriwtio’r Fyddin

Gosododd Cymdeithas y Cymod ddeiseb ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn i Lywodraeth Cymru atal y lluoedd arfog rhag mynd i ysgolion i recriwtio.

Bu cynnydd o 15% yn y nifer o bobl o Gymru sydd yn ymuno yn y lluoedd arfog eleni. Mae Cymru yn cyflenwi bron 9% o bobl ifanc oed 16-24 i’r fyddin i’w gymharu â 5% o bobl ifanc o’r un oed o’r DU yn gyfan. Gwelir gwahaniaeth rhanbarthol hefyd gydag ysgolion yn Sir y Fflint dlawd yn cael wyth ymweliad gan y fyddin tra bod dim un ymweliad wedi bod yn yr un cyfnod yn ysgolion Bro Morgannwg lewyrchus. Sy’n dangos fod y fyddin yn targedu ardaloedd difreintiedig ein gwlad. Mewn cyfnod o ddirwasgiad economaidd does dim dewis gan lawer o bobl ifanc sydd eisiau cyfleoedd am yrfa ond i ymuno yn y lluoedd arfog.

Prydain yw'r unig wlad yn yr Undeb Ewropeaidd sy'n caniatáu presenoldeb milwrol yn ei hysgolion. Prydain hefyd yw'r unig wlad o fewn NATO ac aelodau parhaol y Cenhedloedd Unedig sy'n recriwtio plant dan 16 oed i'r lluoedd arfog. Pleidleisiodd Undeb yr Athrawon yr NUT dros wahardd propaganda camarweiniol mewn ysgolion. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf bu'r lluoedd arfog yn cynnal dyddiau arddangos arbennig dan yr enw "Dragon's March" i blant ysgol ar gaeau ystâd Rhiwlas ger y Bala ac ym Mharc Margam. Gwahoddwyd dros bedair mil o blant o ysgolion y gogledd i'r Bala i weld y tanciau ac offer milwrol o bob math. Roedd y plant yn mynd yno yn ystod amser ysgol, sy'n codi cwestiynau addysgol am golli gwersi. Mae'r fyddin yn taeru nad ymgyrch recriwtio yw'r achlysur ond o ystyried costau gosod "arddangosfa" o'r fath nid yw hyn yn gredadwy. Gwariodd lluoedd arfog Prydain £80miliwn ar recriwtio y llynedd.

Rydym wedi dewis cyflwyno ein deiseb i'r Cynulliad ar ddydd y Cenhedloedd Unedig oherwydd bod Pwyllgor y CU ar Hawliau'r Plentyn wedi gofyn i Brydain "ail feddwl ei pholisi o recriwtio plant i'r lluoedd arfog ac i sicrhau nad yw yn targedu blant o gefndir ac incwm isel".

Lansiwyd y ddeiseb mewn cyfarfod gorlawn yn y Deml Heddwch, Caerdydd ar nos Wener, 1af Mehefin 2012. Cyd-gadeiriwyd y cyfarfod gan ein Hysgrifennydd Arfon Rhys a'r Athro Robin Attfield, Cadeirydd cangen Caerdydd o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig. Dechreuodd y cyfarfod gyda nifer o ganeuon heddwch yn cael eu canu gan Gôr Cochion Caerdydd. Cafwyd areithiau grymus gan Stephen Thomas, Cadeirydd CND Cymru, a Sarah Hawys Roberts a hefyd gan Cerith Jones, Llywydd Ieuenctid Plaid Cymru a Dewi Owen o Eglwys yr Undodiaid. Lansiwyd y ddeiseb gan Arfon a ddangosodd fanylion o wefan recriwtio'r fyddin sy'n annog plant i ymuno drwy ddisgrifio gweithgareddau anturus a deniadol y lluoedd arfog.

Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau recriwtio'r lluoedd arfog ar gael yn adroddiad David Gee Informed Choice? Armed forces recruitment practice in the United Kingdom

Mae Cymdeithas y Cymod wedi cynhyrchu taflen i'w dosbarthu i bobl ifanc i egluro iddyn nhw oblygiadau ymuno yn y Fyddin Brydeinig.

Dant y Llew

Arfau niwclear

Bob blwyddyn yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol bydd y Gymdeithas yn cynnal gweithgareddau i gofio am y bom atomig a ollyngwyd ar Hiroshima ar Awst 6ed 1945. Dyma adroddiad ar brotest Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003. Byddwn yn cyfuno’r cofio am Hiroshima a Nagasaki â’n gwrthwynebiad i arfau niwclear Prydain, system Trident, ac i unrhyw arfau niwclear newydd. Eleni byddwn hefyd yn lleisio ein hanfodlonrwydd gyda’r awgrym y gallai arfau niwclear y Deyrnas Unedig gael eu symud i Aberdaugleddau petai’r Alban yn mynd yn annibynnol. 

Trident - yr ymgyrch yn parhau

Pan gyhoeddodd Llywodraeth Llundain fod y cynllun i adnewyddu arfau niwclear Trident wedi ei atal, cafodd groeso mawr gan y mudiad heddwch. Bellach rydym wedi sylweddoli nad yw cynllun adnewyddu Trident wedi dod i ben wedi'r cyfan!

Baner Cymdeithas y Cymod ar ffens Faslane, Tachwedd 2006

Mae'r Llywodraeth wedi mynd ati i arwyddo cytundebau am ddarnau o longau tanfor, am adweithyddion niwclear i'r llongau a nifer o ddarnau eraill o'r system Trident newydd. Mae hyn yn codi cwestiwn beth yw cost y cytundebau yma ac a fydd dewis gan y Senedd yn Llundain pan fyddant yn trafod y cynllun Trident eto yn 2016? Bydd y gost o atal datblygiad Trident erbyn hynny yn uchel a bydd sawl gwleidydd yn gweld fod y Llywodraeth wedi eu cyflwyno gyda fait accompli.

Felly rhaid i ni bwyso ar y Llywodraeth i beidio â chytuno i wneud mwy o waith ar Trident tan fod y Senedd yn cael cyfle i gael gwir ddewis yn 2016. Rhaid i ni beidio â chael ein twyllo gan y penawdau gobeithiol - mae adnewyddu Trident yn dal i fynd yn ei flaen yn dawel fach. Mae'r Llywodraeth yn gobeithio nad ydyn ni heddychwyr yn sylwi.

Rhowch derfyn ar Trident

Fel pawb a phobeth arall y mae arfau rhyfel yn heneiddio a phan ddigwydd hynny fe gymerir yn ganiataol fod gofyn cael rhai mwy nerthol yn eu lle.

Felly yn 1980 disodlwyd system arfau niwclear llong danfor Polaris gan system rymusach Trident gyda phob un o'i phedair llong danfor yn meddu cymaint o allu dinistriol â bom Hiroshima.

Ond daw oes weithredol Trident i ben tua 2025 ac y mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ystyried cael olynydd iddi. Gan fod Prydain (ers 35 o flynyddoedd yn ôl!) wedi arwyddo Cytundeb Atal Ymlediad Niwclear sy'n galw'r arwyddwyr i gyd-drafod mewn ymgais i ddwyn y ras arfau i ben, gellid tybio y nyddai terfyn mordaith llongau tanfor Trident yn gyfle i roi terfyn ar ein harfogaeth niwclear.

Ysywaeth y mae lle i ofni nad felly y bydd hi o gwbl. Datgelwyd cyfeiriad meddwl y Llywodraeth yng ngeiriau John Reid, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, pan ddywedodd: "Mae'n debyg y bydd angen penderfynu ynglŷn â beth, os unrhyw beth, a ddylai gymryd lle ataliwr niwclear y Deyrnas Unedig yn ystod oes y senedd bresennol." A mynegodd ei farn bersonol fod arnom angen arfau niwclear newydd rhag ofn y daw rhyw fygythiad i'r amlwg rywle, ryw bryd yn y dyfodol.

Fe allai'r Llywodraeth benderfynu estyn oes y Trident presennol neu sicrhau system newydd a allai gostio tua chwe biliwn y flwyddyn. Yn hyn i gyd y mae bwriadau'r Unol Daleithiau yn allweddol bwysig. Wedi'r cyfan mae taflegrau Trident ar les oddi wrth yr UD a'i lloerennau hi fyddai'n tywys eu hergydion. Bwriadau milwrol llywodraeth Bush fydd yn penderfynu llwybr Prydain yn y pen draw.

Gan fod sôn bellach am ddefnyddio arfau niwclear yn fwy lleol ar faes y gad mae'r drafodaeth am ddyfodol Trident yn wirioneddol bwysig. A chofier nad yw'r Llywodraeth yn ystyried mai unig ddiben ei harfogaeth niwclear ydyw atal bygythiad gan elyn. Yn ôl yn 2002 datganiad Geoff Hoon, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ar y pryd, y gellid eu defnyddio mewn ymateb i ymosodiadau cemegol neu fiolegol. Yn fwy na hynny mynnodd y gellid gwneud y defnydd cyntaf o'n harfau niwclear yn erbyn gwlad y tybid bod ei bygythiad yn un difrifol iawn.

Yn wyneb hyn i gyd mae yna bwysau ar y garfan heddwch i roi cyhoeddusrwydd i holl agweddau ein harfogaeth niwclear. Rhoddwn ein cefnogaeth lawn i CND Cymru yn ei alwad ar Lywodraeth Prydain

  • i ddadgomisiynu'r system arfau niwclear Trident,
  • i roi'r gorau i unrhyw gynlluniau ar gyfer systemau niwclear yn y dyfodol,
  • i weithio'n rhyngwladol i gryfhau cytundebau diarfogi presennol,
  • i annog diarfogi amlochrog.

Yr Eglwysi a Trident

Mae Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon wedi cyhoeddi dogfen drafod am ddyfodol arfau niwclear y Deyrnas Gyfunol. Mae'r ddogfen yn annog yr Eglwysi i drafod y pwnc pwysig yma, er nad yw yn cymryd unrhyw ochr yn y ddadl. Mae hwn yn rhoi cyfle i ni fel heddychwyr ddangos arweiniad i'r Eglwysi drwy osod ein safbwynt yn glir yn erbyn yr arfau dieflig yma. Mae yna nifer o ffeithiau sydd yn werth i ni eu defnyddio yn y ddadl:

  • Mae cynnal a chadw arfau niwclear Trident yn costio £680 miliwn i ni bob blwyddyn yn awr.
  • Mae cost adnewyddu'r arfau yn mynd i gostio o gwmpas £30 biliwn.
  • Am £30 biliwn gallai Llywodraeth Prydain hyfforddi 120,000 o nyrsys y flwyddyn am ddegawd.
  • Mae'r Llywodraeth wedi arwyddo'r Cytundeb i Beidio â Lledaenu Arfau Niwclear sy'n datgan na ddylid cryfhau'r arfau sydd eisoes mewn bod.
  • Mae Eglwysi'r Alban i gyd wedi datgan eu gwrthwynebiad i adnewyddu Trident.

Beth allwn ni ei wneud?

  • Cael Eglwysi Cymru i ddilyn esiampl yr Alban.
  • Pwyso am drafodaeth lawn yn y Cynulliad.
  • Gofyn i'r Llywodraeth yn Llundain i o leiaf ohirio penderfyniad tan ar ôl yr adolygiad nesaf o'r Cytundeb i Beidio â Lledaenu Arfau Niwclear.
  • Pwyso ar y Llywodraeth i roi'r holl ffeithiau am gost yr arfau i'r cyhoedd.
  • Ysgrifennu at y Prif Weinidog ac at ein haelodau yn Senedd San Steffan ac yn Senedd y Cynulliad.

Baner Protest Epynt

Epynt

25 Mehefin 2011: Militareiddio Cymru

Aeth tua 100 o bobl ar bererindod i faes ymarfer y fyddin ar Fynydd Epynt ar 25 Mehefin 2011. Ar “Ddydd y Lluoedd Arfog” buont yn dangos eu gwrthwynebiad i filitareiddio Cymru ac yn enwedig i arbrofi awyrennau di-beilot yn awyr Cymru.

Cynhaliwyd gwasanaeth yn adfeilion Capel y Babell dan ofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, Llywydd Cymdeithas y Cymod. Dywedodd bod yr awdurdodau yn gofyn i ni gofio’r rhai maen nhw’n ystyried yn arwyr, sef “rhai sy’n barod i ladd eraill a dioddef er mwyn i’r breintiedig allu cario ymlaen a’u breintiau”. Yn lle hynny roedd am gofio arwyr y Gymru ddiwylliedig a hanodd o ardal yr Epynt dros y canrifoedd, pobl fel John Penri, T.J. Llewelyn Pritchard a William Williams Pantycelyn.

Aeth y grŵp ymlaen wedyn i'r pentref ffug mae'r fyddin wedi'i adeiladu ar y mynydd i ddangos nad oeddent am i dir ac awyr Cymru gael eu defnyddio at ddibenion paratoi rhyfel. Roeddent yn enwedig yn gwrthwynebu'r awyrennau di-beilot sydd yn cael eu harbrofi rhwng Aberporth a'r Epynt gan fod tystiolaeth bod y rhain yn lladd llawer o bobl ddiniwed. Cafwyd seremoni i goffáu rhai o'r bobl gyffredin mae'n hysbys eu bod wedi cael eu lladd gan daflegrau a lansiwyd o awyrennau di-beilot - fel Shaza al-'Abd Muhammad al-Habbash, merch fach 10 oed a laddwyd ar 4 Ionawr 2009 pan oedd yn chwarae ar ben to ei thŷ yn Ninas Gaza.

Coffáu Shaza al-'Abd Muhammad al-Habbash, a laddwyd yn 10 oed

Coffaodd y pererinion nifer o bobl fel Shaza drwy ysgrifennu eu henwau ar y cerrig beddi ffug yn y pentref ffug. Roeddent yn ymwybodol bod mwy na thebyg llawer iawn mwy o bobl gyffredin wedi'u lladd neu eu hanafu, ond bod dim cofnod yn bodoli amdanyn nhw. Soniodd Guto Prys ag Gwynfor am ymchwil newydd gan yr Oxford Research Group a oedd yn dangos bod dyletswydd i gadw cofnod o'r holl ddioddefwyr yn ôl cyfraith ryngwladol, a galwodd ar lywodraethau'r gwledydd sy'n defnyddio awyrennau di-beilot i wneud hyn.

26 Mehefin 2010: Awyrennau di-beilot

Nid aeth Cymdeithas y Cymod i Fynydd Epynt yn 2010. Yn lle hynny cynhaliodd wasanaeth o edifeirwch o flaen Parc Aberporth, y ganolfan arbrofi awyrennau di-beilot yng Ngheredigion. Mae yna bellach, yn anffodus, gyswllt rhwng y ddau le gan fod awyrennau di-beilot yn cael eu datblygu yn Aberporth a'u harbrofi rhwng y lle hwnnw a Mynydd Epynt.

27 Mehefin 2009: 'Dydd y Lluoedd Arfog'

Dewisodd y Llywodraeth ddiwrnod Pererindod y Gymdeithas i Epynt i ddechrau diwrnod newydd yn y calendr Prydeinig: Dydd y Lluoedd Arfog. Daeth nifer dda ynghyd i Epynt o bob rhan o Gymru ar ddiwrnod pan oedd yr haul yn tywynnu ar adfeilion Capel y Babell ac ar bentref ffug, gwag Cilieni, a adeiladwyd gan y fyddin i ymarferiadau'r milwyr.

Yn ymyl y pentref ffug

Gyda'r gynulleidfa i gyd yn cyfrannu i'r gwasanaeth, roedd yn gyfle i gofio nifer o bethau. Fel y bu yn 'ddiwedd byd' yn Epynt mae'n 'ddiwedd byd' mewn llawer cymuned arall hefyd - Darfur, Gaza, Congo, Somalia, Affganistan. Nid yn unig mae cartrefi yn cael eu dinistrio, ond teuluoedd yn cael eu difa yn llwyr.

Ac ar 'Ddydd y Lluoedd Arfog' cofiwyd am filwyr led-led byd - rhai yn blant, rhai yn ddi-waith ac yn dlawd, rhai yn chwilio am yrfa ac arwriaeth, ond i gyd wedi eu denu a'u perswadio i gredu yn egwyddor 'trechaf, treisied', y dwrn dur a'r lladd cyfiawn.

Ac fel Jeremeia yn prynu darn o dir yn Anathoth fel arwydd o adfer a gobaith, dywedwyd yn Epynt fod yn bryd i'r lluoedd arfog yng Nghymru ddechrau cyflwyno y tiroedd a feddiannwyd led-led Cymru yn ôl i hyrwyddo bywyd y gymuned. Nid breuddwydio gwag yw hynny, ond rhan o raglen ymarferol i greu Cymru ple mae'r ffordd ddi-drais yn ffordd o fyw yn bersonol, fel cymuned ac fel cenedl.

Mehefin 2008: Enwau Cymraeg yn ôl ar Fynydd Epynt

T. James Jones yn darllen ei adwl
Y prifardd T James Jones yn darllen ei awdl Ffin ar safle Capel y Babell

Daeth dros ddeg ar ugain o aelodau'r Gymdeithas i'r cwrdd ger gweddillion Capel y Babell ar Fynydd Epynt ar ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2008, pan gafwyd gwasanaeth dan ofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor i gofio am y gymuned o Gymry Cymraeg a arferai fyw ar y mynydd, cyn i'r Fyddin ddwyn y tir yn 1940. Dywedodd bod hi'n bwysig ein bod yn atgoffa ein hunain a'r genedl o'r hyn ddigwyddodd ar y mynydd er mwyn cadw mewn cof y gymuned a gafodd ei dinistrio gan fyddin a oedd yn honni ar y pryd ei bod yn ei hamddiffyn. Eglurodd mai celwydd oedd y tu cefn i ryfel megis y celwydd o amddiffyn cenedl tra mewn gwirionedd y gwrthwyneb oedd yn wir, wrth i dir gael ei ysbeilio a phobl gyffredin yn dioddef.

Arwydd y Gelli Gaeth
Llywydd ac Ysgrifennydd y Gymdeithas wrth arwydd y Gelli Gaeth

Darllenodd y Parchedig T James Jones ei awdl fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd sy'n sôn am fachlud yr haul dros Fynydd Epynt, ac yn sôn hefyd fod tir Mynydd Epynt yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer milwrol a mai dim ond adfeilion y ffermydd sydd ar ôl. Teimlodd sawl un wefr wrth glywed geiriau'r awdl yn cael eu hadrodd yn y fan a'r lle yr ysbrydolwyd hwynt gan y prifardd ei hun.

Mae'r Fyddin wedi cytuno i ddymuniad Cymdeithas y Cymod i ail osod arwyddion gydag enwau Cymraeg y ffermydd ar Fynydd Epynt. Eglurodd y Parchedig Herbert Hughes, sydd wedi cofnodi hanes y troad allan o'r ffermwyr yn ei lyfr Mae'n ddiwedd byd yma, ei fod wedi bod yn pwyso ar y Fyddin ers blynyddoedd i osod yr enwau yn ôl ar y ffermydd. Dywedodd ei fod yn falch o weld bellach fod yr enwau wedi eu hadfer. Yna aeth yr aelodau o gwmpas y mynydd i weld yr arwyddion newydd ar y ffermydd megis "Gelli-gaeth" a "Cefnbryn Uchaf".

Mehefin 2007: Cofio rhyfel y Falklands

Tecwyn Ifan yn canu ffarwel i Tony Blair
Tecwyn Ifan yn canu ffarwel i Tony Blair

Daeth dros ddeugain o bobl ynghyd ar Fynydd Epynt ddydd Sadwrn 23 Mehefin 2007, i edifarhau mai yno yr hyfforddwyd milwyr a aeth i ryfel y Falklands. Cynhalwyd gwasanaeth dan arweiniad y Parch Guto Prys ap Gwynfor yn adfeilion Capel y Babell ar y mynydd. Cafwyd cân ffarwel gan Tecwyn Ifan i Tony Blair.

Dywedodd Guto Prys ap Gwynfor "mai twyll yw cychwyn bob rhyfel, a mae bob math o gelwyddau yn cael ei dweud fel digwyddodd adeg y Falklands a hefyd gyda rhyfel Iraq". Bu Guto Prys ap Gwynfor yn gweithio yn wirfoddol gyda VSO ar Ynysoedd y Falklands cyn y rhyfel yno. Eglurodd fod y bobl a gwrddodd yno i gyd yn dyheu ar y pryd i adael yr ynysoedd i fynd i fyw bywyd gwell yng Nghanada neu Awstralia. Nid oeddynt yn gallu gadael yr ynys oherwydd roeddynt yn gweithio am gyflog bach gan gwmnïau mawr Prydeinig. Roedd Llywodraeth Prydain am gadw'r bobl yno, er mwyn cael esgus i gadw'r ynysoedd oherwydd bod olew a mwynau yno. Seiliwyd y cyfiawnhad am y rhyfel ar gelwydd. Erbyn hyn mae llawer iawn o'r bobl wedi gallu gadael.

Yn y pentref ffug
Yn y pentref ffug

Roedd rhai o'r bobl leol a oedd yn cofio'r amser cyn i'r Fyddin Brydeinig gipio eu cartrefi ar fynydd Epynt wedi ymuno yn y gwasanaeth. Roeddynt yn gallu dangos ble fu eu cartrefi a'r ysgol lle does dim ond olion bellach. Cerddodd y criw hyd at bentref ffug a godwyd gan y Fyddin i hyfforddi milwyr mewn ymladd "o dŷ i dŷ". Adeiladwyd eglwys a mynwent ffug yno a bob math o dai eraill sy'n hollol wag.

Hydref 2005: Teyrnged i Gwynfor Evans

Cerddodd aelodau o Gymdeithas y Cymod ar draws tir ymarfer y fyddin ar Fynydd Epynt heb ganiatâd gan gynnal gwasanaeth ar safle Capel y Babell yno ar fore Sadwrn 8 Hydref 2005. Roedd aelodau o'r fyddin yn cynnal ymarferion ar y pryd yn agos at safle'r capel yn ystod y gwasanaeth.

Roedd y gwasanaeth yn adfeilion Capel y Babell dan ofal y Parchedig Pryderi Llwyd Jones a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor. Disgrifiodd Guto Prys ap Gwynfor sut y gorfododd y Swyddfa Ryfel bedwar cant o bobl oedd yn ffermio'r mynydd i adael o fewn ychydig wythnosau yn 1940. "Gwthiodd hynny ffin yr iaith Gymraeg ddeg milltir yn bellach i'r gorllewin" meddai "wrth i'r cymunedau Cymraeg ei hiaith yma gael eu dileu o'r mynydd". Ychwanegodd fod hi'n bwysig fod anghyfiawnder y Swyddfa Ryfel Brydeinig o chwalu bro Gymraeg gyfan ddim yn cael ei anghofio. "Nid yw'r anghyfiawnder yn mynd yn ddim llai gydag amser tra bod y fyddin yn dal ei gafael ar ein tir" dywedodd.

Cofeb Capel y Babell
Y gofeb am Gapel y Babell a'i gymuned, a osodwyd yn dilyn ymgyrch gan Gymdeithas y Cymod

Talodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones deyrnged i ymdrech fawr y diweddar Gwynfor Evans i amddiffyn y fro rhag y Swyddfa Ryfel ac adroddodd yr hanes fel y bu iddo gynnal cyfarfodydd protest ar draws fynydd Epynt yn 1940. Dywedodd "fod Gwynfor wedi gweithio yn ddiflino dros y mudiad heddwch yn ystod cyfnod anodd y rhyfel. Ac ni flinodd Gwynfor dystiolaethu fel Cristion dros heddwch gan argyhoeddi llawer o wirionedd ei ymdrech yn erbyn pechod rhyfel".

Ar ddiwedd y gwasanaeth plannwyd coeden ym mynwent Capel y Babell gan Guto Prys ap Gwynfor i gofio am waith ei dad Gwynfor Evans dros heddwch.

Gallwch ddarllen rhagor am Epynt yn:

Mae awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 2007, Ffin gan T. James Jones, yn sôn am Epynt. Gallwch ddarllen y gerdd yma.

Palestina

Mae Cymdeithas y Cymod yn cydweithio â grwpiau heddwch a chyfiawnder lleol, y Palestine Solidarity Campaign a changhennau Cymdeithas y Cymod Ryngwladol ym Mhalestina ac Israel i gefnogi ymdrechion di-drais i gael cyfiawnder i Balestiniaid yn nhiroedd y meddiant, yn Israel ac i’r ffoaduriaid. Rydym yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar y pwnc yn rheolaidd.

Ymweliadau

Yn hydref 2003 ymunodd nifer o aelodau'r Gymdeithas â grŵp a aeth ar daith gasglu gwybodaeth i Balestina. Cawsant gyfle i gyfarfod â Phalestiniaid ac Israeliaid, ac adroddant am y wal enfawr oedd yn cael ei hadeiladu a'i heffaith erchyll ar gymunedau Palestina.

Ym mis Chwefror 2005 aeth grŵp arall, ac yn anffodus doedd eu hadroddiad nhw ddim yn fwy calonogol.

Mae Cymdeithas y Cymod wedi bod yn gwrthwynebu'r wal o'r chychwyn. Ym mis Mehefin 2004 ymunodd aelodau'r Gymdeithas â mudiad Cymru yn erbyn y Wal i gynnal protest ar faes Eisteddfod yr Urdd a gafodd sylw mawr yn y cyfryngau.

Yn sgîl y protest yma, cafodd ein hysgrifennydd wahoddiad ar daith i Israel i weld drosto fo ei hun. Ceir ei adroddiad yma.

Yng ngwanwyn 2009 ymwelodd dau aelod o'r Gymdeithas â Phalestina eto, gan dystio i'r ffordd caiff Palestiniaid eu taflu allan o'u cartrefi yn hen ddinas Jerwsalem. Gallwch ddarllen eu hadroddiad yma.

Yn 2012 treuliodd un aelod o'r Gymdeithas, Jane Harries o Ben-y-bont ar Ogwr, dri mis ym Mhalestina gyda'r Ecumenical Accompaniment Programme. Gallwch ddarllen adroddiadau cyson ar ei blog:

http://janeharries.wordpress.com.

Nawdd

Yn hydref 2005 rhoes Cymdeithas y Cymod nawdd i broject traws-ddiwylliannol Gwybodaeth Amgen: O Fethlehem i Fangor i gynhyrchu CD a ddilynwyd gan gyfres o weithdai a chyngherddau gwefreiddiol ym mis Mawrth 2007. Daeth y cerddor Gwilym Morus â'i gyfeillion o Balestina, Mohammed Najem a Tareq Rantissi, draw i Gymru i ymuno â fo a Luke Evans mewn taith fer o Gymru.

Cynhaliodd y grŵp dri gweithdy i bobl ifanc a chyngherddau yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Chaernarfon. Roedd yn brofiad unigryw cael gwrando ar eu perfformiad, a oedd yn dod â dau draddodiad cerddorol at ei gilydd o flaen ein llygaid, a hynny'n fyrfyfyr i raddau helaeth. Gwerthfawr hefyd oedd adroddiadau'r ddau Balestiniad am eu bywyd bob dydd dan feddiannaeth Israel. Cawsom noson o addysg amgen i'w chofio.

Recordiwyd y perfformiadau, a'r bwriad ydy eu rhyddhau fel albwm fyw a fydd ar gael i'w brynu fel lawrlwythiad o wefan Gwilym. Yn y cyfamser gallwch wrando ar ddetholiad o ganeuon ar ei safle MySpace neu brynu'r CD cyntaf yn ein siop.

Pabi Gwyn

Pabi Gwyn ar Sul y Cofio

Dros y 100 mlynedd diwethaf mae dros 100,000,000 o bobl wedi marw mewn rhyfeloedd. Dros 60,000,000 yn drigolion diniwed – “casualties of war”. Mae’r ffigurau yma yn eu hunain yn ddigon i ddychryn rhywun.

Serch hynny bob blwyddyn mae pobl yn uno ynghyd i goffáu y milwyr a gollodd eu bywydau ar faes y gad. Yn wir, erbyn heddiw mae amryw o ddathliadau am wrhydri y milwyr, a’r diweddaraf yw dathliadau Trafalgar. Ym mhob plwyf ceir cofgolofn i goffáu y meibion a merched a gollodd eu bywydau ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Ond does yna ddim cofgolofn na gweithred i goffáu y degau o filiynau o bobl ddiniwed sydd wedi colli eu bywydau – ac yn dal i golli eu bywydau – o ganlyniad i ryfeloedd gorffwyll.

Mae'r Peace Pledge Union wedi bod yn gweithio dros heddwch ers 1934. Maen nhw'n cynhyrchu pabi gwyn gyda'r geiriau Hedd neu Peace arnyn nhw er mwyn i bobl fedru eu gwisgo ar ddiwrnod y cofio. Maent yn symbolau am yr awydd am heddwch ac yn coffáu pawb sydd wedi dioddef o ganlyniad i ryfel, nid dim ond milwyr marw y buddugwyr.

Yn ddiweddar bu i Gyngor Tref Aberystwyth gyflwyno torch o babi gwyn - yn ogystal a phabi coch - ger y gofgolofn ryfel ar ddydd y cofio fel arwydd fod cymuned Aberystwyth yn ymrwymo eu hun i heddwch ac am goffáu pawb, ein meibion a merched ni a laddwyd mewn rhyfeloedd, a meibion a merched eraill sydd hefyd wedi eu lladd.

Sut i fynd ati i roi torch wen?

Gall unrhyw un lunio torch wen a'i rhoi gerbron cofgolofn, wedi'r cyfan pobl y gymuned dalodd am y gofgolofn ac felly mae'n eiddo cyhoeddus. Ond mae cyflwyno torch gan gorff etholedig yn weithred mwy grymus, gan fod y corff hwnnw yn cynrychioli y gymuned ehangach.

Rhaid yn gyntaf cael cynghorydd tref/bro sydd yn cydymdeimlo â'r amcanion. Os yn bosib dylid cael criw o gynghorwyr. Dylid trefnu cyfarfod gyda'r cynghorydd i'w h/argyhoeddi o'r angen am dorch wen. Wedyn mae gofyn i'r cynghorydd roi cynnig gerbron y cyngor yn datgan awydd y cyngor i gyflwyno torch o babi gwyn ger y gofgolofn yn ystod y seremoni cofio. Mae'r holl ffeithiau a gwybodaeth angenrheidiol sydd ei angen er mwyn llunio dadl effeithiol ar gael ar dudalen we y pabi gwyn gan y Peace Pledge Union.

Mae cyfarfodydd cynghorau tref/bro i fod yn gyfarfodydd cyhoeddus. Mae'n syniad cael criw da ynghyd i fynychu'r cyfarfod pryd y trafodir y testun. Mae o gymorth cael amryw o lythyrau o gefnogaeth o flaen llaw wrth drigolion lleol - boed yn aelodau o'r capel, neu fudiad lleol - a'u danfon at y cynghorydd cefnogol fel tystiolaeth o'r galw cyhoeddus am y weithred.

Mae pabis gwyn gyda'r gair "hedd" ar werth yn ein siop.

Addysg

Mae Cymdeithas y Cymod yn cynnal gweithgareddau i addysgu a datblygu sgiliau ei haelodau, megis y “gwylnosau” blynyddol pan geir penwythnos o weithdai a thrafodaeth. Mae croeso i bawb. Cysylltwch os oes gynnoch chi ddiddordeb.

Llawlyfr Hyfforddi Didreisedd i Gymru

Mae Cymdeithas y Cymod wedi noddi cyhoeddi pecyn hyfforddi didreisedd a gafodd ei baratoi fel rhan o brosiect gan Cynefin y Werin. Awduron y pecyn oedd Delyn Gwynfyd Harris o Goleg y Brifysgol Aberystwyth, Ben Gregory, Llywydd Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Arfon, a’r diweddar Arfon Rhys, Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod.

Pwrpas y pecyn yw rhoi canllawiau ac adnoddau i hyfforddwyr grwpiau o bobl sydd am ddysgu mwy am sut i ddatrys gwrthdaro mewn dulliau di-drais. Ceir hanes sefyllfaoedd o wrthdaro a hanes mudiadau yng Nghymru a ddefnyddiodd ddulliau di-drais i'w datrys. Mae yna ganllawiau ac adnoddau yn y pecyn ar gyfer rhedeg cyfres o naw gweithdy ar ddidreisedd. Bydd pob gweithdy yn canolbwyntio ar agweddau gwahanol o'r pwnc megis wynebu gwrthdaro, dadansoddi gwrthdaro, adweithio i rym, sut i ymgyrchu, natur didreisedd ac ati.

Gobeithir gweld gweithdai yn cael eu cynnal ar draws Cymru gan grwpiau heddwch lleol, capeli ac eglwysi, mudiadau gwirfoddol ac ati. Mae'r pecynnau yn addas ar gyfer hyfforddwyr a thiwtoriaid sy'n gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc hŷn ac oedolion.

Mae'r pecyn ar werth am £15 yr un. Os hoffech archebu copi, cysylltwch â ni ar cymdeithasycymod@gmail.com.

Cydraddoldeb rhywedd ("gender")

Yn seiliedig ar waith y Women Peacemakers Program gan Gymdeithas y Cymod Ryngwladol ysgrifennodd Arfon Rhys ddeunyddiau ar gyfer diwrnod o hyfforddiant i gapeli a mudiadau gwirfoddol a chymunedol eraill ar gydraddoldeb rhywedd o fewn eu mudiadau. Gallwch lawrlwytho'r deunyddiau am ddim yn Gymraeg a Saesneg.

Adnoddau i ysgolion

Pecyn Wythnos Heddwch i Ysgolion. Crëwyd y pecyn 'Wythnos Heddwch' gan Raglen Addysg Heddwch y Crynwyr ym Mhrydain gyda chymorth gan ysgolion. Mae'n rhan o waith parhaus y Crynwyr dros heddwch.

Mae'r pecyn yn cynnwys syniadau a chynlluniau gwersi sydd yn cefnogi ysgolion wrth gynnal Wythnos Heddwch ysgol gyfan, sydd yn galluogi staff a disgyblion i ystyried y math o gymdeithas yr hoffent fyw ynddi. Gall gweithgareddau yn y pecyn fod o gymorth i ddatblygu'r agweddau, y gwerthoedd a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn creu byd mwy heddychlon. Gellir trefnu Wythnos Heddwch unrhyw bryd. Gall fod yn ffordd gyffrous o ddechrau tymor newydd, neu ffordd gadarnhaol o ddathlu diwedd blwyddyn ysgol. 

Mae'r pecyn Wythnos Heddwch yn cynnwys:

  • gwybodaeth i gefnogi athrawon wrth drefnu eu hwythnos heddwch
  • cynlluniau gwersi
  • adnoddau
  • deunyddiau hyfforddi staff
  • argymhellion.

Gallwch lawr lwytho'ch pecyn yn rhad ac am ddim yma!

Pecyn adnoddau 'Barcud nid Drones'. Er i'r pecyn gael ei baratoi ym Mhrydain, yr ysbrydoliaeth oedd Afghanistan, gwlad sydd wedi profi deg mlynedd ar hugain o ryfel di-dor. Y canolbwynt yw stori wir Aymel, bachgen ifanc na chafodd adnabod ei dad erioed oherwydd drone. Oni bai am ddewrder Gwirfoddolwyr Heddwch Afghanistan, ni allem rannu'r stori o gwbl. Nhw gychwynnodd yr ymgyrch 'Barcud nid Drones' sydd wedi lledu drwy'r byd.

Rhoes Cymdeithas y Cymod nawdd i brosiect Cyfanfyd a'r Ganolfan Addysg Byd a gynhyrchodd adnodd i ysgolion â'r teitl Newid Byd? Gwladychu, Gwrthdaro a Chymuned. Paratôdd Angharad Tomos ac Elenid Jones yr adnodd iaith Gymraeg yma ar gyfer addysg draws-gwricwlaidd. Addasiad ydy o o'r pecyn Colonialism, Conflict and Society (DEC [Birmingham] a Trocaire, Dublin, 1993). Mae'n trafod y pynciau llosg o wladychu, gwrthdaro a chymuned drwy fethodoleg Addysg Datblygiad, sy'n tanlinellu'r pwysigrwydd o ddysgu trwy brofiad gan ddefnyddio dulliau cyfranogol megis chwarae rôl. Cewch lawrlwytho'r pecyn yn rhad ac am ddim.

Mae'r Llawlyfr Hyfforddi Didreisedd i Gymru (gweler uchod) wedi cael ei ddefnyddio mewn rhai colegau addysg bellach ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae rhan o'r cymhwyster yn cynnwys addysg bersonol a chymdeithasol sydd yn helpu'r myfyriwr i archwilio materion yn y byd modern: teulu, iechyd, cydberthnasau, dinasyddiaeth a datblygiad cynaliadwy. Mae datrys gwrthdaro mewn modd di-drais yn rhan bwysig o addysg bersonol a chymdeithasol, ac mae'r llawlyfr o gymorth i athrawon i addysgu'r pwnc i'w myfyrwyr.

Gwaith ieuenctid

Cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2014 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2014 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn 2014 gweithiodd Cymdeithas y Cymod gyda phobl ifanc o Feirionnydd i greu Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru. Dyma lun ohonynt yn cyflwyno'r Neges yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Yng ngwanwyn 2015 rhoes y Gymdeithas ysgoloriaethau i bedwar person ifanc o Gymru ymweld â chyfarfod canghennau Ewropeaidd Cymdeithas y Cymod Ryngwladol. Gallwch ddarllen eu hadroddiad yma.