Ymchwil newydd yn datgelu dulliau recriwtio amheus y lluoedd arfog mewn ysgolion Cymreig

Mae adroddiad newydd gan dri mudiad anllywodraethol (NGO) wedi datgelu bod ymweliadau’r lluoedd arfog ag ysgolion Cymreig yn gweithio fel ‘deilen ffigys’ i recriwtio milwrol. Mae’r dystiolaeth yn gwrth-ddweud honiadau cyson y lluoedd arfog nad ydynt yn recriwtio mewn ysgolion.

Treuliodd ymchwilwyr o Gymdeithas y Cymod, Forces Watch a’r Peace Pledge Union ddwy flynedd yn darganfod, casglu a dadansoddi data am ymweliadau’r fyddin ag ysgolion yng Nghymru. Bu iddynt ddarganfod bod y lluoedd arfog yn cael eu cyflwyno’n rheolaidd mewn ffyrdd gor-syml a chamarweinol ac mae’r bobl ifanc mwyaf tlawd sy’n fwyaf tebygol o gael eu targedu. Maen nhw hefyd yn feirniadol o Lywodraeth Cymru am y diffyg gweithredu ar ei rhan yn dilyn ymchwiliad 2015 i ymweliadau’r fyddin ag ysgolion gan Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd).

Wrth lansio’r adroddiad cyn etholiadau’r Senedd ar y 6ed o Fai, mae’r tri mudiad yn galw ar wleidyddion o bob plaid i ymrwymo’u hunain i weithredu ar y mater o ymeweliadau milwrol ag ysgolion.

Eu casgliadau oedd:

  • Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw gynnydd gwirioneddol ar eu hymrwymiadau yn 2015 ynglŷn ag ymwneud y lluoedd arofg ag ysgolion Cymreig.
  • Mae’r lluoedd arfog yn cael eu portreadu mewn ysgolion mewn ffyrdd camarweiniol a gor-syml, nad ydynt yn cael eu cydbwyso gan safbwyntiau eraill ar y materion moesegol a gwleidyddol cymhleth sydd ynghlwm â’r pwnc.
  • Mae negeseuon milwrol camarweiniol yn cael eu hanelu’n gyson at y bobl ifanc mwyaf tlawd a difreintiedig.
  • Tra bod canran cymharol fychan o bobl ifanc yn cael eu recriwtio i’r lluoedd arfog, mae llawer mwy yn cael eu “recriwtio” i fabwysiadu agweddau pro-filwrol, yn aml heb glywed lleisiau amgen.
  • Mae’r sefyllfa yn cael ei waethygu gan y ffaith bod y lluoedd arfog yn recriwtio pobl ifanc o 16 ymlaen – oedran is nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.
  • Os yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i weithredu Confensiwn y CU ar Hawliau Plant, yna dylai sicrhau cynnydd yn yr oedran recriwtio yn ogystal â chymryd y camau o fewn ei gallu i gyfyngu mynediad di-reolaeth at bobl ifanc ar gyfer gweithgareddau recriwtio.

Mae awduron yr ardoddiad yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn i arwain adolygiad ffurfiol mewn i weithgareddau milwrol mewn ysgolion Cymreig.

Mae argymhellion eraill yr adroddiad yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru gynnig arweiniad ar gyfer prif athrawon ag athrawon gyrfaoedd ynglŷn â’r lluoedd arfog mewn ysgolion, a’r angen i bobl ifanc gael eu hannog i edrych ar wybodaeth ar yrfaoedd milwrol gyda meddwl agored ag agweddau ymchwilgar.

Cyflawnwyd yr ymchwil yn wyneb amharodrwydd y lluoedd arfog i gyhoeddi ystadegau pwysig a manylion eraill ynglŷn â’u gweithgareddau mewn ysgolion. Mae awduron yr adroddiad yn galw am ofyniad cyfreithiol i gael ei gyflwyno fel bod yn rhaid i’r lluoedd arfog ddatgelu gwybodaeth o’r fath.

Dywedodd Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod: “Mae yna gyfle unigryw i Lywodraeth nesaf Cymru wneud gosodiad cadarn ynglŷn â statws Cymru fel gwlad sy’n caru heddwch, a gwlad nad yw’n barod i’w plant gael eu targedu ar gyfer recriwtio milwrol heb gwestiynu hynny.’

Dywedodd Symon Hill o’r Peace Pledge Union: “Nid yw disgyblion yn clywed lleisiau yn aml sy’n feirniadol o’r lluoedd arfog pan maen nhw’n cael eu gwahodd mewn i ysgolion. Yn dilyn COVID, dylwn fod yn codi ein huchelgais drwy gynnig sgiliau i bobl ifanc gall gynorthwyo adferiad gwyrdd i Gymru, yn hytrach na’u gwthio nhw tuag at yrfaoedd peryglus a fydd yn niweidio eu hiechyd meddwl.

Dywedodd Emma Sangster o ForcesWatch: “Cynghorwyd Llywodraeth Cymru yn 2015 i sicrhau bod ystod eang o gyflogwyr yn ymweld ag ysgolion er mwyn rhoi gwybodaeth i ddisgyblion am gyfleoedd gyrfaol. Maen nhw wedi anwybyddu’r argymhelliad hwn, ac o ganlyniad mae’r lluoedd arfog wedi cael rhwydd hynt i barhau a’u gweithgareddau recriwtio mewn ysgolion, sy’n gwrth-ddweud agenda hawliau plant Cymru.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w darllen yn Gymraeg ac yn Saesneg yma:

Recruitment of children to the military in Welsh schools – FINAL

Recriwtio plant yn ysgolion Cymru – TERFYNOL

Nodiadau

  1. Mae Cymdeithas y Cymod, cangen y Fellowship of Reconciliation yng Nghymru, yn rhan o fudiad rhyngwladol, gyda seiliau ysbrydol y mae eu haelodau yn bobl sydd, ar sail y gred sylfaenol yng ngrym cariad a gwirionedd i greu cyflawnder ac adfer cymuned, yn ymrwymo eu hunain i ddulliau di-drais gweithredol fel ffordd o fyw a ffordd o drawsffurfio – yn bersonol, gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Gweler www.cymdeithasycymod.cymru
  2. Mae’r Peace Pledge Union (PPU) yn rwydwaith o heddychwyr yn y DU. Mae aelodau’r PPU yn ymrwymo i beidio cefnogi rhyfel ac i weithio yn lle hynny tuag at ddileu achosion rhyfel. Y PPU yw’r gangen Brydeinig o War Resisters’ International, sy’n uno heddychwyr o gwmpas y byd. Gweler www.ppu.org.uk
  3. Mae ForcesWatch yn fudiad yn y DU sy’n ymroi’n llwyr i ymchwilio militareiddio, moeseg fiwrol ac achosion hawliau dynol. Maen nhw’n datgelu ac yn herio gweithgareddau recriwtio milwrol anegwyddorol, materion sy’n effeithio milwyr a chyn-filwyr, a mentrau sy’n anelu i gynyddu cefnogaeth ar gyfer rhyfel. Gweler www.forceswatch.net
  4. Nid yw Cymdeithas y Cymod, ForcesWatch a’r Peace Pledge Union yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleiddyol. Mae eu haelodau yn cynnwys cefnogwyr o sawl plaid ac eraill nad ydynt yn cefnogi unrhyw blaid.