Cyfrannwch at waith Cymdeithas y Cymod

Rhoddion Arlein

Gwariwch arian ar arbed bywyd, nid lladd bywydMae’r Gymdeithas yn gwerthfawrogi pob rhodd ac yn eich sicrhau y bydd defnydd priodol yn cael ei wneud o’r arian er mwyn hyrwyddo achos heddwch a chyfiawnder. Rydym yn dibynnu yn gyfangwbl ar gyfraniadau unigol a sefydliadol i ariannu ein gweithgareddau.

Os ydych am wneud rhodd ariannol arlein trwy PayPal Giving Fund yna cliciwch ar y botwm canlynol: 

Rhif Elusen: 700609

Cyfrannu trwy Siec

Gallwn dderbyn rhoddion drwy siec i “Cymdeithas y Cymod yng Nghymru”. Y cyfeiriad i anfon eich siec ato ydy:

Lester Bath
Trysorydd
25 Ffordd Ffrydlas
Carneddi
Bethesda
LL57 3BL

Rhodd Cymorth

Os ydych yn dymuno ychwanegu Rhodd Cymorth at eich cyfraniad bydd hyn yn ychwanegu 25c at bob £1 yr ydych yn ei gyfrannu. Er mwyn ychwanegu Rhodd Cymorth at eich cyfraniad, mae angen i chi gytuno â’r datganiad isod:

“Rwyf am ychwanegu Rhodd Cymorth at fy nghyfraniad ac unrhyw gyfraniadau a wnaf yn y dyfodol neu a wnaed gennyf yn y 4 mlynedd diwethaf i Gymdeithas y Cymod. Rwyf yn drethdalwr yn y DU ac yn deall, os byddaf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth Enillion Cyfalaf na swm y Rhodd Cymorth a hawliwyd ar fy holl gyfraniadau yn y flwyddyn dreth honno, fy nghyfrifoldeb i yw talu unrhyw wahaniaeth.”

Diolch o galon am eich haelioni.