Gwennoliaid Epynt

Mae’n anodd credu bod bron i flwyddyn ers y Cofio; cofio am y troad allan o Fynydd Epynt yn 1940  a’r chwalfa a ddadleolodd 54 o aelwydydd. Fe ddiflannodd blwyddyn dan ein trwynau a honno’n flwyddyn heriol i’n cymunedau oll. Er bod y clo wedi llacio ychydig erbyn hyn, mawr oedd ein siom a’n tristwch ar y pryd na fedrwn ymgymryd â’r bererindod arferol i Fynydd Epynt. Ond gyda phob rhwystr daw cyfle a thrwy wyrth technoleg a chyd weithrediad Cymdeithas Y Cymod a’r Eisteddfod Genedlaethol, trodd y coffau hefyd yn ddathliad o’r hyn sy’n ein tynnu ni at ein gilydd a’n cyfannu ni fel cymdeithas a chenedl.

Trwy gyfryngau cymdeithasol a rhyfeddodau rhithiol roedd modd ymgysylltu â disgynyddion a ffrindiau’r Epynt hyd a lled Prydain a thu hwnt. Daeth cymuned newydd ynghyd ar dudalen facebook “Atgofion Epynt” a, diolch i ymgyrch Cofio Epynt gan Gymdeithas Y Cymod ar twitter, daeth Epynt i sylw cynulleidfa ehangach o lawer. Cafwyd rhaglen gyfoethog o ddigwyddiadau ar lwyfan rithiol yr Eisteddfod Gendlaethol [AmGen] gan gynnwys hanes Epynt trwy eiriau cyn drigolion a disgynyddion.

Cerdd Waldo Williams ddaeth yn ganolbwynt i ymgyrch “Cofio Epynt” Cymdeithas Y Cymod a honno’n gerdd sy’n ymwneud ag effaith militariaeth ar Gymru. Mae arwyddocad y gerdd yn amlwg wrth ystyried dyddiad ei chyhoeddi, sef 1939 y flwyddyn cafodd ffermwyr ardal Castell Martin eu troi allan pan hawliodd y fyddin 6,000 o erwau.  Dewiswyd y gerdd hon nid yn unig fel symbol o’r troad allan o Epynt ond i gynrychioli tynged yr holl gymunedau coll a’r bobl sy’n cael eu dadleoili heddiw. Mae symboliaeth y wennol fach yn fwy o lawer na’i maint. Yn aderyn sy’n adnabyddus am ei dycnwch a’i ffydd, uwchben pob dim mae hi’n symbol o obaith – gobaith y daw yr haf wedi gaeaf hir ac heriol. Parch a gobaith oedd yn gyrru’r cofio yn 2020 – parch at yr hyn a fu a gobaith y daw adferiad i’n cymunedau wedi argyfwng y firws.

Un a gafodd ei hysbrydoli oedd yr artist a cherflunydd lleol Tanwen Wilkinson. Mae Tanwen yn byw gyda’i theulu yn Nolwar, Crai. A hithau wedi gweithredu dros heddwch ers blynyddoedd lawer, fe welodd Tanwen gyfle i roi llais nid yn unig i deuluoedd Epynt ond hefyd i’r holl bobl sy’n cael eu dadleoli heddiw. Mae Tanwen wedi creu nifer cyfyngedig o wenoliaid cwbl unigryw ac mae’n bleser cyhoeddi bod y gwenoliaid bellach ar gael i’w prynu a hynny trwy wefan Cymdeithas Y Cymod a Chymdeithas Yr Iaith Gymraeg. Mae Tanwen wedi creu gwenoliaid sy’n dwyn enwau godidog ffermydd Epynt ar eu hadennydd fydd o ddiddordeb mawr i ddisgynyddion y ffermydd rheini. Bydd modd archebu gwennol sy’n “hedfan” [hongian] neu wennol ar stand.

Dyma Tanwen yn ei geiriau ei hun yn son am ei hysbrydoliaeth a’i chysylltiad gyda thir ac hanes Epynt.

Fy enw i yw Tanwen Wilkinson. Rwyn artist yn ardal Bannau Brycheiniog. Rwyf wedi defnyddio technegau hynafol adeiladu a llaw i greu dros 200 o wenoliaid; pob un yn unigryw.

Codais a thriniais glai o wely afonydd a nentydd Epynt a’i gymysgu â chlai ffatri.Mae’r gwenoliaid felly yn ymgorffori harddwch gwyllt a chalon tirlun Mynydd Epynt. Mae’r gwydredd raku crackle yn ein hatgoffa o blu neu wythiennau neu wreiddiau, neu efallai gwe fel ffyrdd ar fap. Gwnaed bon y cerflun o ddarnau wast llinynnau diwydiannol, miniog ac o hen ffenestri. Trod y tywydd y ddraenen wen yn ddu ac yn igam-ogam o arw, yn debyg i fanadl llosg ar fynyddoedd sy’n mudlosgi, a’i dail wedi eu blingo gan greaduriaid.

Mae’r gwenoliaid, wrth ddal anadl y gwynt, yn chwibanu’r gobaith y cawn ni i gyd, ryw ddiwrnod, ddychwelyd i Fynydd Epynt. A’r dydd hwnnw, cawn gasglu ein gwenoliaid at ei gilydd a’u galw i ganu ar awel yr haf.