Emyr Humphreys: 1919-2020

Nofelydd . Bardd. Dramodydd. Darlithydd. Cynhyrchydd. Ymgyrchydd.  Gwrthwynebydd Cydwybodol.  Cenedlaetholwr.  Cymro. Cristion.  Ewropead o fri.

“Mae’n beth arbennig bod dyn mor fawr yn coleddu heddychiaeth” Mererid Hopwood.

 

Diwedd ar gyfnod clo o fath arall a gafwyd  ddiwedd mis Medi gyda marwolaeth Emyr Humphreys  yn 101 mlwydd oed. Ef oedd yr olaf efallai o’r genhedlaeth honno a gyfrannodd  yn helaeth i’n diwylliant a’n gwerthoedd fel cenedl gan oroesi rhai o’i gyfeillion megis Saunders Lewis, R. S Thomas, Wil Sam ac eraill. Ond beth yw ystyr yr olaf a’r cyntaf pan ddaw yn fater o gloriannu gwaith llenor?

‘ Cyntaf ei og, cyntaf ei gryman.’ Mae’r ddihareb yn hynod  berthnasol wrth  feddwl am  y meysydd toreithiog y bu Emyr yn ymlafnio ynddynt. Yr hyn a wnai ei gyfraniad yn wahanol  i’w gyfoedion oedd ei lafur mewn amryw feysydd , ac yn aml ‘mewn dau gae’ o safbwynt ysgrifennu yn  Saesneg, ei iaith gyntaf, ac yna yn  Gymraeg  hefyd. Does yr un llenor arall yng Nghymru’r ugeinfed ganrif wedi llwyddo i asio’r fath gydadwaith  a hynny  gydag angerdd ac argyhoeddiad.

Awdur dau ddwsin o nofelau, storiau byrion, cyfrolau o farddoniaeth ( heb anghofio’r  Penguin Modern Poets 27,  gyda beirdd  Saesneg nodedig  eraill), dramâu, sgriptiau, a’r gyfrol oedd yn agoriad llygad i mi  am lenyddiaeth Cymru drwy’r Saesneg  The Taliesin Tradition’.  Annigonol mewn pwt o lith fel hwn yw dehongli a didoli ei weithiau i gyd a’u dylanwad ar sawl  cenhedlaeth o ysgrifenwyr  heddiw.

Dywedodd  mewn rhagair yn un o’i gyfrolau o farddoniaeth:

Gellid honni bod ysgrifennwr yn mwynhau mwy o gyfle dewis ffordd o fyw, a hyd yn oed ei fyd, na’r rhelyw. Ac eto, os yw’n Gymro, yn yr oes ddwyieithog hon, hawdd y gall y dewis droi’n dynged neu felltith: pa iaith, pa hunaniaeth, pa wrogaeth?

Gŵr o egwyddor  oedd Emyr, un oedd yn barod i sefyll dros werthoedd  gwâr. Bu’n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan dreulio amser yn yr Eidal yn gweithio gyda  Chronfa Achub y Plant gan  gynorthwyo’r ffoaduriaid  yno.

Yn yr un modd, bu’n ymgyrchydd dros yr Iaith  Gymraeg gan fynd i’r carchar dros  y Sianel Deledu. Yr oedd gyda’r hynaf o  ymgyrchwyr bryd hynny, y rhai oedd yn barod i  ymuno  yn  ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith. Meddai eto wrth feddwl am yr iaith a heddychiaeth:

Wrth edrych yn ôl ar hynt a helynt Cymreictod a’r iaith  Gymraeg o gyfnod Penyberth drwy ddyddiau du yr Ail Ryfel Byd a thensiynau diddarfod Y Rhyfel Oer a’r Oes Atomig, all parhad ein cenedl a’n hiaith fod yn ddim mwy na thestun syndod a llawenydd…  Ac eto, meddai dro arall a sylw sydd wedi ei ysgrifennu wrth ymyl fy nesg: Mae bod yn ddwyieithog yn ymdrech foesol.

Cyn cloi’r pwt hwn o deyrnged, hoffwn bwysleisio ei ddynolrwydd, ei addfwynder, ac mai dyn  diymhongar ydoedd. Cefais y fraint o’i gyflwyno unwaith mewn darlleniad yn America gan ddweud wrth y gynulleidfa y  byddai, siwr  gen i fod wedi cael ei ystyried am wobr Nobel am ei holl weithiau oni bai iddo berthyn i’n cenedl fach ni yng Nghymru.

Yn sicr, ni fydd na chloi na chlo ar waith Emyr Humphreys.  Rhagwelaf y bydd cenedlaethau  yn  darganfod  ei lyfrau gan ryfeddu o’r newydd at ei allu i greu cymeriadau  byw, effro i wewyr a gorfoledd bywyd.  Ac am ei gyfrol olaf   Shards of Light,  a gyhoeddodd pan oedd yn 99 mlwydd oed,  ceir gweledigaeth ddyrchafol  fel ymhlith cerdd arall o’i eiddo ‘ Raptus’:

‘ A’r gallu gennyt i drawsnewid

Lliw ffenestr gwyll a gwawr’.

 

Menna Elfyn