Dechrau Byd – cyfweliad gydag Angharad Tomos

Diolch am gytuno i rannu dy feddyliau, Angharad! Rwyt ti’n aelod o Gymdeithas y Cymod, ond yn adnabyddus trwy Gymru ers degawadau nid yn unig fel llenor ond hefyd fel ymgyrchydd profiadol. Sut wyt ti’n gweld y syniad yma o Gymru ddi-drais yn 2040?

Y peth cynta wnaeth fy nharo wrth feddwl am hyn a deud y gwir oedd nad yw 2040 mor bell i ffwrdd â hynny. Yr ofn sy genna i wedyn yw na fydd dim byd wedi newid mewn ugain mlynedd! Wrth ystyried yr ugain mlynedd sy wedi pasio ers y flwyddyn 2000, mae’n ddychrynllyd braidd achos mewn sawl ffordd, mae llawer o’r pethau hynny y bydden ni wedi gobeithio eu gweld yn newid yn dal yr un fath o hyd, neu yn waeth. A wedyn dwi’n mynd i anobeithio braidd, cyn cofio mai symbyliad i weithio yn galetach  ddylai hynny fod.

Ac wrth feddwl am weithio mae rheswm i obeithio hefyd. Bydda i’n meddwl am y newidiadau a fu yn ystod fy mywyd i – Mandela yn dod o’r carchar, er enghraifft. Gwelais wylnos 24 awr dros Mandela o flaen Llysgenhadaeth De Affrica yn Llundain, a meddwl ar y pryd fod yr achos yn gwbl anobeithiol – ond yna mi ddoth, yn do? A phetha eraill hefyd – wal Berlin, hawliau i ferched, S4C a statws yr iaith. Ac mi allwn ni gymryd hyder yn y pethau hynny, yn donig i sinigiaeth henaint!

Mae’r cyfnod hwn rydyn ni’n byw trwyddo ar hyn o bryd yn berthnasol hefyd: y pandemig yma. Mae wedi newid persbectif llawer o bobl dwi’n meddwl. Dwi’n cofio trafod â chymdoges yma ym Mhenygroes lle dwi’n byw. Ac roedden ni’n cnoi cil ar y pandemig a’r sioc a’r ffaith fod pob dim wedi newid yn llwyr mewn mater o wythnosau, a dyma hi’n dweud, ‘Mewn ffordd, mae’n gwneud i chi feddwl am y boms a’r rhyfela yma ar y newyddion. Does dim pwynt iddyn nhw, nac oes?’ Hynny yw, yn wyneb y bygythiad anferthol yma i fywydau pawb, gan gynnwys Johnsons a Bolsonaros y byd yma, mae eu bytheirio gwleidyddol nhw yn mynd i edrych braidd yn bathetig.

Ochr arall y pandemig wedyn oedd y cydweithio bendigedig welson ni’n digwydd. I mi, roedd gweld meddygon Ciwba yn dringo i awyren i fynd i’r Eidal yn ysbrydoledig. Dwi’n cofio meddwl, dyna ni’r synnwyr yna o gyfrifoldeb dros gyd-ddyn y mae cymaint o angen arnom i’w feithrin! A dwi ddim yn meddwl ei fod yn gyd-ddigwyddiad o fath yn y byd mai yn y gwledydd hynny y mae ganddyn nhw arweinwyr benwyaidd y gwelson ni’r ysbryd yma ar ei orau, ac a gafodd y llwyddiant mwyaf o ran achub bywydau yn y pandemig. Nid trechaf treisied biau hi gyda nhw!

 

Diddorol iawn. Cytuno’n llwyr bod y ddau beth yna – y rhesymau cryfion i obeithio, ond eto hefyd cymaint i’n peri i anobeithio. Petai ein cymdeithas yn dewis llwybr gobeithiol, a’n bod yn cyrraedd rhyw Gymru ddi-drais yn 2040, sut le fyddai hi, wyt ti’n meddwl?

O, hollol wahanol. Un o’r pethau fyddai’n ein taro ni ar unwaith dwi’n meddwl fyddai’r diffyg ofn. Efallai ei bod hi’n anoddach i genedlaethau iau ddeall hyn, ond i ni a fagwyd yn y 60au, roedd cysgod yr Ail Ryfel Byd ar bopeth, roedd o’n hydreiddio dy ddychymyg. Roedd o ar gof pobl, ond hefyd yn yr ysgol, ar y teledu, mewn cylchgronau a llyfrau a seremoniau swyddogol. Ac wedyn roedd hynny yn effeithio ar y diwylliant mewn cymaint o ffyrdd.  Roedd o fel propaganda i raddau – yn yr ysgol, bydden ni’n clywed rhyw naratif simplistig dros ben, ‘When the Allies dropped the atomic bomb, that ended the war’. Dyna ni! Jest fel hynny. Chawson ni ddim clywed am wir effeithiau Hiroshima a Nagazaki. Roedd y syniad o ‘white supremacy’ yno fel rhan o hynny. Roedd y Gorllewinwyr wedi trechu! Rhyw hyfdra ofnadwy, a hynny yn llurgunio’r diwylliant. Felly mewn Cymru ddi-drais, byddai yna ryw ansawdd i’r awyrgylch fyddai’n wahanol iawn i heddiw, am fod yr opsiwn a’r meddylfryd militaraidd ddim yno yn y cefndir.

Mae Epynt yn ddiddorol wrth feddwl am hyn, o ran ymwybyddiaeth diwylliant. Pan on i yn yr ysgol doedd heddwch ddim yn cael sylw o fath yn y byd. Ac wedyn doedd stori rhywle fel Epynt ddim yn cael sylw chwaith. Felly doedd pobl ddim yn cael gwybod am rannau pwysig o’u hanes eu hun. Byddai’r hanesion hyn wedi ein hysbrydoli. Yma yn Nyffryn Nantlle, er enghraifft, bu gorymdaith anferth o ferched yn 1926 i brotestio yn erbyn militariaeth yn sgil y Rhyfel Mawr. ‘Hedd nid cledd’ oedd eu slogan nhw. Ac fe ymgynullodd 2000 o bobl yma yn y pentre wrth iddyn nhw gychwyn ar orymdaith i Lundain. A merched Greenham yn debyg iddynt ddegawdau yn ddiweddarach a aeth o Dde Cymru, neu ferched Belarws nawr! Mae modd i ferched newid y sefyllfa. Mae’n rym yna ddylid ei ddibrisio. Ond dwi wedi crwydro rywfaint nawr…

Merched Greenham

Na, mae’n ddiddorol iawn! Roeddet ti’n son dwi’n meddwl am effaith militariaeth ar ein dychymyg?

Ie. Mae storiau pobl gyffredin mor bwysig. Mae gen i gof da adeg rhyfel Irac – ron i yn y ward mamolaeth ac yn sgwrsio gyda nyrs. Daeth yr adroddiad newyddion o Irac ar y teledu, yn dangos y dinistr, a dyma’r nyrs yn dechrau crio. Dwi’n cofio ei geiriau hyd heddiw, ‘Dyma ni wrthi’n dod a bywydau newydd i’r byd ac yn ceisio eu hachub ac edrych arnyn nhw yna yn lladd!’

Mae cadw mewn cof yr effeithiau real ar bobl real mor bwysig. Heb hynny byddwn ni’n normaleiddio rhywbeth na ddylem ni ddim ei normaleiddio. Mae addysg yn rhan o hyn; rydyn ni wedi normaleiddio diffyg cyfleoedd i’n plant mewn cymaint o froydd ac wedyn i’r Fyddin yr ân nhw am fod y Fyddin yn eu targedu nhw. Mae isio dileu’r opsiwn yna.

Ond mae gen i obaith – mae barddoniaeth Gwenallt, Waldo ac eraill yn help gyda hynny. Fel y cwpled yna gan Waldo, ‘Beth yw arfogi? Rhoi cyllell yn llaw’r baban’. Dyna sut dylid edrych ar recriwtio.

 

Pa le felly sydd gan lenyddiaeth i chwarae yn y daith yna i Gymru 2040 yn dy farn di?

Wel, mae’n hanfodol os ydyn ni am weld diwylliant lle mae heddwch yn gwbl normal. Mae perygl i ni ystyried heddwch fel rhywbeth tawel – ond rhywbeth actif ydi o mewn gwirionedd. Mae rhaid wrth ymdrech. Nid ein cyflwr naturiol yw bod yn dangnefeddwyr, ond trwy ymdrechu mae gobaith. Felly rhaid apelio at y dychymyg er mwyn cael pobl i weithredu. Dwi’n cofio mudiad ‘Swords into Ploughshares’ yn y nawdegau. Roedden nhw’n fodlon gwneud ychydig o ddifrod ac yna mynd i’r llys am wneud, er mwyn stopio difrod mwy. Ac mae gwrando ar dystiolaeth ymgyrchwyr yn werthfawr! Mae’n medru bod yn agoriad llygad i bobl, a rhaid i straeon gobaith a herio ddod yn rhan o’n diwylliant. Yn y bôn, eisiau helpu pobl ydan ni i beidio â gwadu realiti syml iawn: na ladd.  A phethau eraill – peidio cael cyfranddaliadau mewn cwmniau arfau sy’n cadw’r pethau hyn i fynd am fod pobl yn elwa o arfau. Tynnu sylw, dro ar ôl tro.

Gwaith diflino.

Ie – a dydy o ddim yn ofer! Mae yna ganlyniadau i ymgyrchu dros gymod. Dwi’n cofio’r trais yn Iwerddon barodd ddegawdau. Ac erbyn hyn mae wedi dod i ben i raddau helaeth. Felly mae’n bosib i bethau newid yn ddramatig iawn, ac er gwell. Roedd Ian Paisley a Martin McGuinness, y gelynion mawr, yn fodlon ysgwyd llaw a dechrau siarad a thrafod. Newid mewnol, go iawn fel hynny yw’r sail i gychwyn cymod. Gwnaed gwaith aruthrol hefyd yn Ne Affrica i newid agweddau pobl wrth ddileu apartheid – drwy ddod a phobl at ei gilydd i gymodi.

Felly dyna ni, dwi’n meddwl: newid graddol a gawn ni er mwyn cyrraedd 2040, trwy weithio’n ddiwyd tuag ato gam wrth gam. Gawn ni weld!

Cyfweliad gan Carwyn Graves