Datganiad ar wersyll “annerbyniol” Penalun

Yn dilyn sefydlu gwersyll ymgeisiwyr lloches Penalun a’r hyn a ddatgelwyd yn ddiweddar yn amdano, mae Cymdeithas y Cymod yn condemnio gweithredoedd y Swyddfa Gartref wrth iddi ddarparu llety a chyfleusterau craidd annigonol i’r rheiny sy’n byw yno ar hyn o bryd.

Ymhelaetha Jac Sollis, aelod o’r Gweithgor Cymod Ifanc, cangen ieuenctid y Gymdeithas, ar y mater:

“Mae’r diffyg lletygarwch a’r driniaeth annerbyniol o’r ceisiwyr lloches a sy’n westeion yn y gwersyll yn tanseilio eu hawliau dynol, heb os. Tanseiliwyd hefyd ymgyrch Cymru i fod yn wlad noddfa, a lle croesawgar ar gyfer unigolion sy’n ffoi rhag erlidigaeth ac amgylchiadau peryglus. Ymbiliwn ar Gyngor Sir Benfro i wrthwynebu’r hyn a wnaethpwyd gan y Swyddfa Gartref, a sylweddoli difrifoldeb y mater. Cymeradwywn ymateb diweddar Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, ond galwn arno i wrthdystio’n bellach, ac i geisio gwella’r sefyllfa er budd i’r bobl sydd yno, hyd eithaf y mae ei bwerau yn caniatàu.”

“Galwn hefyd ar drigolion lleol ac eraill sy’n gytûn â Chymdeithas y Cymod mai sarhad o’r radd eithaf i geisiwyr lloches yw’r hyn a wnaethpwyd, i arddangos eu hanfodlonrwydd trwy ffyrdd sy’n parchu’r sefyllfa bresennol (e.e. osgoi ymgynnull mwn grwpiau mawrion, a chadw at reolau pellter cymdeithasol.)”

‘Heb gynllunio nac ymgynghori’

Daw condemniad Cymdeithas y Cymod wedi i’r Swyddfa Gartref sefydlu gwersyll dros dro yn hen farics milwrol Penalun ar gyfer 240 o unigolion gwrywaidd rhwng 17-26 blwydd oed sy’n ceisio hawlio lloches, ac adroddiadau diweddar o’r cyfleusterau craidd a fu yno amdanynt, a’u bod wedi’u gadael i ‘ddysgu Saesneg trwy Youtube’, ac i rannu ystafelloedd gydag 8 o gyd-ddeiliad heb breifatrwydd. Adroddwyd yn y Wasg yn ogystal bod deiliaid Penalun yn teimlo eu bod yn ‘garcharorion’ o’i fewn.

Galwa Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, ar y Swyddfa Gartref i ymddiheuro, yn sgil y ffaith eu bod wedi sefydlu’r gwersyll ‘heb gynllunio, heb gynnal gohebiaeth nac ymgynghori’, yn ôl adroddiadau BBC Cymru. Bu gwrthdystiadau gan nifer o grwpiau a mudiadau cyhoeddus yn erbyn sefydliad Gwersyll Penalun, gan gynnwys Stand up to Racism West Wales, a gefnogwyd gan TUC Cymru, yn ôl y Western Telegraph.

Ym mis Hydref, adroddwyd na roddodd y swyddfa Gartref wybod o’i chynlluniau i letya ymgeisiwyr lloches o wledydd fel Irac, sy’n ffoi meysydd rhyfela, i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Simon Hart AS, hyd yn oed. Fe’i hysbyswyd am ddefnydd Barics Penalun fel gwersyll i letya ymgeisiwyr lloches ‘trwy Facebook’, rhywbeth sy’n hynod gan fod Penalun o fewn ei etholaeth seneddol ef – Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

“Mawr obeithiwn y bydd deiliaid Penalun yn derbyn y cyfiawnder y maent yn ei haeddu, yn fuan a heb oedi pellach. Yn ddiau, gan ystyried eu bod yn ddioddefwyr hunllefau rhyfel, nid yw’n syndod bod llawer ohonynt yn dioddef yn feddyliol wrth gael eu cartrefu o fewn amgylchedd milwrol – hen farics milwrol, cyn-ganolfan hyfforddi’r Lluoedd Arfog. Sut fedrai’r Swyddfa Gartref gyfiawnhau eu dioddefaint? Hyd y gwn i, gallan nhw ddim,” meddai Jac Sollis.