Amdanom ni

Ein Cefndir

Mae Cymdeithas y Cymod yn rhan o fudiad heddwch rhyngwladol IFOR (International Fellowship of Reconciliation) sydd â changhennau ar draws y byd ac yma yng Nghymru. Mae’r aelodau yn wrthwynebwyr cydwybodol i ryfel a thrais. Credwn mewn dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro, gan weithio dros heddwch. Mae bod yn heddychwr yn golygu tystio’n barhaus i’r byd fod grym cariad yn gryfach na grym arfau, a bod casineb a dial yn arwain at ddistryw. Gwrthwynebwn drais ar bob lefel mewn cymdeithas gan gynnwys trais yn y cartref, trais yn erbyn lleiafrifoedd yn ein cymdeithas, a thrais ar lefel ryngwladol.

Sefydlwyd Cymdeithas y Cymod yn 1914 gan wrthwynebwyr cydwybodol i ryfel ar sail eu cred Cristnogol. Erbyn heddiw mae wedi datblygu i fod yn fudiad aml-ffydd o heddychwyr gyda chenhadaeth ysbrydol i atal gwrthdaro a chreu cyfiawnder ar sail eu cred yng ngrym cariad Duw. Mae’r aelodau yn ceisio byw bywyd di drais, gan ymdrechu i greu trawsnewid personol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. 

Ein Cefndir

"Beth bynnag a ddigwyddo, ni newidir ein perthynas ni. Rydym yn un yng Nghrist, ac ni all fod rhyfel rhyngom ni."

Dyma eiriau Almaenwr wrth Sais ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, a dyma un o'r hadau y tyfodd Cymdeithas y Cymod ohoni. Ym mis Gorffenaf 1914 cynhalwyd cynhadledd eciwmenaidd rhyngwladol yn yr Almaen gan Gristnogion a oedd yn ceisio rhwystro'r rhyfel a oedd yn crynhoi. Yn anffodus dechreuodd y Rhyfel cyn i'r gynhadledd orffen a rhaid oedd i'r cynhadleddwyr fynd adref. Er hyn, cyn gwahanu yng ngorsaf Cwlen, dywedodd Friedrich Sigmund-Schulze, gweinidog Lwtheraidd o'r Almaen, y geiriau uchod wrth ei gyfaill Henry Hodgkin, Crynwr o Loegr. 

Gyda'r addewid yma mewn meddwl, daeth Cristnogion at eu gilydd yng Nghaergrawnt dros ddyddiau olaf y flwyddyn, a sefydlwyd Cymdeithas y Cymod. Roedd traddodiad cryf o heddychiaeth Cristnogol yn bodoli'n barod, yn enwedig ymysg rhai o'r enwadau anghydffurfiol, a daeth Cymdeithas y Cymod â pharhâd i'r dystiolaeth heddwch a welwyd eisioes.

Bu cyfraniad Cymru i'r Gymdeithas yn un gwerthfawr iawn o'r dechrau. Yn wir, Richard Roberts o Flaenau Ffestiniog oedd ei hysgrifennydd cyffredinol llawn-amser cyntaf, a bu George M.Ll. Davies, un o heddychwyr enwocaf Cymru, yn arweinydd blaenllaw. Fel nifer o Gymry eraill, roedd ymroddiad George M.Ll. i heddwch yn ddwfn iawn, a chafodd ei garcharu am gyfnodau sylweddol am wrthwynebu rhyfel a gorfodaeth milwrol.

Trwy gyfnod anodd y Rhyfel Mawr fe ledodd yr argyhoeddiad o nerth Cymod Crist a'i berthnasedd i'n byd ni, ac yn 1919 daeth Cymdeithas y Cymod Rhyngwladol i fod. Bellach mae'n fudiad aml-ffydd gyda dros 40 o ganghenau tra wahanol ar draws y byd. Ym Mhrydain mae'r Gymdeithas wreiddiol wedi rhannu'n ganghennau annibynnol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban; a mae cysylltiadau clos hefyd gyda mudiadau heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r Gymdeithas yng Nghymru'n parhau i lynu wrth ei sylfeini Cristnogol, ond estynir croeso i rai o argyhoeddiadau gwahannol i rannu'n llawn yn ein gweithgareddau.

Dechreuodd ein Cymdeithas mewn ymateb i ryfel gyda'r argyhoeddiad ein bod yn un yng Nghrist, beth bynnag fo'r rhaniadau a greuwyd gan gyd-ddyn. Nod y Gymdeithas heddiw yw parhau i dystio'n gadarn ac adeiladol i'r Cymod yng Nghrist, gan arddel heddychiaeth a didreisedd fel ffordd o fyw. Law-yn-llaw gyda gwrthwynebu rhyfel, ymrwymwn ein hunain i sefydlu cymuned fyd-eang heddychlon sy'n rhydd o anghyfiawnder a gormes. Uniaethwn gyda pawb dan ormes cyfundrefnau anghyfiawn, beth bynnag fo'u cenedl, hil neu grefydd, a chwiliwn yn barhaus am ffyrdd newydd didrais o drawsnewid sefyllfeydd o'r fath.

Gallwch ddarllen rhagor yn llyfr Gwynfor Evans ar Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru.

Dyma Sylfeini Cymdeithas y Cymod a osodwyd gan sylfaenwyr y Gymdeithas. 

  1. Y mae cariad fel y datguddiwyd ac y dehonglwyd ef ym mywyd a marwolaeth Iesu Grist yn cynnwys mwy nag a ganfuwyd eto. Y cariad hwn yw'r unig beth a all orchfygu drygioni, a'r unig sylfaen ddigonol i gymdeithas.
  2. Er mwyn sefydlu trefn fyd-eang wedi ei sylfaenu ar gariad, y mae'n hanfodol i'r rhai sy'n credu yn yr egwyddor hod ei derbyn yn gyflawn yn eu bywydau eu hunain ac yn eu perthynas ag eraill, ac i wynebu'r canlyniadau a olyga gweithredu'r egwyddor hon mewn byd nad yw, hyd yn hyn, wedi ei dderbyn.
  3. Fel Cristnogion gwaherddir i ni ryfela. Yn hytrach y mae ein teyrngarwch i'n gwlad, ein cariad at gymydog, a'n ffyddlondeb i Iesu Grist ein Harglwydd, yn galw arnom i'n cysegru'n hunain i seilio ein bywyd personol, cymdeithasol, masnachol a chenedlaethol ar gariad.
  4. Y mae Gallu, Doethineb a Chariad Duw yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau'r profiad presennol. Y mae Duw beunydd yn chwilio am gyfle i dorri mewn i'n bywyd mewn ffyrdd newydd a helaethach.
  5. Gan mai drwy wragedd a dynion y mae Duw'n amlygu ei hun yn y byd, yr ydym yn ein cyflwyno'n hunain i Dduw a'i bwrpas achubol, i gael ein defnyddio ym mha ffordd bynnag y bydd Duw yn ei ddatguddio inni.

Os bu yna syniad chwyldroadol erioed yna didreisedd yw hynny. Mae'r syniad o ddatrys gwrthdaro mewn modd di-drais yn syniad sy'n ceisio newid natur cymdeithas, ac yn fygythiad i'r rhai mewn grym. Cafodd y bobl sydd wedi arddel y syniad o ddidreisedd ei hystyried yn bobl beryglus ar hyd yr oesoedd.

Maent yn bobl sydd wedi cwestiynu mawredd Cesar, Napoleon, Roosevelt a Churchill. Yn ystod pob gwrthdaro treisiol, boed yn Groesgad, Chwyldro neu Ryfel mae yna bobl sydd wedi ymwrthod â lladd gan ddadlau fod trais yn bechod ac yn ffordd aneffeithiol yn y pen draw i ddatrys y sefyllfa. Mae'r bobl yma wedi talu'r pris hefyd am ddilyn ffordd tangnefedd, fel yr aeth yr Iesu i'r groes, ac fe lofruddiwyd Gandhi a Martin Luther King, yn ein hoes ni.

Mae pob crefydd yn y byd wedi trafod grym didreisedd a drygioni trais. Mae'r Hindŵiaid yn dweud mai didreisedd yw'r gyfraith uchaf, a'r ddelfryd. Mae crefydd y Bwda yn gwahardd lladd gan gredu mai'r ffordd o gyrraedd y lefel uchaf o fodolaeth yw drwy gynorthwyo eraill. Ystyr y gair Islam yw heddwch. Mae un o'r deg gorchymyn a gafodd Moses gan Dduw yn dweud "Na ladd". Fe aeth Iesu Grist yn bellach drwy ein gorchymyn i "garu ein gelynion". Roedd yr Eglwys Fore yn ymwrthod trais yn llwyr, ac roedd Cristnogion yn barod i farw yn hytrach na lladd neb.

Hyd at 312 Oed Crist pan ddaeth Cristnogaeth yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig, drwy dröedigaeth yr ymerawdwr Cystennin Fawr, roedd Cristnogion wedi dilyn ffordd tangnefedd yn unig. Wedi 312 Oed Crist fe gafwyd am y tro cyntaf y syniad o'r milwr Cristnogol, ac erbyn y bumed ganrif roedd Awgwstws o Hippo wedi datblygu'r syniad o "rhyfel gyfiawn". Ond mae Cymdeithas y Cymod heddiw yn credu yn yr hyn a welir yn yr Efengylau sef esiampl Iesu Grist o ddidreisedd cyson yn ystod ei fywyd a'i farwolaeth ar y groes ac yn yr hyn a ddywedodd wrthym:

"Clywsoch fel y dywedwyd, 'Câr dy gymydog a chasâ dy elyn'. Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid; felly fe fyddwch yn feibion i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'r haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn."

Mathew 5.43

Dydy trais ddim yn datrys dim, ond yn arwain at fwy o drais. Mae trais yn ymddangos fel pe bae yn gweithio dros dro, ond yn y tymor hir mae'n creu anghyfiawnder a'r awydd i ddial. Gwelwn hyn drwy'r ffaith na fu rhyfel erioed sydd wedi arwain at heddwch parhaol. Nid trwy ryfel a thrais y cawn heddwch. Dim ond drwy gymod rhwng y 'gelynion' y daw heddwch.

Hanes Gweithredu Di-drais yng Nghymru

Dylanwad y ffydd Gristnogol dros y canrifoedd fu yn gyfrifol am y traddodiad cryf o heddychiaeth yng Nghymru. Datblygodd y syniad o weithredu di-drais oddi fewn y mudiad cenedlaethol hefyd gan athroniaeth ac esiampl ymarferol Ghandi. Un o'r gweithredoedd di-drais cyntaf oedd llosgi yr ysgol fomio ym Mhenyberth yn 1936 gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams. Nid oedd dinistrio eiddo yn cael ei ystyried yn drais. Diffiniwyd trais fel trais yn erbyn person. Un agwedd bwysig o weithredu di-drais yw'r parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb llawn am y weithred, ac i dderbyn y gosb. Fe wnaeth y tri cenedlaetholwr fynd yn syth i'r orsaf heddlu leol i gyfaddef eu trosedd. Cawsant gyfle wedyn i gyfiawnhau eu gweithred yn gyhoeddus mewn llysoedd barn cyn cael eu carcharu.

Yn 1951 medrodd aelodau o Blaid Cymru atal y Swyddfa Ryfel rhag sefydlu gwersyll hyfforddi milwrol ar 5000 erw o dir Trawsfynydd drwy eistedd ar y ffordd i atal trafnidiaeth milwrol rhag cyrraedd y safle. Mae'n drist sylwi fel y penderfynodd aelodau Plaid Cymru yn eu cynhadledd yn Llandudno eleni i beidio â gwrthwynebu academi filwrol Sain Tathan. Fel y dywedodd yr Arglwydd Aston "mae cael grym yn llygru". Mae gweld gwleidyddion yn troi cefn ar draddodiad ac egwyddorion eu plaid er mwyn ennill grym yn tristáu dyn.

Yn 1960 methwyd ag atal dinas Lerpwl rhag boddi Capel Celyn drwy ddulliau di-drais. Er hynny bu'r methiant hwn yn sail i dyfiant teimladau cenedlaetholgar yng Nghymru a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu ein Cynulliad Cenedlaethol. Gellir dadlau mai yn y tymor hir y gwelir ffrwyth gweithredu di-drais.

Rhaid cyfaddef fod rhai pobl wedi defnyddio dulliau treisiol yn ystod yr ymgyrch i achub Capel Celyn. Pe byddent hwy wedi llwyddo mae'n eithaf tebygol y gallai cenedlaetholwyr yng Nghymru fod wedi creu sefyllfa o drais tebyg i'r hyn welwyd yng Ngogledd Iwerddon. Yn ffodus iawn i Gymru roedd arweinwyr Plaid Cymru ac yn arbennig yr heddychwr o genedlaetholwr Gwynfor Evans wedi sefyll yn gadarn yn erbyn dulliau treisiol gan orchfygu yr elfennau hynny oedd yn arddel trais. Cafodd Byddin Rhyddid Cymru a Mudiad Amddiffyn Cymru eu hynysu, er iddynt aros yn y cysgodion gan ymddangos unwaith eto yn ystod protestiadau yr Arwisgo yn 1969.

Digwyddodd y rali genedlaethol gyntaf gan CND Cymru yn 1961, a cofiaf i ni eistedd ar y ffordd tu allan Castell Caerdydd dan arweiniad Pwyllgor y Cant Cymru. Ugain mlynedd yn ddiweddarach yn 1981 penderfynodd criw o ferched o Gymru fynd i sefydlu Gwersyll Heddwch Greenham Common ger cartref y taflegrau Cruise. Ymunodd merched o wledydd eraill yn y gwersyll ac arhosodd rhai tan ddiwedd y rhyfel oer. Defnyddiodd y gwersyll heddwch ddulliau dramatig i ddangos perygl y taflegrau Cruise i'r cyhoedd. Yn 1986 roedd yna brotest mawr gan heddychwyr yng Nghaerfyrddin i atal adeiladu lloches niwclear yno.

Ambell waith mae un unigolyn yn gallu gwneud gwahaniaeth fel yn achos Mrs Eileen Beasley. Penderfynodd hi yn y 1950au cynnar i ofyn i Gyngor Tref Llanelli am gael ei phapurau treth yn y Gymraeg. Afraid dweud ar y pryd roedd yr holl dogfennau swyddogol yng Nghymru ar gael yn Saesneg yn unig. Gwrthododd y Cyngor Tref i argraffu papurau'r dreth yn y Gymraeg ac fe ddechreuodd y frwydr am nifer o flynyddoedd yn erbyn Mrs. Beasley. Gwrthododd hi dalu'r dreth ac fe gollodd ddodrefn o'r tŷ. Cafodd gefnogaeth gan y gymuned leol ac yn diwedd enillodd ei gweithred ddi-drais.

Soniodd Saunders Lewis am ymdrech Mrs Beasley yn ei araith enwog Tynged yr Iaith. Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fel canlyniad i'r araith yn 1963. Bu hi'n bolisi gan Gymdeithas yr Iaith o'r dechrau i weithredu mewn dull di-drais. Rhwygwyd eiddo ac yna cymerodd aelodau'r Gymdeithas gyfrifoldeb dros eu gweithredoedd. Cosbwyd yr aelodau gan yr awdurdodau gyda chyfnodau o garchar a dirwyon. Yn y diwedd cefnogwyd hwy gan y cyhoedd a cafwyd deddf iaith drwy ddulliau di-drais. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dal ati i ddefnyddio dulliau di-drais i gael cyfiawnder llawn i'r iaith Gymraeg.

Mae dulliau di-drais yn gallu llwyddo yn y tymor hir os yw pobl yn ddigon penderfynol ac yn barod i dderbyn cyfrifoldeb a chosb dros eu gweithredoedd. Rhaid fod yn barod i ddioddef dros achos cyfiawn pan y defnyddir dulliau di-drais. Nid yw heddychiaeth yn golygu eistedd yn ôl a gwneud dim ond i fod yn weithredol ddi-drais gan herio anghyfiawnder a thrais ar bob cyfle. Mae angen meddwl am ffyrdd creadigol o weithredu yn ddi-drais i ddod ag unrhyw achos i olwg y cyhoedd ac i geisio cael cefnogaeth.

Arfon Rhys, Hydref 2009

Cyfansoddiad Cymdeithas y Cymod

Lawrwythwch y Cyfansoddiad ar ffurf pdf

Ymunwch â Chymdeithas y Cymod

Mae Cymdeithas y Cymod yn fudiad rhyngwladol o bobl sy’n credu mewn grym cariad a’r gwirionedd i greu cyfiawnder a chymuned drwy gysegru ei hunain i ddilyn ffordd o fyw di drais gweithredol fel modd i drawsnewid byd yn bersonol, gymdeithasol, economaidd, a gwleidyddol.

Ymunwch â Chymdeithas y Cymod yng Nghymru arlein, neu llenwch y ffurflen ymaelodi a’i hanfon at:

Eleri Davies
Ysgrifennydd Aelodaeth
99 Baldwins Lane
Croxley Green
Rickmansworth
Herts
WD3 3LT 

Mae tâl aelodaeth am flwyddyn yn £20 i deulu, a £15 i unigolyn. Ni chodir tâl ar ieuenctid o dan 25 mlwydd oed, a nid oes rhaid wrth dâl aelodaeth o gwbl os oes gennych anawsterau ariannol.

Os ydych am dalu gyda siec, gwnewch yn daladwy i ‘Cymdeithas y Cymod’ os gwelwch yn dda.

Cyfrannwch at waith Cymdeithas y Cymod

Pwysicach na dim byd yw eich croesawu i gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd.