Adnoddau

Mae’r adnoddau isod i gyd ar gael i chi eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Ond rydym bob amser yn croesawu rhoddion tuag at ein gwaith.

Adnoddau dysgu

Pecyn Ysgolion Wythnos Heddwch – Adnoddau ar gyfer wythnos o weithgareddau ysgol-gyfan (Addas ar gyfer y Cwricwlwm Newydd). Adnoddau ategol. Mentrau ategol. Cynlluniau gwersi. Cysylltiadau â’r Cwricwlwm.

Barcud nid Drones. Er i’r pecyn gael ei baratoi ym Mhrydain, yr ysbrydoliaeth oedd Afghanistan, gwlad sydd wedi profi deg mlynedd ar hugain o ryfel di-dor. Y canolbwynt yw stori wir Aymel, bachgen ifanc na chafodd adnabod ei dad erioed oherwydd drone. Oni bai am ddewrder Gwirfoddolwyr Heddwch Afghanistan, ni allem rannu’r stori o gwbl. Nhw gychwynnodd yr ymgyrch ‘Barcud nid Drones’ sydd wedi lledu drwy’r byd.

Newid Byd? Gwladychu, Gwrthdaro a Chymuned. Adnodd i ysgolion: rhan 1; rhan 2; rhan 3; rhan 4.

Hyfforddiant mewn cydraddoldeb rhywedd (“gender”) i fudiadau gwirfoddol a chymunedol

Oedfaon heddwch

Mae Cymdeithas y Cymod yn cyhoeddi deunyddiau i gynnal oedfa heddwch ar Sul Heddwch (y Sul agosaf at Ddydd Heddwch y Byd, sef 21 Medi).

Pecyn oedfa heddwch 2017 – addasiad Robin Samuel o becyn gan Gymdeithas y Cymod yn Lloegr

Pecyn oedfa heddwch 2012: Llais o Jerwsalem gan Pryderi Llwyd Jones

Trefn wasanaeth ar gyfer Sul y Cofio. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymod yn 1993.

Anerchiadau ac ysgrifau

Anerchiad gan Guto Prys ap Gwynfor am derroristiaeth yng Nghyngor Blynyddol y Cymdeithas, Mehefin 2017

Heddychiaeth – un o’r hanfodion. Anerchiad gan Guto Prys ap Gwynfor yng nghynhadledd A Oes Heddwch?, Mehefin 2014.

Y Groesffordd. Llythyr at Eglwysi Cymru gan Guto Prys ap Gwynfor. Yn cynnwys seiliau diwinyddol heddychiaeth Gristnogol.

Militareiddio Cymru – erthygl gan Arfon Rhys.

Twf Militariaeth – Y Chwalfa Amgylcheddol. Anerchiad gan y Dr Charlotte Davies

Anerchiad a draddodwyd gan Owain Llŷr Evans yng ngwasanaeth cofio Hiroshima Cymdeithas y Cymod, 6 Awst 2012.

Gall unigolyn, cenedl a diwylliant gofio ac anghofio ryw bethau ar fwriad; cofio neu anghofio i bwrpas...

Gall diwylliant, cenedl ac unigolyn dewis a dethol pa bethau i gofio ac anghofio, er mwyn creu, a chynnal dealltwriaeth o'r hyn ydym, ond, pan dry hyn oll yn hunan dwyll, mae'r canlyniadau'n erchyll.

Rhoddir pwysau arnom i gofio; i gofio ein pobl ni a laddwyd. Cawn weld lluniau ohonynt, a chlywed sôn amdanynt, a chawn wybod amdanynt fel plentyn, rhiant neu gymar. Daw y meirw hyn yn bobl real iawn i ni, ac o ganlyniad, fe ddown i deimlo'n agos iawn at y rhai a gollodd eu bywydau yn Afghanistan. Ers 2001, lladdwyd 422 o filwyr Prydeinig.

Ond os cawn ein gyson annog i gofio rhain, cawn gymorth i anghofio fod pobl Afghanistan hefyd yn marw a dioddef. Tair mlynedd ar hugain o ryfela, miliwn a hanner wedi eu lladd, tair miliwn a hanner yn ffoaduriaid. Cawsom ein harbed, os nad ein hatal wir, rhag gweld pobl Afghanistan yn claddu eu meirw. O orfod bod yn dyst i hynny, byddem wedi cael ein brifo llawn cymaint ag y cawsom gan olygfeydd Wootton Bassett a bellach Brize Norton. Dyw'r pethau na welwn ddim yn gadael hanner cymaint o argraff arnom a'r pethau a welwn. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, 'roedd y tywallt gwaed yn erchyll, ond, tywallt gwaed ar faes y gad oedd hwnnw; milwr yn lladd milwr. Erbyn ein cyfnod ninnau, mynnwn cael cofio, ac annog gofio - atgoffa eraill o'r hyn y tueddir i anghofio: nid oes rhagor y fath beth a 'Maes y Gad'; 'Maes y gad' yw'r ddinas, y dref y pentref. Ymladdir rhyfel cyfoes yng nghanol pobl, a phobl sydd yn bennaf yn dioddef a marw.

Gall unigolyn, cenedl a diwylliant gofio ac anghofio ryw bethau ar fwriad, cofio neu anghofio i bwrpas, i greu, a chynnal dealltwriaeth o'r hyn ydym, delwedd i eraill cael gweld; ond, pan dry hyn oll yn hunan dwyll, mae'r canlyniadau'n erchyll.

Rhoddir pwysau arnom i gofio Hiroshima; buasai neb call yn gwadu'r angen o flwyddyn i flwyddyn i gofio yr hyn a ddigwyddodd ar Awst y 6ed 1945, ond mae'r ffordd o gofio llawn mor bwysig a'r arfer o gofio. Cofiwn heddiw, nid yn unig erchylltra ddoe, ym mhendraw'r byd, ond hefyd, mynnwn cael cofio, ac annog gofio - atgoffa eraill o'r hyn y tueddir i anghofio: mae cysylltiad annatod rhwng Hiroshima Awst y 6ed 1945, a Aberdaugleddau Awst y 6ed 2012. Mae ein cofio heddiw yn gosod rhwymedigaethau arnom. Mae caniatáu parhad arfau niwclear, mae caniatáu i longau tanfor yn cario taflegrau Trident i heigio yn Aberdaugleddau yn benderfyniad sydd yn gorfod bod, am wn i, yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod modd defnyddio'r arfau hyn o dan amgylchiadau arbennig. Ni allaf, ac ni allwn ganiatáu i'r fath ragdybiaeth sefyll. Erys yr hyn a ddigwyddodd yn Siapan, Awst 1945 yn her i'r hyn sydd yn digwydd ym mis Awst 2012. Deisyf am i'n neges lwyddo a wnawn heddiw, nid am ein diogelwch ein hunain. Nid swcr a geisiwn, ond dewrder i sefyll ein tir doed a ddel.

Gall unigolyn, cenedl a diwylliant gofio ac anghofio ryw bethau ar fwriad, cofio neu anghofio i bwrpas, i greu, a chynnal dealltwriaeth o'r hyn ydym, delwedd i eraill cael gweld; ond, pan dry hyn oll yn hunan dwyll, mae'r canlyniadau'n erchyll.

Cofiwn heddiw, nid yn unig y bom a ffrwydrodd uwchben Hiroshima, ond hefyd, mynnwn cael cofio, ac annog gofio - atgoffa eraill o'r hyn y tueddir i anghofio: sef gwarth eithaf yr eglwys Cristnogol yn y cyfnod hwnnw. Yr union un ymateb a gafwyd i erchylltra Hiroshima, ag i erchylltra yr Holocost: brysiwyd heibio i'r aswy yn dawel, dawel, gan fud obeithio'r gorau. Mae Awst y 6ed 2012, yn gyfle i'r Cristnogion yn ein plith i sylweddoli, a chyhoeddi mai ymwrthod â llwfrdra cyfaddawd yw cais pwysicaf Duw i ddyn. Mae pob gweddi heb edifeirwch, pa mor daer bynnag y bo, yn ddiystyr. Os ydym yn dewis cadw'n dawel am bethau na ddylid byth cadw'n dawel amdanynt, mae ein tawelwch yn siarad, yn siarad cyfrolau am beth yw gwir hyd a lled, uchder a dyfnder ein ffydd.

Gall unigolyn, cenedl a diwylliant gofio ac anghofio ryw bethau ar fwriad, cofio neu anghofio i bwrpas...

Cofiwn heddiw, nid yn unig Enola Gay a Little Boy, ond hefyd, mynnwn cael cofio, ac annog gofio - atgoffa eraill o'r hyn y tueddir i anghofio: y ffaith i'r Arlywydd Harry S. Truman argyhoeddi ei bobl, bod gollwng bom i ddifa Hiroshima, a thridiau'n ddiweddarach bom arall - meddyliwch bom ARALL ymhen tridiau - i ddifa dinas Nagasaki yn weithredoedd o hunan amddiffyn cenedlaethol: The atom bomb was no "great decision". It was merely another powerful weapon in the arsenal of righteousness. 'Roedd yn rhaid gwneud y ddeubeth hyn i ddiogelu'r Unol Daleithiau: When you have to deal with a beast, you have to treat him as a beast. It is most regrettable but nevertheless true. Heddiw, mynnwn cael cofio, ac annog gofio - atgoffa eraill mor hawdd ydyw, ac mor hoff ydym o ddweud celwydd wrthym ni ein hunain amdanom ein hunain.

Gall unigolyn, cenedl a diwylliant gofio ac anghofio ryw bethau ar fwriad, cofio neu anghofio i bwrpas...

Cofiwn heddiw, nid yn unig Hiroshima, ond hefyd, mynnwn cael cofio, ac annog gofio - atgoffa eraill o'r hyn y tueddir i anghofio: Pam i ni yma'n cofio rhywbeth na ddylai yn enw pob rheswm, fod wedi digwydd o gwbl! 130,000 o bobl yn ulw! Neithiwr yn Hiroshima, gollyngwyd 130,000 o ganhwyllau i lif oesol yr afon Ota - pob un gannwyll yn cynrychioli bywyd a gollwyd. Pam y fath lanast o ladd? Cwestiwn heb ei ateb yw'r Pam hwn. Ond, y mae bod yn onest wrth ei ofyn yn bwysicach yn y pen draw na llwyddo i fod yn slic wrth ei ateb.

Tra yn Siapan yn 2005, mi ges i gyfle i ymweld â Hiroshima. Ailadeiladwyd y ddinas newydd o gwmpas adfail - gweddillion o'r hyn a fu: Cromen Gembaku, neu'r Gromen Atomig. Fe'm hudwyd gan yr adfail hwn; i mi o leiaf, 'roedd holl brysurdeb a bwrlwm, ac egni y newydd, yn troi ar echel yr adfail hwn. Saif yr adfail hwn fel nodyn atgoffa, ni ellid anghofio byth yr hyn a ddigwyddodd. Saif ryw bethau o'r gorffennol, fel adfail dinas Hiroshima, yn nodyn atgoffa yng nghanol ein prysurdeb cyfoes. Heddiw, wrth gofio Hiroshima, cawn ein hatgoffa mae hanfod yr hyn ydym yw'r hyn yr hyn a gofiwn, a'r hyn a ddewiswn anghofio. Yng nghanol bywyd y byd, mae adfail Hiroshima. Ailadeiladwyd bywyd y byd o gwmpas yr adfail hwn. Ein ffordd o gofio, neu anghofio'r pethau hyn yw mesur ein dynoliaeth. Mae'r dewis beth i gofio a beth i anghofio yn ddewis tyngedfennol i bob unigolyn, cenedl a diwylliant.

Erthygl gan Jill Evans ASE, Is-Lywydd Plaid Cymru, Cadeirydd CND Cymru

Jill Evans Mae gennym yng Nghymru ymrwymiad cryf i heddwch. Dros y canrifoedd bu Cymry yn amlwg yn y mudiad heddwch, nid yn unig yng Nghymru neu ym Mhrydain ond yn fyd eang. Gellir defnyddio sawl enghraifft; bob blwyddyn mae ein pobl ifanc yn anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da at bobl ifanc y byd; o Gaerdydd dechreuodd yr orymdaith i Gomin Greenham a ddaeth yn symbol o brotest heddychlon yn rhyngwladol; a'n dyheadau i fod yn genedl ddi-niwclear.

Ond beth yw ystyr hyn i gyd os na allwn eu gwireddu? Fel rhywun sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru, mae'r ateb tymor hir yn glir. Ond am y tro beth bynnag, mae gennym lywodraeth ein hunain heb y pwerau i ffurfio polisi "amddiffyn" i Gymru. 

Canlyniad hynny yw bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y llywodraeth Brydeinig, heb unrhyw ystyriaeth o'n traddodiad o ymgyrchu dros heddwch a chyfiawnder.

Felly cynlluniau'r llywodraeth honno sydd gyda ni, fel preifateiddio hyfforddiant y lluoedd arfog a'i rhoi i gyd mewn academi filwrol enfawr yn Sain Tathan; cynlluniau ar gyfer gorsaf niwclear newydd yng Nghymru pan rydyn ni'n dal i ddelio ag effaith Chernobyl ar ein mynyddoedd; ac ymgyrch recriwtio dwys y fyddin sydd yn cynnwys pobl ifanc ein ysgolion.

Ond sut allwn ni newid pethau nawr?

Rwy'n credu bod yr ateb yn gorwedd yn rhannol beth bynnag mewn sefydliad neu academi heddwch. Ceir sefydliadau felly mewn nifer o wledydd eraill ond yr un rydw i'n fwyaf cyfarwydd â hi yw'r un yn Fflandrys ym Mrwsel. Rwyf wedi cwrdd â phennaeth a staff Sefydliad Heddwch Fflandrys i ddysgu mwy am eu gwaith. Prif ffocws eu gwaith yw ymchwilio i mewn i effaith penderfyniadau gwleidyddol a rôl Fflandrys mewn helpu adeiladu heddwch rhyngwladol. Mae senedd Fflandrys yn gorfod ymgynghori â nhw ac, yn fwy na hynny, mae rhaid iddynt gymryd y cyngor i ystyriaeth pan yn penderfynu ar bolisïau perthnasol, neu rhoi rhesymau dros beidio gwneud.

Rwy'n credu y byddai corff fel hyn yng Nghymru, a fyddai'n cael ei ariannu gan y llywodraeth ond yn annibynnol iddi, yn creu meddylfryd hollol wahanol yn y senedd ei hun. Petasai holl oblygiadau penderfyniadau fel adeiladu academi filwrol yn cael eu gosod o flaen gwleidyddion a'r cyhoedd, byddai'r ymateb yn wahanol. Ni fyddai'r drafodaeth yn canolbwyntio ar faint o swyddi a ellid eu creu, ond ar effaith y datblygiad ar bob agwedd o'n diwylliant, ein economi a'n hamgylchedd a delwedd Cymru yn y byd.

Byddai'r Academi Heddwch hefyd yn chwarae rôl amlwg mewn addysg ac astudiaethau heddwch, yn hyrwyddo gwerthoedd di-drais ac adeiladu cysylltiadau rhyngwladol.

Felly byddai sefydlu Academi Heddwch ('Peace Institute' yn Saesneg) yn gam mawr tuag at wireddu ein hamcanion. Mae atyniad y syniad yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o fudiadau gwahanol sydd wedi datgan cefnogaeth iddo'n barod. Llynedd, mabwysiadodd Plaid Cymru bolisi yn cefnogi'r syniad o Academi Heddwch, a phetasai'r pleidiau eraill yn ei wneud hefyd byddai'n bosib cael cefnogaeth traws-bleidiol. Fy amcan i yw gweld ymrwymiad i sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru ym maniffesto pob plaid yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011. Yna, wrth ateb y cwestiwn "A oes heddwch?", fe allen ni fel cenedl ateb, gyda hyder, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i'w sicrhau.

 

Ar 21 Mehefin 2014 ymgasglodd rhyw 20 o bobl yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth i gynllunio'r ffordd ymlaen ar gyfer Academi Heddwch Cymru.

Prif amcan y cyfarfod oedd edrych yn fanylach ar bwrpas a ffurf Academi Heddwch a rhannu syniadau pendant am strategaeth ac amserlen. Yr hyn yr oeddem am ei osgoi yn anad dim oedd creu siop siarad. Mae ymdeimlad bellach ymhlith y Pwyllgor Llywio ei bod hi'n hen bryd i ni ddechrau rhoi cig ar yr esgyrn, fel yr anogwyd i ni ei wneud gan adroddiad Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn ôl ym mis Hydref y llynedd.

Cawsom gyflwyniad gan Jill Evans ASE am Academi Heddwch Ynysoedd Åland (Y Ffindir). Mae'r model sydd ganddyn nhw yn un y gallwn ni efelychu i raddau - er y byddai rhaid i Academi Heddwch Cymru weddu i amgylchiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol y Gymru gyfoes. Mae eu gwaith yn cwmpasu ymchwil ond hefyd gwaith ar ddidresedd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

Daeth rhai awgrymiadau penodol o'r cyfarfod. Dyma rai ohonynt:

  • Y dylid sefydlu'r Academi yn ffurfiol - e.e. fel Ymddiriedolaeth.
  • Bod angen ehangu'r Pwyllgor Llywio - e.e. i gynnwys Undebau Llafur a chynrychiolwyr o brifysgolion a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru.
  • Y dylem lunio cynllun busnes ac amserlen.
  • Y dylid edrych ar fodelau eraill o gyfansoddiadau a dechrau fanylu ar union amcanion a chwmpas gwaith academi.
  • Y dylem edrych ar ddyddiad pendant - e.e. 1 Mawrth 2015 i lansio'r Academi yn ffurfiol. Byddai hyn yn ddigwyddiad â phroffeil uchel. Byddwn yn edrych ar ofyn i'r Prif Weinidog lansio'r Academi.

Bydd y Pwyllgor Llywio yn cwrdd ym mis Gorffennaf i ddechrau llunio cynllun busness. Yn y cyfamser mae'r Pwyllgor angen cymorth ariannol i barhau â'r gwaith. Os hoffech gyfrannu, dyma fanylion ein cyfrif banc: Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute, Banc Lloyds, Côd Sortio 77/ 62/ 10, Cyfrif rhif 21172860. Diolch o galon am ein helpu i symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Crynodeb o ddarlith a ddraddoddodd Mererid Hopwood yng nghynhadledd yr Annibynwyr 2010

Ar ddiwedd mis Awst (Gwener, 27) ymddangosodd erthygl yn y Western Mail yng ngholofn 'THEFRIDAYFILE' o dan y penawd 'Defence college would be good for Wales - and UK taxpayers'. Does dim angen ymhelaethu, mae'r pennawd yn dweud y cyfan, ac ym mharagraff clo'r erthygl, mynegir y gobaith y daw mis Hydref gyda newyddion da i 'Wales plc' ac y bydd y llywodraeth yn codi bawd ar y cynllun i godi Academi Filwrol Sain Tathan a thrwy hynny yn dod ag arbedion sylweddol i drethdalwyr y DU. 

Doeddwn i ddim yn gwybod. Oeddech chi? Doeddwn i ddim yn gwybod fod Cymru wedi colli ei statws fel gwlad, ac wedi troi'n fusnes. Wales plc. Rhaid fy mod i'n cysgu pan werthwyd y lle ar y 'footsie' - achos, hyd y gwn i, does gen i ddim un cyfranddaliad yn y fenter hon.

Ac mae arna' i ofn, nad fi yn unig fu'n cysgu, a chyn bo hir, fydd dim llawer o bwynt i ni ddeffro oherwydd fe fydd hi'n rhy hwyr. Bydd Cymru gyfan wedi troi yn 'beiriant lladd' chwedl Cynan. Ond mae 'na rai, diolch byth, yn gwbl ar ddihun. Un o'r rheiny wrth gwrs yw Jill Evans ASE. Mae hi'n dal i bwyso am Academi Heddwch.

Mae dros flwyddyn wedi mynd ers lansio'r ymgyrch i gael Academi Heddwch i Gymru a'r gobaith amdano'n dal yn fyw. Beth yw'r Academi'n gwmws? Wel, does dim patrwm unffurf i'r academïau heddwch sydd eisoes wedi eu sefydlu dros y byd, mae pob un yn ymateb i gyd-destun unigryw ei wlad ei hunan, a'r nod yng Nghymru fyddai creu sefydliad sy'n gydnaws â'n dyheadau ni fel Cymry. Ond os nad yw'r siâp yn hollol glir, mae'r prif egwyddor yn gadarn, sef creu canolbwynt a fydd yn tynnu ynghyd holl ymdrechion gwleidyddol, gwirfoddol, deall a dysg i'n harwain ni i geisio sefydlu byd heddychlon. Byddai'r Academi yn gallu llywio gwaith y Cynulliad, a'i gwneud hi'n bosib i'r aelodau hynny sy'n ein cynrychioli ni ddeall yn llawn effaith penderfyniadau rhyfelgar ar ein bywyd beunyddiol ni - o greu arfau i hyfforddi milwyr i frwydro.

Seinier y larwm! Deffrown o'n trwmgwsg a mynnwn siârs nid yn Wales plc, ond yn y fro a rannwn gyda'n gilydd - Combrogi - Cymru. Boed iddi fod yn fro heddychlon.

Am fwy o wybodaeth gweler: www.cndcymru.org

Nodiadau'r anerchiad a draddodwyd gan Guto Prys ap Gwynfor yng ngwasanaeth Cymdeithas y Cymod tu allan i ganolfan awyrennau di-beilot Parc Aberporth, Mehefin 26ain, 2010.

Bellach mae'r wladwriaeth Brydeinig yn mynnu ein bod yn dathlu Mehefin 26ain (eleni) a'r Sadyrnau sy'n cyfateb iddo mewn blynyddoedd eraill yn Ddydd y Lluoedd Arfog. Beth all pwrpas y dydd yma fod? 

Dechreuodd y dathlu y llynedd; y prif ysgogydd y pryd hynny oedd Gordon Brown; yr oedd ganddo broblemau:

  • Rhyfel amhoblogaidd yn Affganistan.
  • Fel Albanwr, ei awydd i hybu Prydeindod.
  • Hybu recriwtioi'r lluoedd arfog. Er mwyn gwneud hynny rhaid poblogeiddio'r lluoedd drwy eu mawrygu a'u rhamanteiddio; ffyrdd effeithiol i wneud hynny yw cael parti a dathliad. Mae Sul y Cofio ym mis Tachwedd yn canolbwyntio gormod ar farwolaeth a dioddefaint, rhaid cael rhywbeth bywiocach.

Yn fwy cyffredinol y mae'n rhan o'r mawrygu Imperialaeth sy'n digwydd, yn arbennig felly yn Lloegr lle mae ymdrechion i sicrhau bod 'bendithion' Imperialaeth yn cael eu dysgu yn yr ysgolion, ac offeryn pennaf Imperialaeth yw militariaeth.

Imperialaeth y Gorllewin, yn y gorffennol a'r presennol, sy'n achosi'r problemau yn y Dwyrain Canol (fel yn Affrica a mannau eraill). Yn hanesyddol creadigaethau Prydain yw Affganistan, Pacistan ac Irac; gwladwriaethau a grëwyd er budd Prydain nôl ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Unedau artiffisial gyda'i ffiniau yn rhannu cenhedloedd ac yn gorfodi gwahanol genhedloedd i rannu'r un wladwriaeth. Er enghraifft, cenedl y Pashtun sy'n croesi'r ffin o Affganistan a Pacistan. Dymuniad llawer o'r Taliban yw cael gwladwriaeth Pashtunistan!

Pam yma yn Aberporth? Buom fel Cymdeithas y Cymod ar Fynydd Epynt ar yr adeg yma o'r flwyddyn mewn ymdrech i dynnu sylw at y modd y mae Cymru'n cael ei difa gan y militareiddio sy'n digwydd. Mae yna bellach, yn anffodus, gyswllt rhwng y ddau le. Y datblygiad sydd ar waith yw'r 'drones' bondigrybwyll - arfau sy'n cael eu datblygu yma yn Aberporth, a'u harbrofi rhwng y lle hwn a Mynydd Epynt.

Mae technoleg rhyfel yn newid yn glou dychrynllyd, gyda'r cwmnïoedd mawrion yn gwneud eu ffortiwn, a hynny mewn adeg o doriadau ariannol. Y datblygiad diweddaraf yw'r awyrennau di-beilot (y drones) sy'n cael eu defnyddio i ladd pobl ar hyn o bryd yn Affganistan a Pacistan. Mae'r UDA wedi cynyddu'r defnydd o'r drones: 2004 - 1; 2005 - 2; 2006 - 1; 2007 - 3; 2008 - 17; 2009 - 47; 2010 - 36. Cyfanswm lladdedigion - 1,366, gyda'r mwyafrif yn Waziristan. Y ffaith trist yw mai Obama sydd wedi bod yn gyfrifol am y cynnydd hwn.

Hyd yn hyn mae Prydain yn defnyddio'r "Reaper" a brynwyd oddi wrth yr UDA i gyflawni ei rhan hi yn y lladd. Er y cyfrinachedd o gylch hyn fe ganfuwyd y gwirionedd o'r hyn sy'n digwydd gan Chris Cole o Gymdeithas y Cymod yn Lloegr yn gynt eleni:

Guardian Chwefror 7 2010

British forces are relying increasingly on unmanned drones to attack targets in Afghanistan, mirroring controversial tactics used by the US.

New Ministry of Defence figures show the RAF has fired 84 missiles from Reaper drones since they were first deployed there in June 2008, with more than 20 being fired over the past two months... ...

Chris Cole, director of the interfaith peace campaign Fellowship of Reconciliation, who used freedom of information legislation to shed light on the Reapers, said: "Drones are the latest in a long line of new weapons used in the mistaken belief that they will provide a clean and tidy solution to a conflict - time and again history has proved that this is a myth."

He added: "We have a number of serious concerns not least because there is a picture beginning to emerge of high civilian casualties. In addition, the use of armed drones to target specific individuals could amount to summary or arbitrary execution."

Nawr mae Prydain wrthi'n datblygu 'drones' ei hunan, ac mae ganddi raglen gwerth £899 miliwn. Cwmni preifat Thales UK sydd a'r prif ran yn y gwaith hwn ac yma yn Aberporth y mae'r arbrofi'n digwydd, fel y dywed ei gwefan:

Watchkeeper Tactical UAV System, United Kingdom

In July 2004, the UK Ministry of Defence announced that Thales UK had been selected as the preferred bidder for the Watchkeeper tactical unmanned air vehicle (TUAV) system... ...

Major flight trials of the Watchkeeper were completed in June 2009, allowing for further ground system and flight tests in the UK. These flight tests moved to Parc Aberporth in West Wales in late 2009. The Watchkeeper system will enter service in the British armed forces Royal Artillery in 2011.

Cwmni arall sy'n cydweithio â Thales yw QinetiQ; cwmni preifat sy'n datblygu arfau rhyfel - nodedig am ei cysylltiad â cluster bombs. Dyma a ddywed gwefan y cwmni hwnnw:

28 May 09     QinetiQ readies Aberporth UAV centre for Watchkeeper

Watchkeeper trials scheduled to commence in the Autumn

A key milestone in the £899m MOD project to develop the Watchkeeper Unmanned Air System has been reached on schedule. QinetiQ, working closely with other stakeholders, has delivered the necessary infrastructure and facilities at ParcAberporth, Ceredigion, South Wales, as part of its ongoing £5m support contract - which means the Watchkeeper trials programme can commence here in the Autumn.

Thales, the Watchkeeper prime contractor, is now clear to migrate the trials programme to the UK by October 2009. Initial live flying elements of the operator training are expected to commence in March 2010 contributing to systems acceptance and deployment in October 2010.

Meddai'r cwmni hwn ar wefan arall:

We operate the West Wales UAV Centre, a dedicated UK facility which is the only airspace in Europe where a variety of unmanned aerial vehicles (UAV) can be tested and flown. With other industry partners QinetiQ is providing expert support and facilities to the UK Ministry of Defence to complete the acceptance trials for its Watchkeeper UAV system.

Sylwch, dyma'r unig le yn Ewrop sy'n caniatáu i hyn i ddigwydd.

Er mwyn gallu gweithredu'r Cymod y mae Iesu'n ei gyflawni; sef y cymod rhyngom ni â Duw a rhyngom â'n gilydd, mae'n rhaid gwrthwynebu pob peth sy'n rhannu a difa, pob peth sy'n creu casineb, gelyniaeth a dialedd. Yng nghyswllt Aberporth a Dydd y Lluoedd Arfog mae'n rhaid gwrthwynebu pob ymdrech i wneud rhyfel a gormes yn fwy effeithiol, a gwrthwynebu pob ymdrech i barchuso a rhamanteiddio hynny.

Crynodeb o anerchiad Guto Prys ap Gwynfor, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod, i Gymdeithas Heddwch yr Annibynwyr; Mehefin 19eg, 2004.

Mae terroristiaeth wedi bod gyda ni oddi ar dechrau gwareiddiad. Yr hyn sydd wedi ei ddyrchafu i fod yn fygythiad arswydus heddiw yw'r ffaith fod gan y terrorist y gallu i ladd a dinistrio ar raddfa eang. Lan hyd gyfnod y ffrwydron un person (pwysig fel arfer) ar y tro a laddwyd. Y ddiffiniad mwyaf derbyniol o derrorist yw'r person sydd yn barod i ddefnyddio trais i hyrwyddo ei amcanion. 

Ceir sôn am derroristiaid yn yr Hen Destament a'r Testament Newydd fel ei gilydd. Terrorist oedd Dafydd am gyfnod, a byddai rhai'n barod i ddadlau na beidiodd ei derroristiaeth. Moses yn defnyddio arfau cemegol a biolegol yn yr Aifft er mwyn dwyn pwysau ar Pharao. Beth am Judith yr assassin? Onid terroristiaid oedd y Selotiaid? Yr oedd o leiaf un ohonynt ymhlith y 12 disgybl. Onid oedd Iago ac Ioan yn dymuno cyflawni gweithred cwbl derroristaidd ar y pentref hwnnw yn Samaria a wrthododd dderbyn Iesu?

Ni fu Cymru'n rhydd o derroristiaeth. Dyna oedd tacteg Owain Glyndŵr; terfysgwyr Merthyr a Nant-y-glo; y Siartrwyr a Beca. Rhain i gyd wedi eu rhamanteiddio erbyn heddiw a'r dinistr braw ac ofn a achoswyd ganddynt wedi mynd yn angof.

Mae llawer o derroristiaid y gorffennol ym mhob gwlad wedi cael eu dyrchafu i fod yn arwyr gan genedlaethau sy'n dilyn. Pobl fel Mazzini a'r Carbonari yn yr Eidal; Ché Guevara yn America Ladin a Nelson Mandela yn Ne Affrica.

Terroristiaeth Gwladwriaethol

Bu ymdrechion ar hyd yr oesoedd gan wleidyddion i wneud defnydd o derroristiaeth i'w diben eu hunain. Y mwyaf nodedig ohonynt oedd 'Hen ŵr y mynydd', sef Hassan Ibn al-Sabbah, a ffurfiodd yr Assassiniaid yn y G13eg. Mae Osama bin Laden yn cael ei ystyried fel olynydd iddo heddiw.

Dysgodd Machiavelli yn y G15ed am effeithiolrwydd defnyddio ofn a braw ar ddeiliaid i gadw trefn arnynt. Hyn wedi bod yn ddylanwadol iawn. Sylw Cromwell wrth glywed bod 9 o bob 10 yn ei wrthwynebu oedd rhoi cleddyf yn llaw yr un o bob deg!

Yn y Chwyldro Ffrengig y daeth Terroristiaeth yn nodedig fel arf gan y wladwriaeth. Yn yr ugeinfed ganrif perffeithiwyd yr arfer gan wŷr fel Hitler yn yr Almaen, Stalin yn Rwsia a Pol Pot yn Cambodia.

Sylfeinir polisi tramor llawer gwlad ar beri braw ac ofn - dyna'r Shock & Awe a fabwysiadwyd gan yr UDA yn Irac; ac ar barodrwydd i ladd y diniwed er mwyn hyrwyddo'u polisïau. Eir mor bell a hyrwyddo terroristiaeth mewn gwledydd eraill, fel gwnaeth yr UDA yn Nicaragua a Cuba.

Yr oedd Winston Churchill, a ystyriwyd fel Prydeiniwr mwyaf y mileniwm mewn rhaglen deledu yn ddiweddar, yn gredwr mewn defnyddio arfau cemegol ac yr oedd yn barod i ladd diniweidiaid wrth y degau o filoedd er mwyn hyrwyddo'i amcanion. Dyna a wnawd yn Dresden.

Meddylfryd y Terrorist:

  • Fi (fy nghrefydd, fy naliadau, fy arweinydd, democratiaeth) sy'n iawn, mae pawb arall yn rong.
  • Rydym ni (oherwydd ein ideoleg, hil, cenedl, gwareiddiad, crefydd, democratiaeth) yn well na phobloedd eraill.
  • Mae fy ngwrthwynebwyr yn ddrwg am eu bod yn gwrthwynebu rhywbeth sy'n well; cam pellach yw'r gred nad ydynt yn haeddu cael byw.
  • Ideoleg - cael byd gwell; cam pellach yw'r argyhoeddiad bod angen dinistrio'r rhai sy'n rhwystr i'r byd gwell hwnnw. Y rhai sy'n rhwystr yw'r rhai sy'n anghytuno â fi.
  • Casineb dwfn a pharhaol.
  • Y gred mewn effeithiolrwydd trais.

Y gelyn sydd rhaid ei orchfygu yw'r meddylfryd hwn; y gred ei bod yn iawn i ladd bodau dynol eraill er mwyn cyflawni unrhyw bwrpas. Gwelir pa mor anodd yw cyflawni'r gwaith holl-bwysig hwn yn nathliadau D-Day a ddigwyddodd yn ddiweddar.

Trwythir ein plant a'n hieuenctid i gredu bod defnyddio trais yn gwbl gyfiawn - maes hanes yr ysgolion yw Rhyfel Byd II. Cyfrwng arall y trwytho parhaus yw'r storïau a'r ffilmiau poblogaidd y maent yn mynd i'w gweld.

Cyfrifoldeb yr Eglwys yw herio'r meddylfryd erchyll a Satanaidd hwn, a gosod meddylfryd arall yn ei le; sef meddwl Crist.

Crynodeb o anerchiad gan y Dr Hefin Jones yng ngwasanaeth Cymdeithas y Cymod, Eisteddfod Genedlaethol 2005

Yn ei anerchiad i Gynhadledd UNESCO, yn Delft, Yr Iseldiroedd yn 2003, soniodd Koichiro Matsuura, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr asiantaeth, bod yr argyfwng dŵr a wynebwn heddiw nid yn unig yn ganolog i'n goroesiad fel rhywogaeth ond hefyd i oroesiad y blaned. Yn wir, datgan adroddiad diweddar o'r Cenhedloedd Unedig nad rhyfel, na newyn nac afiechyd, nid terfysgaeth na brawychiaeth nac hyd yn oed anhrefn sifil bydd prif fwganod yr unfed ganrif ar hugain ond yn hytrach cyflenwadau digonol o ddŵr ffres. 

Dŵr yw'r adnodd mwyaf cyffredin ar y blaned ond eto dim ond rhyw 2.5 y cant sydd yn ffres ac ar gael i'w yfed. Dŵr heli yw'r gweddill. O'r 2.5 y cant sydd ar gael i'w yfed mae rhyw ddwy ran o dair ynghlwm mewn mynyddoedd a llifiannau iâ, ac yn y gorchudd eira. Mae yna brinder dŵr ffres dybryd ar y blaned. Mae'r pwysau ar y cyflenwad dŵr ffres yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Tyfiant ym mhoblogaeth y byd yw'r prif yrrwr gwasgu - bu i boblogaeth y byd gyrraedd dros chwe biliwn ychydig cyn y flwyddyn 2000 - bu i'r cynnydd hwnnw ddyblu'r cyfaint o ddŵr a oedd ei angen arnom o gymharu â nôl yn 1950. Y darogan yw bod poblogaeth y byd yn mynd i gyrraedd tua 9.3 biliwn erbyn 2050. O ble y daw'r dŵr i liniaru syched pawb?

Wrth reswm, ni all dŵr ymddwyn yn uniongyrchol fel arf ond mae yna gysylltiad a rhyngweithiad cymhleth iawn yn y berthynas rhwng cyflenwadau dŵr a heddwch ymysg cenhedloedd. Yn y 1990au cyhoeddwyd dwy ddogfen hollbwysig gan P H Gleick ar y berthynas rhwng dŵr ac ymrafael rhyngwladol; y gyntaf yn 1994 yn canolbwyntio ar y Dwyrain Canol (Water, war and peace in the Middle East; Environment Cyfrol 36) a'r ail yn 1998 ar agweddau yn ymwneud â holl genhedloedd y byd (Water and Conflict, pennod yn y llyfr The World's Water a gyhoeddwyd gan Island Press, Washington U.D.A.). Yn y ddwy ddogfen rhestrwyd nifer o ffyrdd y gall dŵr fod yn arf dinistriol ac yn fodd i fygwth heddwch rhyngwladol.

Medr dadleuon ynglŷn â pherchnogaeth cyflenwadau dŵr ffres arwain i bob math o ffrwgwd - pan fydd afon yn rhedeg trwy nifer o wledydd, pwy sydd berchen y dŵr? Pwy sydd â'r hawl i gronni'r dŵr ar gyfer lliniaru syched neu ddyfrhau cnydau? Gall gwenwyno cyflenwadau dŵr, neu wahardd dŵr rhag llifo, fod yn arf milwrol mewn rhyfel. Weithiau gellir defnyddio dŵr fel arf gwleidyddol i ennill tir ac adnoddau, ac weithiau hyd yn oed fel offerynnau atal datblygiad economaidd a chymdeithasol. Nid yw chwaith yn amhosibl meddwl am ffyrdd y gellir defnyddio dŵr mewn brawychiaeth a therfysgaeth. Yn olaf, mae cyflenwadau dŵr ffres yn dargedau milwrol a gall rhyfel gael ei hennill neu'i cholli gan ymosodiadau o'r fath. Heb unrhyw amheuaeth mae dŵr yn arf hyblyg a phwerus, yn arf a all ddinistrio neu sicrhau llwyddiant cenedl.

Sylweddolwn bellach gwir ystyr goblygiadau newid hinsawdd, wrbaneiddio, cynnydd poblogaeth a llu o agweddau eraill ar ein cyflenwadau dŵr cyfredol. Mae'r mynegai tlodi dŵr (y water poverty index) yn mesur adnoddau dŵr, faint o bobl gall eu defnyddio, eu defnydd a'u heffaith ar yr amgylchedd. Gwledydd sy'n datblygu sydd â'r mynegai isaf; gwledydd mwyaf tlawd y byd fydd yn teimlo effaith unrhyw newidiadau fwyaf. Er y prinder dŵr sy'n bodoli ar gyfandir yr Affrig, nid oes yna unman drwy'r byd lle mae dŵr yn fwy canolog i wleidyddiaeth, bodolaeth a goresgyniad llywodraethau, a dynoliaeth o ran hynny, na'r Dwyrain Canol. Eisoes mae prinder dŵr yn gnewyllyn ymdaro; cronfeydd a chyflenwadau dŵr ffres yn adnodd pwerus wrth benderfynu pwysigrwydd a grym gwleidyddol gwahanol genhedloedd. Mae'r gwledydd sy'n ymestyn o Iran i Foroco yn cynnwys rhai o'r cenhedloedd lle mae dŵr brinnaf ac mae'r prinder hwnnw yn effeithio'n gynyddol ar eu datblygiad economaidd a chymdeithasol. Mewn sefyllfa o'r fath mae edrych ar ôl buddiannau eich gwlad eich hunan a hidio llai am drigolion a safbwyntiau gwledydd eraill yn fwyfwy amlwg gyda chanlyniadau a all arwain i ddrwgdeimlad rhwng llywodraethau a phobl, ac yn y pen draw hyd yn oed rhyfel. Mae'r hawl i ddŵr glân, ffres a diogel yn un o egwyddorion sylfaenol datblygiad cynaliadwy - yn sicrhau anghenion nid yn unig heddiw ond yfory a thradwy. Fe'i cymerwn mor ganiataol - trown y tap ymlaen a'i adael i redeg yn ddiddiwedd heb feddwl am y canlyniadau. Nid gor-ddweud yw y gall dŵr, ac yn sicr cyflenwadau digonol ohono, fod yr arf mwyaf peryglus sydd yn ein heiddo yn yr unfed ganrif ar hugain.

Traddodwyd y myfyrdod yma gan Guto Prys ap Gwynfor yng Ngwylnos y Gymdeithas yn Nant Gwrtheyrn, Tachwedd 2006.

Pan ddaeth Iesu i olwg Jerwsalem, ar ei daith fuddugoliaethus i'r ddinas ar Sul y Blodau, dywed Luc iddo oedi am ychydig. Yn ystod yr ysbaid honno "...wylodd drosti (Jerwsalem) gan ddweud, 'Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd - ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid,'" (Luc 19:42). Aeth yn ei flaen i ddarogan y byddai'r ddinas yn dioddef yn enbyd o dan law ei gelynion. 

Un o'r rhesymau am y dioddefaint oedd i ddigwydd, yn ôl Iesu, oedd y ffaith i drigolion Jerwsalem wrthod 'ffordd tangnefedd' a thrwy wneud hynny roi eu gobaith yn ffordd trais. Mae'r ffaith fod y bobl yn gyffredinol yn gwneud hynny yn cael ei bwysleisio eto gan Luc wrth iddo adrodd hanes yr achos a wrandawyd gan Pilat. Mynnodd y dorf fod Pilat yn croeshoelio Iesu a rhyddhau Barabbas, "dyn oedd hwnnw wedi ei fwrw i garchar o achos gwrthryfel a llofruddiaeth oedd wedi digwydd yn y ddinas," (Luc 23:19). Terrorist oedd Barabbas, un o arweinwyr y Selotiaid fwy na thebyg, a hwnnw a'i ddulliau a apeliai i'r dorf.

Ffordd Iesu neu ffordd Barabbas yw'r dewis sylfaenol sy'n wynebu'r ddynoliaeth o hyd. Siomwyd y dorf yn ddirfawr gan Iesu yn ystod y diwrnodau a ddilynodd Sul y Blodau. Yr oeddent wedi gobeithio y byddai "mab Dafydd" wedi dilyn ffordd Dafydd o weithredu; sef codi cleddyf a chwalu'r gormeswyr Rhufeinig. Dyna'r ffordd a ddewisodd Barabbas, a daeth hwnnw'n arwr. Ffordd arall, ffordd tangnefedd, oedd ffordd Iesu, siomwyd y dorf ac fe groeshoeliwyd ef.

Un o'r pethau sy'n gwneud trais a rhyfel mor ddeniadol yw'r ffaith ei fod yn datrus problemau yn y tymor byr - mae'n rhoi cyfle i gael gwared ar rwystredigaethau, i ddial ac i dawelu'r gwrthwynebydd. Ond dros dro yn unig y digwydd hynny. Yn y tymor hir y mae mwy o gasineb wedi ei greu ac mae'r awydd am ddialedd wedi dyfnhau; mae cylch seithug dinistr a dioddefaint ar waith.

Wrth i Iesu wylo dros Jerwsalem, mynegi ei dristwch at y ffaith nad yw pobol yn ystyried canlyniadau hir dymor eu gweithredoedd a wna; mae'n rhoi disgrifiad o ddinistr Jerwsalem, a ddigwyddodd o fewn dwy genhedlaeth i'r croeshoeliad. Ffordd sy'n arwain i ddinistr yw ffordd Dafydd a ffordd Barabbas. Pwysleisiodd hyn eto wrth iddo fynd dan ei faich i Golgotha pan droes at y gwragedd oedd yn wylo drosto, "Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant," (Luc23:28).

Atgyfodwyd Iesu fore'r trydydd dydd, drwy'r weithred honno mae Awdur bywyd, y Creawdwr ei hun, yn dangos taw Ffordd Tangnefedd yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd yn ei holl gyflawnder.

Dyna yw neges y Pasg.

Erthygl gan M. Islwyn Lake

Dyddiad i'w nodi gyda diolchgarwch ydyw Mawrth 26 1807, pan gafwyd mesur seneddol i wahardd y fasnach mewn caethweision o fewn trefedigaethau Prydain. Y Crynwyr oedd y cyntaf i godi llais yn erbyn yr anfri hwn a bu un o'u plith, Thomas Clarkson yn nodedig am ei ymdrechion.

O gael ein hatgoffa eleni am y bennod dda hon fe'i cawn yn anodd credu fod arweinwyr digon parchus yn eu dydd wedi cyfiawnhau a chymeradwyo y fath greulondeb. Ond wedyn pwy ŷm ni i farnu o gofio'r holl erchyllterau a gyflawnwyd yn ein hoes ninnau. 

Rhaid codi llais ym mhob cyfnod yn erbyn yr ymarfer o drais a dinoethi yr elw ariannol sydd mor aml yn glwm wrtho. Y prif reswm dros hybu caethwasiaeth oedd yr elw enfawr a geid drwyddo ac a gyfoethogodd Lerpwl, Bryste a Llundain. A sylweddolwn mai ariangarwch ac nid creulondeb sy'n gyrru'r Fasnach Arfau yn ei blaen heddiw.

Fe holir pa un a ddylai Llywodraeth Prydain ymddiheuro a gwneud iawn am y fasnach ysgeler yr elwodd gymaint arni. Anodd gweld ystyr mewn ymddiheuro am gamwedd cenhedlaeth a fu. A pha fodd y gellid gwneud iawn am holl anghyfiawnderau ymerodrol Prydain?

Fodd bynnag, fe fynnodd Peter Hain gyfaddef yn edifeiriol ran Cymru yn y fasnach annynol. Diau i lawer elwa'n anuniongyrchol a bu gan unigolion o Gymru ran cwbl weithredol yn y fasnach. Dyna Richard Pennant, Castell Penrhyn a'i blanhigfeydd cotwm yn Jamaica. (Fe honnir ei fod yn fawr ei ofal am ei gaethweision efallai ar sail yr eisiau - 'Nid wyf yn dymuno gweld y Negroaid a'r gwartheg yn cael eu gorweithio'.)

Wrth gwrs peth diystyr ydyw priodoli euogrwydd i Gymru fel gwlad gan nad oedd ganddi ei llywodraeth i ddeddfu ar y mater. A hyd yn oed yn awr gyda'r Cynulliad yn sicrhau hawliau cynyddol nid oes gennym lais gwleidyddol ar faterion rhyngwladol. Nid oedd modd i Gymru fynegi barn ar y rhyfel yn y Malfinas gynt neu ar ymosodiad anghyfreithlon ar Irac.

A phan drafodir dyfodol Trident neu gais Bush ar i Brydain fod yn rhan o'r darian atal taflegrau, yn sicr ni ofynnir am farn Cymru. Ond er gwaethaf y cyfyngiadau sydd arnom a hynny mewn dyddiau a welodd Tony Blair yn gwisgo mantell unben yn ei bolisïau tramor, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dal i godi ein llais dros yr hyn sy'n wâr a dynol.

A bydded i fuddugoliaeth 1807 fod yn her inni. Os trechwyd masnach mor nerthol â chaethwasiaeth paham na ellir dwyn y fasnach arfau i ben? A dyna galondid oedd clywed Mohamed ElBaradei, pen dyn yr Asiantaeth Egni Atomig Ryngwladol, yn dweud y dylem drafod arfau niwclear fel y trafodwn gaethwasiaeth a hilyddiaeth. Dyna galon y gwir.

M. Islwyn Lake

Anerchiad Mabon ap Gwynfor yng Ngŵyl Heddwch Cymru 2007

Mi gefais gyfweliad gyda'r BBC yn ystod yr wythnos, gyda'r ymchwilydd yn gofyn i mi beth oedd pwynt cynnal yr Ŵyl Heddwch? Ac yn fwy na hynny beth oedd pwynt ei gynnal yng Nghaernarfon? Hynny yw, pa wahaniaeth all gŵyl gymharol fach, mewn tre gymharol fach, mewn gwlad fach ddi-rym ei wneud ? Pam boddran? 

Ar yr un llaw gall rhywun weld ei phwynt - nid ydym ni am basio unrhyw ddeddf newydd yma heddiw. Dim ond Senedd San Steffan sydd gyda'r hawl i
newid deddfau ein gwlad (hyd yn oed fod gan y Cynulliad hawl i lunio ambell i ddeddf, mae'n gorfod cael yr 'OK' gan Llundain cyn cael dod yn ddeddf - bron y gellir dweud nad yw pobl Cymru yn oedolioneto, ac fod yn rhaid i ni ofyn  aniatad Mam a Dad cyn cael defnyddio'r ffôn, ond mater arall yw hynny).

Ond mae cwestiwn yr ymchwilydd yn adlewyrchiad o'n hoes, hynny yw os nad
oes yna ganlyniad neu rywbeth mawr gweladwy yn newid heddiw, yna gwastraffu amser ydyn ni, ac nid yw yn werth ei wneud.

Felly beth yw pwrpas ein ymgynull ni fan hyn heddiw? A all cynulliad bach o unigolion mewn cornel o'r byd sydd heb hunan-lywodraeth na'r gallu i wneud  i phenderfyniadau ei hun wneud gwahaniaeth?

Mae hanes diweddar ein cenedl a'n pobl yn dangos yn glir nid yn unig fod yna  bwrpas, ond fod posibl gwneud gwahaniaeth - weithiau gwahaniaeth bychan, ac ar adegau eraill gwahaniaeth mawr. Ni yw'r hedyn mwstard.

Mae gan Gymru hanes hir a balch o'r traddodiad heddychlon, ac wedi cyfrannu ar lefel rhyngwladol i sicrhau heddwch rhwng pobloedd daear.

Sefydlwyd y Gymdeithas Heddwch yn Llundain yn 1816 gyda'r nod o lwyr ddiddymu rhyfel. Evan Rees, Cymro, oedd yr ysgrifennydd cyntaf. Bu i'r Gymdeithas fodoli am 120 o flynyddoedd, a Cymry oedd yr ysgrifenyddion am ymron i 100 o'r blynyddoedd hynny.

Y mwyaf o'r rhain, ac o bosib ymgyrchydd heddwch mwyaf Cymru a mwyaf y ganrif honno, oedd Henri Richard, o Dregaron - yr Apostol Heddwch. Roedd
Henri Richard yn weinidog yn yr Old Kent Road, Llundain, o 1835 - 1850. Yn 1853 sefydlodd ef a dau o'i gyfoedion bapur y Morning Star, ac ef oedd y golygydd cyntaf; ef hefyd oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Ysgolion Gwirfoddol yng Nghymru. Penodwyd Richard yn ysgrifennydd ar y Gymdeithas Heddwch ym 1850. Roedd yn allweddol yn nhrefniadaeth y Cyngresi Heddwch Byd-Eang ym Mrwsel yn 1848, Paris 1849, Frankfurt 1850 a Llundain 1851. Yng nghyfarfod Brwsel gosododd Richard a'i gyfaill Elihu Burritt thema radical - sef fod diarfogi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau heddwch! A hyn nôl ym 1848! Yng nghyfarfod Paris y datganodd Victor Hugo ei freuddwyd am Unol Daleithau Ewrop, gyda'r bleidlais yn disodli y bwled a'r bom. O ganlyniad i'r  cyfarfodydd yma cafwyd trafodaith iawn am y tro cyntaf yn y wasg ynghylch di-arfogi ac yn erbyn militariaeth. Henri Richard oedd yn arwain yr agenda, gan greu trafodaeth rhyng-genedlaethol.

Etholwyd Henri Richard yn AS dros Ferthyr Tudful yn 1868 - ac onid oes gan Ferthyr hanes balch yn hyn o beth, oblegid pwy etholwyd yn AS dros yr  etholaeth ym 1900 ond yr heddychwr Keir Hardie. Yn 1873 llwyddodd i
ddarbwyllo Gladstone i dderbyn cynnig "ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth ei Mawrhydi i argymell gostyngiad yn arfogaethau Ewrop". Er nad oedd yr ymgyrch arbennig honno yn llwyddianus mae'n dangos ei fod â'r gallu i arwain yr agenda yn Nhŷ'r Cyffredin. Un o'i lwyddianau mawr fel Aelod Seneddol oedd i'r Tŷ dderbyn ei gynnig "i orchymyn i'r ysgrifennydd cartref gysylltu â phwerau tramor er mwyn ceisio cyflwyno gwelliannau pellach i'r gyfraith ryngwladol a sefydlu cyfundrefn gyflafareddu  arbitration) barhaol". Erbyn heddiw mae ganddom ni Lys Barn y Cenhedloedd Unedig.

Rhoddodd gynnig yn condemnio anallu y Tŷ i wneud penderfyniadau ar Ryfel
a Heddwch. Collodd y cynnig o chwe phleidlais yn unig! Dim ond heddiw, gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach y mae Gordon Brown yn sôn am
drosglwyddo y penderfyniad am ryfel a heddwch i Dŷ'r Cyffredin; ac rydym
oll yn gwybod y canlyniadau erchyll a ddaw yn sgîl gadael i lond dwrn o bobl wneud penderfyniadau o'r fath yn dilyn celwyddau Tony Blair a thrychineb Irac.

Dadleuodd yn gryf yn erbyn y syniad o 'ryfel amddiffynol'; a dadleuodd o blaid di-arfogi. Hynny yw, mae dadleuon Henri Richard, er iddo farw ym 1888, yr un mor berthnasol i ni heddiw a beth oedden nhw bryd hynny.

Yna mae'r enw mawr arall yn Heddychiaeth Cymru, sef George M Ll Davies. Yn 1911 roedd George Davies yn Is-Gapten i'r Ffiwsilwyr Cymreig, ond cafodd droedigaeth. Erbyn 1915 roedd yn gynorthwydd i Richard Roberts, heddychwr o Gymro arall ac ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod. Roedd ei waith yn ganolog i sefydlu amryw o ganghennau o Gymdeithas y Cymod yr adeg yma, ac ef oedd yn gofalu am eu cylchgrawn misol The Venturer. Aeth i'r carchar fel 'conshi' a treuliodd dipyn o'i amser mewn ac allan o'r carchar yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Tra'n AS dros Brifysgol Cymru - unig AS basiffistaidd Cristnogol y Senedd - chwaraeodd George M Ll Davies rôl bwysig yn pontio rhwng Sinn Féin yn yr Iwerddon a Lloyd George a llywodraeth Prydain. Apeliodd i'r Arglwyddes Isabel Aberdeen ar i'r llywodraeth atal eu dialedd yn yr Iwerddon. Llwyddodd i gael llywodraeth Lloyd George i drafod heddwch â de Valera.

Ar ôl y rhyfel byd cyntaf teithiodd i amryw o wledydd Ewrop yn edrych ar y difrod gan ymgyrchu dros leddfu trallod yr Almaen yn dilyn cytundeb Versailles. Yn wir roedd ei waith cymodi yn ennill edmygedd ac enw iddo yn rhyngwladol. Galwodd Gandhi am ei ddoniau, a bu'n rhan o'r trafodaethau cymodi cynnar rhwng India a Phrydain.

Er ddim yn heddychwr danfonodd Gwilym Davies 'Neges Plant Cymru i'r Byd' ym 1922 ar delegram, a gydag Ifan ab Owen Edwards sefydlwyd y 18fed o Fai fel diwrnod ewyllys da. Byth oddi ar hynny mae plant Cymru wedi bod yn cyhoeddi neges o ewyllys da i holl bobl y byd.

Ym 1934-5 trefnodd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Bleidlais Heddwch ar
ddiarfogi. Roedd 34% o'r Alban o blaid y cynnig; 37% yn Lloegr; ond yng Nghymru cafwyd 62% o'i Blaid.

Ac yna mae Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru a etholwyd yn 1966. Roedd yntau yn 'gonshi' yn ystod yr ail ryfel byd, ac yn ysgrifennydd am flynyddoedd lawer i Heddychwyr Cymru. Gweithiodd yn ddi-flino dros  heddwch, ac aeth yntau yn rhan o grŵp Michael Scott allan i Fietnam adeg y rhyfel honno i sefyll o dan y bomiau yn Hanoi fel protest. Bu iddyn nhw fethu â chael mynediad i'r wlad, ond roedd ei gred mewn heddwch a ffolineb rhyfel yn golygu ei fod yn fodlon rhoi ei fywyd ei hun er mwyn dwyn sylw at ddioddefaint eraill.

Mae'n rhaid sôn hefyd am rôl merched Cymru fel ymgyrchwyr heddwch - Annie Humphries, Ysgrifennydd cyntaf Heddychwyr Cymru; Marion Eames, y nofelydd; ac yn fwy na neb Merched Comin Greenham - gyda Jill Evans, sydd bellach yn ASE ac yn gadeirydd ar CND Cymru! Criw o ferched o Gymru fartshiodd yn gyntaf i Gomin Greenham gan ddatgan "We fear for the future of all our children and for the future of the living world which is the basis of all life" gyda'r bwriad o herio y penderfyniad o'i wneud yn ganolfan i 96 o fomiau cruise. Gwrthodwyd eu cais am drafodaeth, ac o ganlyniad  efydlwyd y gwersyll heddwch yno. Rhodd hyn, yn anad dim arall, ffocws newydd ar yr ymgyrch gwrth-niwclear yn yr 80au a hynny yn ystod anterth y rhyfel oer, ac anterth grym Thatcher a Reagan. Yno y collodd Cymraes ifanc ei bywyd, Helen Thomas, wrth iddi gael ei lladd gan un o'r cerbydau milwrol. Ond daeth y gwersyll yn symbol o heddwch.

Mae amryw o heddychwyr mawr eraill wedi chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo heddwch yma a thramor - DJ Williams, Waldo Williams, Dan Thomas, Lewis Valentine, SR a rhagor eto.

Felly mae yna bwrpas i griw o bobl i ymgasglu a thrafod heddwch fel hyn, ac mae un gornel fach o'r byd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Ys dywedodd y Dalai Lama - os y'ch chi'n credu eich bod yn rhy fychan i wneud gwahaniaeth, yna triwch gysgu gyda mosquito.

Some of you here today are veterans of the peace movement, and I salute you for the work that you have done.

These examples of our history, role models for us today, have made a difference. From humble beginnings, writing letters, discussions at small conferences, sharing ideas, and campaigning for world peace.

What these men and women have in common above all else is their faith in
humanity their hope, and their love for life.

Unfortunately for us, people are greedy - we want more. We want to become wealthier. But for one person to become richer, another must become poorer. That's the way that our capitalist society is structured. And it is the root cause of conflict today, and every conflict in history. If we want to stop these wars then there's one thing we can do as ordinary people - tell our governments that we've had enough, and that we've got enough. Do we NEED more? No. Do we WANT more - well that's up to us. Our consumerist greed feeds into the warmongers' war efforts, and gives them what they deem to be 'legitimate democratic reasons' for killing and maiming, because while we may say we abhor war, we are getting richer as a consequence of it...so, we don't quite abhor it enough. How many people took to the streets last weekend to raise awareness about the atrocities in Darfur? How many people cued up outside a branch of Northern Rock on that same weekend? Now that's not an entirely fair criticism, I admit, but I think that you get the point.

Henry Richard believed that war was bad also because it ruined economies. Unfortunately today that is not necessarily the case for the aggressors, because war, as Naomi Klein has recently pointed out, is by-now a multi-billion pound industry. The modern jingoism is that we should support the manufacturing of armaments because it creates employment and wealth. But at what cost? A prosthetic limbs developer in the US stated his support for the Iraq war because it meant that they could develop better and more advanced prosthetic limbs as a consequence to the injuries incurred by the soldiers! An intelligent politician told me some time ago that he wasn't a pacifist because one of the benefits of war was the massive  echnological advances that we have made! So, I should thank those countless millions that have died in the last hundred years for my mobile phone! I'm  ctually of the belief that the UN should prosecute all those involved in the chain for the manufacturing of arms when a person is killed or injured by a weapon that was designed to kill and injure. That would quickly bring home the truth about this evil industry.

What 'Peace' we have today is an uneasy peace. It is built on inequality and fear. Simply because there is no war between one nation and another doesn't necessarily mean that there is peace, because a few nations hold power through fear and threats. Only, as Henry Richard said, by unilateral disarmament will we get closer to true peace.

Campaigning for peace and reconciliation is a hard task. It's never ending, and more often than not it might seem without its rewards, and at times, as the biographies of the  ndividuals I mentioned earlier will testify, it can be very lonely. Gordon Brown has looked at the newspaper articles and focus group reports and found that the war in Iraq is more unpopular now than ever before, and so he's preparing the ground for troop withdrawal. But Peace and reconciliation is more than the practice of writing policy on paper; its more than investing money into focus groups in certain marginal constituencies; it's a never ending, often unpopular, slog.

But let's never give up hope, because as I have mentioned, it is from these small meetings that we can make change happen.

Efallai ei fod yn werth i mi orffen fy nghyfraniad i gyda rhai o eiriau Henri Richard:

"Peidiwch â chael eich llethu gan fawredd y dasg, na chan y rhwystrau arswydus a gwyd yn eich ffordd. Y mae'r gwaith yr ydych wedi ymgymryd ag ef yn waith da; rydych yn cefnogi achos sydd, mi wn ar sail fy argyhoeddiadau dyfnaf, o blaid gwirionedd, rheswm,
cyfiawnder, dynoliaeth, crefydd ac, fe fentraf ychwanegu, o blaid Duw."

Awdl cadair Eisteddfod Genedlaethol 2007 gan T. James Jones. Gyda chyfeiriadau at wersyll milwrol Mynydd Epynt

Gyda diolch i'r awdur am yr hawl i atgynhyrchu ei gerdd yma.  

FFIN

Er rhoi'n coel ar Copernicus,
o dro i dro agorir drws
ar theatr rhith
tirio'r haul...

Mae'n fachlud, â llaw Gwydion
yn hud arno, yn cloi'n diwrnod
o hydref, a ni'n mynd adref, ein dau,
drwy wagedd anheddau gau,
a gynnau
a bwganod brain
anhapus bryniau Epynt.

Gwyliwn, drwy lygaid ein gilydd,
gyfnos braf, act olaf ein dydd
diddan; yr haul ar ddiflannu'n
rhudd dros rimyn y dibyn du'n

araf, araf wrth fynd am fôr
Iwerydd, a chroesi'r goror
i arlliwio gwe'r gorllewin
â gwawr oren a haenen win

nes creu oriel Brueghel o'n bro...
Dal dwy anadl a dihuno
ynom ni harmoni newydd,
yn ddeuawd wâr ddiwedd y dydd;

dau'n ddi-ildio'n dal dwylo'n dynn
wedi dod yn ddau gredadun
yn nisgyniad y llygad llosg
a â o'n golwg, fel marw golosg;

ond, cyn mynd at y dibyn, daw
i hulio ei liwiau'n hylaw
wrth gwyro rhuban y gorwel
â dafnau o gymylau mêl,

ac iro'i wrid dros gwar y rhos
yn rhin glir, i ni gael aros
yn wyneb llygad goleuni,
a'i gymundeb â neb ond ni;

o roi'i liwiau fel ar liain
o les goeth, gwelwn eglwys gain,
un fonheddig yn gweini gwin
i buro hwyr dau bererin

stond wedi eu dal gerbron duw.
Fe hidla'i hydref diledryw
yn ias drwy'r allt fel sgubo stryd
a gyrru deiliach i'w gweryd;

ac â â'i hydref fry hefyd
i'r cymylau, a'i fflamau'n fflyd
i ledaenu'i folawd yno
fel oriel Michelangelo;

y duw sy'n ddechrau a diwedd
ein bywyd bach rhwng crud a bedd,
perchen y dydd, capten y don,
a gweadur ein cysgodion,

a'r duw sy'n gwmpaswr daear,
yn mynnu bod ble'r ŷm yn bâr
bob awr o'r dydd, sydd nawr ar daith
isod, fel i fedd am noswaith,

i wae ogof ein dychmygion;
er iddo grwydro daear gron
hyd wybren fel ar rod enfawr
o dasgau nobl, mae'n disgyn nawr

yn wylaidd iawn i'w ladd ei hun
drwy redeg ei waed i redyn
ar fron ruddog uwchlaw ogof.
O du'r gwyll daw stori i gof...

...am ladd Lleu, fel rhwng deufyd,
a phennu tranc yn y cyd-rhwng;
ei droi'n eryr dolurus
ar frig cangen y dderwen ddwys;
dan hud englynion Gwydion
fe ddisgyn yn gyndyn i'w gol...

Yno'n gariadon fel ar grog,
yn llygadu'r unllygeidiog,
mudan rydym, wedi'n rhwydo'n
un â hydref rhedyn y fro,

a'n dal, yn anadl ola'n dydd,
i goelio'n llwyr ddigywilydd
i Sul y Gyfundrefn Solar
suddo i'n cwm, soddi'n ein cwar.

Y cwar lle y cloddiwyd carreg
solet y tai'n ein hoff le teg,
a fu'n ffatri i feini llechfâu
a meini glywodd emynau;

man lle bu dewrion Epona'n
mwynhau ernes y dduwies dda,
yn adeiladu'u haelwydydd
yn Gymreig, a hwy'n Gymry rhydd

i warhau ac i frochgáu'r gwynt,
yn dra hapus eu byd ar Epynt,
yn esgor, ac yn plwyfo'r plant
i'w diwallu â'u diwylliant.

Ond o'r ogof y daw drygau
i salwyno diwrnodau
golau â chuch y gelyn;

yr ysbryd aflan o Annwn
yrr arfau helger rhyfelgwn
ar wndwn a'i droi'n grindir;

mae egni'r gwanwyn mewn magnel
ac ynni'r haf mewn gwn rhyfel
â'i annel at y Mynydd

i losgi'r gwlân a berwi'r gwlith
a dod yn falltod, yn felltith
i blith diadell, fel blaidd;

trwy do'r Babell tery mellten
y rhyfyg nes troi'r sagrafen
lawen yn ŵyl ddilewyrch;

i Fryn Melyn y cerdd milwr
â rhodiad ei ymerawdwr
a rhu herwr hy Arawn;

darnio daear y Drain Duon,
agor ei rhychau â gwreichion,
cneifion, diferion y fall;

mae aradr mwrdwr ym Maerdy,
a glaslanc â thanc wrth Berth Ddu'n
dysgu ogedu'r mân gyrff,

dysgu bwled i dargedu
dyfodol iaith, ysgol a thŷ,
a fory cof y werin...

Ond ein harch ddychryn ers cyn cof
yw'r hen ing yr awn ni'n angof
i gafn ogof ein negydd;

hwn o hyd yw ofn yr ofnau;
ac i nadu ei gnoadau,
ein hangau wnawn yn angof

o weld yr haul, er cilio dro
bob diwetydd, yn bod eto -
wedi'i wawrio o'r dwyrain.


Hyn, er i un ganfod fod rhaid
i ni oll agor ein llygaid
i weld ein lle yn y cread,
a dwysáu dyn i ildio i stad
o adnabod ei ddinodedd
yn hafn ei fyw neu'n nwfn ei fedd
Gan y barnwr-seryddwr roedd
y wefan a ailfapiai'r nefoedd
a chreu meicrocosm o'r cosmos
gor-ddyrys pell fel datrys pos.
Fe alwai'r haul yn fŵl y rhod
a'r byd dano'n isfyd dinod,
fel y lloer yn ddim ond lloeren
hwylus i'r haul serio ei wên
arnom ein dau trwy'n mynd a dod,
a'n doli i ildio i'w faldod.

Cyn i'r munudyn ddod â'r nos
i'n rhwymo'n oer, y mae'n aros
rhyngom a chur unrhyw angau
ddaw i'n rhawd, ein deuawd ni'n dau;

glaned â seithliw goleuni
yw du'r nos sy'n ein haros ni...

Ymhen hanner munud,
tra bydd gwyliedydd y goleuadau'n
hudo'i allwedd i dywyllu'r
llwyfan, a chloi diddanwch
theatr rhith tirio'r haul,
bydd dau'n ddi-ildio'n
dal dwylo'n dynn
wyneb yn wyneb â'r
nawr.

Y nawr annaearol,
eiliad yr ymweliad milain;

y nawr cyniweiriol
a anafodd gynifer;

nawr y Brenin Arawn
yn dwyn eneidiau i Annwn;

nawr Lleu fel rhwng deufyd
a nawr ei droi'n eryr;

y nawr ym Maerdy a'r Drain Duon
a'i anrhaith hurt yn y Berth Ddu;

nawr ebolion di-wardd Epona
yn malu gwndwn Bryn Melyn
â charnau chwyrnwyllt;

y nawr i'r hen Fynydd
droi'n fynwent;

nawr y Babell grybibion,

nawr ein datod o'n cysgodion,

a nawr yr haul yn ei gyd-rhwng.

Ar anadl eithaf ein dydd, fe safwn
o flaen ei hud diflanedig,
ac yn sydyn wedyn, daw
nawr

ein dallu gan dywyllwch...

a diwedd deuawd

a'r nawr
y daw Arawn i'n hôl.

Mae Cymdeithas y Cymod yn cynnal pererindodau rheolaidd i Fynydd Epynt, gyda gwasanaeth yn adfeilion Capel y Babell.

Ar gyfer gwybodaeth am hanes Mynydd Epynt ewch i www.abandonedcommunities.co.uk/page45.html.

Hanes heddychiaeth

Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru gan Gwynfor Evans

Dylanwad y ffydd Gristnogol dros y canrifoedd fu yn gyfrifol am y traddodiad cryf o heddychiaeth yng Nghymru. Datblygodd y syniad o weithredu di-drais oddi fewn y mudiad cenedlaethol hefyd gan athroniaeth ac esiampl ymarferol Ghandi. Un o'r gweithredoedd di-drais cyntaf oedd llosgi yr ysgol fomio ym Mhenyberth yn 1936 gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams. Nid oedd dinistrio eiddo yn cael ei ystyried yn drais. Diffiniwyd trais fel trais yn erbyn person. Un agwedd bwysig o weithredu di-drais yw'r parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb llawn am y weithred, ac i dderbyn y gosb. Fe wnaeth y tri cenedlaetholwr fynd yn syth i'r orsaf heddlu leol i gyfaddef eu trosedd. Cawsant gyfle wedyn i gyfiawnhau eu gweithred yn gyhoeddus mewn llysoedd barn cyn cael eu carcharu. 

Yn 1951 medrodd aelodau o Blaid Cymru atal y Swyddfa Ryfel rhag sefydlu gwersyll hyfforddi milwrol ar 5000 erw o dir Trawsfynydd drwy eistedd ar y ffordd i atal trafnidiaeth milwrol rhag cyrraedd y safle. Mae'n drist sylwi fel y penderfynodd aelodau Plaid Cymru yn eu cynhadledd yn Llandudno eleni i beidio â gwrthwynebu academi filwrol Sain Tathan. Fel y dywedodd yr Arglwydd Aston "mae cael grym yn llygru". Mae gweld gwleidyddion yn troi cefn ar draddodiad ac egwyddorion eu plaid er mwyn ennill grym yn tristáu dyn.

Yn 1960 methwyd ag atal dinas Lerpwl rhag boddi Capel Celyn drwy ddulliau di-drais. Er hynny bu'r methiant hwn yn sail i dyfiant teimladau cenedlaetholgar yng Nghymru a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu ein Cynulliad Cenedlaethol. Gellir dadlau mai yn y tymor hir y gwelir ffrwyth gweithredu di-drais.

Rhaid cyfaddef fod rhai pobl wedi defnyddio dulliau treisiol yn ystod yr ymgyrch i achub Capel Celyn. Pe byddent hwy wedi llwyddo mae'n eithaf tebygol y gallai cenedlaetholwyr yng Nghymru fod wedi creu sefyllfa o drais tebyg i'r hyn welwyd yng Ngogledd Iwerddon. Yn ffodus iawn i Gymru roedd arweinwyr Plaid Cymru ac yn arbennig yr heddychwr o genedlaetholwr Gwynfor Evans wedi sefyll yn gadarn yn erbyn dulliau treisiol gan orchfygu yr elfennau hynny oedd yn arddel trais. Cafodd Byddin Rhyddid Cymru a Mudiad Amddiffyn Cymru eu hynysu, er iddynt aros yn y cysgodion gan ymddangos unwaith eto yn ystod protestiadau yr Arwisgo yn 1969.

Digwyddodd y rali genedlaethol gyntaf gan CND Cymru yn 1961, a cofiaf i ni eistedd ar y ffordd tu allan Castell Caerdydd dan arweiniad Pwyllgor y Cant Cymru. Ugain mlynedd yn ddiweddarach yn 1981 penderfynodd criw o ferched o Gymru fynd i sefydlu Gwersyll Heddwch Greenham Common ger cartref y taflegrau Cruise. Ymunodd merched o wledydd eraill yn y gwersyll ac arhosodd rhai tan ddiwedd y rhyfel oer. Defnyddiodd y gwersyll heddwch ddulliau dramatig i ddangos perygl y taflegrau Cruise i'r cyhoedd. Yn 1986 roedd yna brotest mawr gan heddychwyr yng Nghaerfyrddin i atal adeiladu lloches niwclear yno.

Ambell waith mae un unigolyn yn gallu gwneud gwahaniaeth fel yn achos Mrs Eileen Beasley. Penderfynodd hi yn y 1950au cynnar i ofyn i Gyngor Tref Llanelli am gael ei phapurau treth yn y Gymraeg. Afraid dweud ar y pryd roedd yr holl dogfennau swyddogol yng Nghymru ar gael yn Saesneg yn unig. Gwrthododd y Cyngor Tref i argraffu papurau'r dreth yn y Gymraeg ac fe ddechreuodd y frwydr am nifer o flynyddoedd yn erbyn Mrs. Beasley. Gwrthododd hi dalu'r dreth ac fe gollodd ddodrefn o'r tŷ. Cafodd gefnogaeth gan y gymuned leol ac yn diwedd enillodd ei gweithred ddi-drais.

Soniodd Saunders Lewis am ymdrech Mrs Beasley yn ei araith enwog Tynged yr Iaith. Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fel canlyniad i'r araith yn 1963. Bu hi'n bolisi gan Gymdeithas yr Iaith o'r dechrau i weithredu mewn dull di-drais. Rhwygwyd eiddo ac yna cymerodd aelodau'r Gymdeithas gyfrifoldeb dros eu gweithredoedd. Cosbwyd yr aelodau gan yr awdurdodau gyda chyfnodau o garchar a dirwyon. Yn y diwedd cefnogwyd hwy gan y cyhoedd a cafwyd deddf iaith drwy ddulliau di-drais. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dal ati i ddefnyddio dulliau di-drais i gael cyfiawnder llawn i'r iaith Gymraeg.

Mae dulliau di-drais yn gallu llwyddo yn y tymor hir os yw pobl yn ddigon penderfynol ac yn barod i dderbyn cyfrifoldeb a chosb dros eu gweithredoedd. Rhaid fod yn barod i ddioddef dros achos cyfiawn pan y defnyddir dulliau di-drais. Nid yw heddychiaeth yn golygu eistedd yn ôl a gwneud dim ond i fod yn weithredol ddi-drais gan herio anghyfiawnder a thrais ar bob cyfle. Mae angen meddwl am ffyrdd creadigol o weithredu yn ddi-drais i ddod ag unrhyw achos i olwg y cyhoedd ac i geisio cael cefnogaeth.

Arfon Rhys, Hydref 2009

Heddychwyr Cymreig

Dyma ddetholiad o bortreadau o heddychwyr Cymreig. Nid rhestr gyflawn mohoni, ond byddwn yn parhau i ychwanegu ati.

Hanes Heddychwyr Cynnar Cymru

Addaswyd o erthygl "Rhyfel yr Oen" gan Geraint H Jenkins yn Cof Cenedl 1986

Ceisiodd awdurdodau y wladwriaeth Seisnig ac Eglwys Lloegr ddiwreiddio Anghydffurfiaeth a Pabyddiaeth yn ystod cyfnod yr 'Erlid Mawr' rhwng 1660 a 1689. Roedd gweision y wladwriaeth yn ystyried pob heddychwr yn wrthryfelwr, yn fradwr ac yn ynfytyn. Nid yw pethau wedi newid rhyw lawer! 

Crynwyr oedd yr heddychwyr Cristnogol cyntaf. Roedd yn ofynnol i bob Crynwr ar ôl 1661 wrthod gwisgo arfau neu ufuddhau i wŷs y gwŷr rhyfel. Ni fyddent yn cefnogi unrhyw baratoadau milwrol ac ni cheid cyfraniad ganddynt at brynu drymiau, baneri neu wisgoedd milwrol. Ymwrthodent yn llwyr â hawl y wladwriaeth i'w gorfodi i ladd eu cyd-ddyn. Gwrthodent wasanaethu yn rhengoedd y Gwirfoddolwyr (milwyr) lleol nac enwebu eilydd na thalu dirwy. O ganlyniad deuai beilïaid i atafaelu eu heiddo, eu gwartheg, a'u hoffer amaethyddol. Byddai gwerth yr hyn a atafaelid yn fwy o lawer na maint y ddirwy ei hun.

Ysgrifennodd yr heddychwr Richard Davies, a oedd wedi pregethu efengyl tangnefedd am hanner can mlynedd, hunangofiant lle ymffrostiai na welwyd ef erioed yn gwisgo lifrai milwrol nac yn ymladd. Bu'n dadlau ac ymresymu'n ddysgedig â William Lloyd, Esgob Llanelwy, a mentrodd ddweud y gâi ef fwy o dangnefedd yn y carchar nag a gâi'r esgob yn ei balas!

Ymfudodd tua 2000 o Gymry rhwng 1682 a 1700 i Pennsylfania er mwyn hyrwyddo achos goddefgarwch ac heddychiaeth dan arweiniad y Crynwr ac heddychwr William Penn. Bu colli'r bobl diwylliedig a dewr yma yn ergyd drom i'r mudiad heddwch yng Nghymru. Erbyn tua 1715 dim ond dau ddwsin o dai cyrddai'r Crynwyr a oedd yn weddill yng Nghymru.

Er i Howel Harris, Trefeca gondemio anghyfiawnder a thrais fe ymunodd ei hun a'r fyddin yn 1759 gan ddwyn perswâd ar nifer o aelodau o'i deulu i ymuno â'r Gwirfoddolwyr a'r fyddin. Roedd offeiriaid Eglwys Loegr hefyd yn y cyfnod yma yn honni ei bod yn gwbl gyfreithlon i Gristnogion ar orchymyn ustusiaid heddwch ymrestru yn y fyddin, gwisgo arfau a thywallt gwaed.

Yn dilyn y chwyldro yn Ffrainc yn 1789, clywid cwynion yng Nghymru hefyd gan radicaliaid am ormes y tirfeddiannwr ac anghyfiawnder y degwm, a ffolineb rhyfel. "Pa Gristion" gofynnodd Jac Glan y Gors "a fedrai benlinio i ofyn am gymorth Brenin Nef i dorri gyddfau ei elynion?"

Sefydlwyd Gorsedd y Beirdd gan Iolo Morgannwg yn 1792 er mwyn hybu achos heddwch. Mae'r gri "A oes Heddwch?" bellach yn rhan annatod o seremonïau yr orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol hyd heddiw.

Credai Morgan John Rhys mai "plentyn cyfiawnder yw heddwch" a meddai "heb gyfiawnder ni cheir heddwch yn y byd nac yn yr eglwys yn y gymdogaeth nac yn y gydwybod". Cyfaddefodd Morgan John Rhys fod safiad y Crynwyr yn erbyn y rhyfel yn erbyn Ffrainc wedi 1797 "yn fwy cyson ag egwyddorion Crist nag eiddo neb arall".

Ffurfiwyd Cymdeithas Heddwch Llundain yn 1816 gan Joseph Tregelles Price o Gastellnedd a Evan Rees o Sir Drefaldwyn ymysg eraill.

Yn y llyfryn 'Helyntion Bywyd S. R.', a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun "ar ddymuniad rhai o'i gyfeillion", dywedir iddo gael ei hyfforddi o'i febyd gan ei dad "yn egwyddorion nefol Cymdeithas Heddwch." Nid yn unig fe glywodd am y 'press-gangs' yn llusgo rhai o'i hynafiaid i'r fyddin a'r llynges, ond fe welodd hynny â'i lygaid ei hun pan oedd yn yr ysgol yn yr Amwythig. Er mor ifanc ydoedd, nid eto'n ddeuddeg oed, fe ffieiddiodd at yr arfer o "hudo a meddwi a llwgrwobrwyo hogiau i ymrestru yn y fyddin." 

Dyn o feddwl aml-geinciog oedd S. R. - "the myriad-minded man", fel y dywedwyd am Coleridge. Gwrthododd blygu glin i dduw 'y pethau fel y maent' gan roi ei fwyell ar wreiddyn pren bywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Yn ddiweddar fe glywsom ni Barack Obama yn pledio'r angen am newid yn agwedd America. Ar faner 'byd newydd' S. R. yr oedd dau air mewn llythrennau tân - Rhyddid a Heddwch.

Plediai ryddid i'r caethwas, masnach rydd, rhyddid gwleidyddol, rhyddid crefyddol gan ddinoethi ei fraich hyd y bôn o blaid buddugoliaeth y meddwl anghydffurfiol, gwerinol Annibynnol Gymraeg.

"S. R." meddai Dyfnallt Owen amdano "oedd Apostol Heddwch Cymru megis yr oedd Henry Richard yn Apostol Heddwch Ewrop a'r byd". Yn 1826 derbyniodd alwad i gyd-weinidogaethu â'i dad, J. R., gan swyddogion yr Hen Gapel, Llanbrynmair. Pan fu farw ei dad yn 1834 dilynodd S. R. ef fel tenant yn fferm Y Diosg, fel ysgolfeistr ysgol y Capel ac fel gweinidog. Gan fod ganddo naw o gapeli eraill dan ei ofal fe'i gelwid â dirmyg gan rai o'i elynion yn 'Sam y Deg Capel'.

Credai mai gwreiddyn problemau'r oes oedd na fynnai dynion wrando neges brawdgarwch yr efengyl. Hynny a barai gaethiwed o bob math, ac a rwystrai ryddid. Hynny oedd yn cyfrif am greulondeb a gwastraff rhyfeloedd rhwng y cenhedloedd. Iddo ef, ystyr Cristnogaeth oedd fod dynion oll, beth bynnag eu lliw, eu hiaith a'u dosbarth yn gydradd fel brodyr yng ngolwg Duw. Rhaid oedd iddynt felly gydnabod hawliau ei gilydd ac ymddwyn fel brodyr.

Yr unig arfau teilwng oedd perswâd a rheswm, 'yr arfau nad ydynt gnawdol'. Credai na fu erioed yr un rhyfel da na'r un heddwch gwael. Gwastraff llwyr oedd rhyfel yn ei olwg. Dymunai weld pobloedd byd yn rhoi heibio cenfigen a malais, a pheidio ag afradloni'u hadnoddau trwy gadw byddinoedd anferth er mwyn setlo'u cwerylon trwy nerth arfau.

Yn 1850, anfonwyd ef yn un o gynrychiolwyr Cymru i'r gynhadledd fawr gydwladol tros heddwch a gynhaliwyd yn Frankfurt. Pryd bynnag ac ymhle bynnag y rhyfelai milwyr yn erbyn brodorion diamddiffyn, yn enwedig yn India ac Affrica, codai S. R. ei lais dros y gwan a'r dirmygedig. Rhyfel y Crimea, 1854-6 "a roes y cyfle gorau i S. R. ddangos mor dreiddgar y gallai feirniadu rhyfeloedd a'u hachosion, a chynnig rhywbeth gwell yn eu lle." Nid oedd ganddo gynnig clywed sôn am y rhyfel fel brwydr dros grefydd oherwydd meddai 'od oes dim awdurdod yn neddfau Iesu, y mae ysbryd rhyfelgar Lloegr yn codi yn erbyn yr awdurdod hwnnw.'

Rhyfel Cartref America 1861-5, ac yntau bellach wedi symud i fyw i Tennessee, rhwng taleithiau'r De a'r Gogledd, a ddrylliodd ei obeithion yn llwyr. Ei farn am gaethiwed a rhyfel oedd 'mai dau gythraul o efeilliaid ydynt, o'r pydew isaf; a gwallgofrwydd ydyw ceisio cyflogi rhyfel i fwrw allan gaethiwed.'

Heddwch rhwng y cenhedloedd a gâi'r lle blaenaf yn ei ymdrechion. Ni wnaeth y rhyfeloedd a welai ond cadarnhau ei farn mai prif angen dynoliaeth oedd diorseddu rhyfel ac achosion rhyfel o galonnau dynion, a dyrchafu cariad brawdol yn eu lle.

Wedi dychwelyd i Gymru, i Gonwy, yn 1867 parhaodd S. R. i wrthwynebu rhyfel. Meddai Dr D. Ben Rees amdano "Hyd ei anadl olaf ar 24 Medi 1885 ni phallodd 'S. R.' â phleidio heddychiaeth." Yn ei bregethau a'i ddarlithoedd, fel ar dudalennau Y Cronicl, gwrthwynebodd pob ymgais i 'ddysgu crefft rhyfel' gan dynnu sylw at 'ffolineb a gwastraff holl ryfeloedd byd.'

R Alun Evans

Apostol Heddwch, Gwladgarwr

gan Gwyn Griffiths

Henry RichardHenry Richard oedd Cymro enwocaf ei ddydd, ond bron nad aeth ei enw'n angof. Rhyfedd o beth o gofio mor berthnasol ei neges ar bwnc heddwch a rhyfel i'n hoes ni ac mor ddylanwadol fu ei safiadau dros Gymru a'r Gymraeg. Yn arbennig ei ymosodiad ar Adroddiadau'r Comisiynwyr ar Gyflwr Addysg yng Nghymru (Brad y Llyfrau Gleision) 1847 a'i gyfrol ddylanwadol Essays and Letters of Wales (1866). Nod yr erthyglau hynny, meddai, oedd addysgu'r Saeson am eu cymdogion. Ond gwnaethant fwy drwy ennyn balchder a hyder y Cymry. Yn ôl yr Archesgob A. G. Williams ni fu gan un arweinydd gwleidyddol yng Nghymru erioed y fath ddylanwad dwfn a di-wrthwynebiad ymysg Anghydffurfwyr. Cyn ei ethol yn AS dros Ferthyr ac Aberdâr ym 1868, carfan ddiwerth fu Aelodau Seneddol Cymru ond trawsnewidiodd Henry Richard y cyfan. Gwyntyllwyd materion Cymreig am y tro cyntaf mewn cof ar lawr Tŷ'r Cyffredin. 

Ni ellir ysgaru heddychiaeth Henry Richard wrth ei Gymreictod. Bod yn Gymro a'i dysgodd i gasáu natur ryfelgar y Saeson. Ond y mae elfen barchus o heddychiaeth a radicaliaeth i hanes Lloegr a bu'r rheini'n ddylanwadau arno fel myfyriwr yn Highbury a fel gweinidog Capel Cynulleidfaol Seisnig Marlborough yn yr Old Kent Road. Wedi ei ordeinio ym 1835 daeth i gysylltiad ag ymgyrchwyr o blaid Masnach Rydd. Dynion oedd am weld cenhedloedd yn tyfu a ffynnu ochr-yn-ochr a'i gilydd mewn rhyng-genedlaetholdeb anffurfiol o gyfnewid nwyddau a syniadau. Dyheadau y medrai Henry Richard uniaethu â nhw. Dysgodd nad digon apelio'n uniongyrchol at arweinwyr y cenhedloedd ond bod angen ymgyrchu i lunio barn gyhoeddus i ddwyn pwysau ar Lywodraethau. Wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Heddwch ym 1848 trefnodd, ar y cyd gyda'r Americanwr Elihu Burritt, gyfres o gynadleddau heddwch ar gyfandir Ewrop. Bu'r gyntaf ym Mrwsel ym Medi 1848, wedyn ym Mharis ym 1849 a Frankfurt ym 1850. Yn y gyntaf, ym Mrwsel pasiwyd penderfyniad i annog Llywodraethau i ddatrys cwerylon drwy gyflafareddiad ac ymatal rhag ymyrryd yng ngwerylon gwledydd eraill. Yng nghynhadledd Paris rhagwelai'r bardd a'r llenor Victor Hugo, ffurfio taleithiau unedig Ewrop. Yr oedd cynhadledd Frankfurt yn rhyfeddod o drefniadaeth. Daeth 500 o Brydain yn unig, yn eu plith Samuel Roberts (SR Llanbrynmair) a sgrifennodd am gyfraniad Henry Richard yn Y Cronicl - "Byddai yn hoff gennym iddo gael drws agored drwy ryw ran o Gymru i sefyll a lleisio yn y Senedd o blaid Heddwch." Ym 1850 ymddiswyddodd o'r weinidogaeth gan gyhoeddi fod dadlau achos "tangnefedd ar y ddaear" cyn bwysiced â phregethu am Dywysog Tangnefedd ar y Sul.

Asgwrn cefn y Gymdeithas Heddwch yn ei degawdau cynnar oedd y Crynwyr â'u heddychiaeth ddi-amod wedi'i seilio ar ddysgeidiaeth Crist. Dan aweiniaeth Henry Richard aeth y gymdeithas yn fwy seciwlar gan groesawu âheddychwyr amodol", gwleidyddol, a wrthwynebai ryfel ar sail dioddefaint i'r tlawd a'r difrod a wnai i economi a masnach. Er ymdrechion Richard a'r Gymdeithas, ym 1865, cychwynnodd rhyfel "poblogaidd" y Crimea a dan lach jingoistiaeth y papurau newydd ciliodd yr "heddychwyr amodol". Dal i daranu yn erbyn rhyfel yn gyffredinol a Rhyfel y Crimea yn benodol wnaeth Henry Richard er wynebu ymosodiadau milain a bygythion personol. Yna, wrth i annhrefn ac erchyllterau ddod yn wybyddys newidiodd y farn gyhoeddus.

Yn dilyn cadoediad 1856 trefnwyd cynhadledd ym Mharis i lunio cytundeb heddwch. Penderfynodd Richard fynd yno i annog y cynrychiolwyr i gynnwys cymal yn y cytundeb yn galw am greu trefniant cyflafareddu rhwng cenhedloedd. Gydag ef aeth Joseph Sturge, henwr o Grynwr, a Charles Hindley, AS, Llywydd y Gymdeithas Heddwch. Wedi tair wythnos rwystredig o guro drysau llwyddwyd i berswadio'r cynrychiolwyr i gynnwys y cymal fod teyrnasoedd "rhwng y rhai y gall camddealltwriaeth godi, cyn apelio at arfau milwrol, yn gwneud defnydd, mor bell ag y bo amgylchiadau yn caniatáu, o wasanaeth caredig ryw Allu cyfeillgar". Nid oedd yn rhwymo'r cenhedloedd i weithredu, eto yr oedd yn ddatganiad o anghymeradwyaeth o ryfel a gosododd gynsail pwysig yn arbennig i sefydlu Tribiwnlys yr Hâg ym 1899.

Ym 1873, bum mlynedd wedi ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ferthyr ac Aberdâr cyflwynodd Henry Richard gynnig ar gyflafareddu i Dŷ'r Cyffredin. Drwy gyfuniad o waith caled yn paratoi'r tir, cyfrwystra gwleidyddol a lwc - ac er gwaethaf gwrthwynebiad y Prifweinidog Gladstone - llwyddodd i gael y Tŷ i gymeradwyo cynnig: "Fod Anerchiad gystyngedig i'w gyflwyno i'w Mawrhydi yn erfyn arni orchymyn i'r Ysgrifennydd Cartref ymgynghori â'r Galluoedd Tramor gyda'r amcan o gyflwyno gwelliannau pellach i'r gyfraith ryngwladol a sefydlu cyfundrefn Gyflafareddu barhaol." Achosodd y llwyddiant annisgwyl hwn, ac araith rymus Richard yn Nhŷ'r Cyffredin, gynnwrf mawr ar gyfandir Ewrop.

"Tra'n gwario cymaint o amser, meddwl, dawn ac arian yn trefnu rhyfel, oni fyddai'n werth neilltuo ychydig o feddwl rhagblaen i drefnu heddwch?" holodd. Rhestrodd y gwledydd oedd yn gwegian dan faich cynnal byddinoedd arfog. Cyfieithwyd yr holl ddadl i brif ieithoedd Ewrop a theithiodd Richard ar draws Ewrop yn annog gwleidyddion i ddilyn ei esiampl. Ni chafodd unrhyw Aelod Seneddol Prydeinig ar ymweliad answyddogol â gwlad dramor erioed y fath dderbyniad. Cymeradwywyd cynigion o gefnogaeth yn seneddau Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Hawdd rhestri ei fethiannau. Ond bu llwyddiannau. Ni ymunodd Prydain yn rhyfel 1870 rhwng Prwsia a Ffrainc. Petai Prydain wedi gwneud buasai'n lladdfa ar raddfa'r Rhyfel Byd Cyntaf. Am y llu rhyfeloedd a ddigwyddodd er gwaethaf ei ymdrechion ef a'r Gymdeithas Heddwch, dengys hanes yn ddieithriad mai fe oedd yn iawn.

Wythnosau cyn ei farw ym 1888, cadeiriodd gyfarfod i lunio Siartr Prifysgol Cymru. Bu'n allweddol yn sefydlu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Bu'n aelod diwyd o'r Comisiwn Brenhinol i Baratoi Adroddiad ar Gyflwr Addysg yng Nghymru a Lloegr (1888). Pe buasai'r Arolygwyr a'r ysgolion wedi manteisio ar Ddeddfwriaethau'r Weinyddiaeth Addysg a ddaeth yn sgil y Comisiwn hwnnw buasai'r Gymraeg mewn cyflwr llawer cryfach heddiw.

Yng ngeiriau'r adnod - Gymraeg - sydd ar ei gofeb ym mynwent Abney Park yn Llundain:

"Canys yr oedd yn fawr gan ei genedl, ac yn gymeradwy ym mysg lluaws ei frodyr, yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w holl diriogaeth."


Gallwch brynu cyfrol Gwyn Griffiths, Henry Richard - Apostle of Peace and Welsh Patriot yn ein siop.

Brodor o fro'r Preseli oedd Thomas Rees. Yn dilyn cyfnod cynnar fel gwas ffarm a cholier fe gafodd yrfa academaidd ddisglair. Fe'i penodwyd yn Brifathro Coleg Bala-Bangor a dyna'i swydd wrth i gymylau'r Rhyfel Byd Cyntaf grynhoi.

Cyn i'r gyflafan ddigwydd fe alwodd ar ei gyd-Annibynwyr i ddatgan fod pob rhyfel yn groes i ysbryd Crist ac i fuddiannau gwerin y gwledydd. Yna mewn llythyr herfeiddiol i'r Wasg ym Medi 1914 beirniadodd yn llym y syniad poblogaidd fod y rhyfel yn un sanctaidd a mynnodd nad oedd lle i ryfel yn nhrefn yr Efengyl. 

Bu ymateb chwyrn i'w lythyr. Ymosodwyd arno'n ffiaidd a gwnaeth clwb golff Bangor ei ddiarddel. Ond bu ei safiad cadarn yn ysbrydoliaeth i lawer a gwelwyd un ar ddeg o'i fyfyrwyr yn cofrestru yn wrthwynebwyr cydwybodol.

Pan sefydlwyd cylchgrawn misol Y Deyrnas, Thomas Rees a benodwyd yn olygydd iddo. Ceir mesur o rin a dylanwad y cyhoeddiad hwn yng ngeiriau W.J. Gruffydd pan ddywedodd "mai'r deyrnas fu'n un o'r achosion cryfaf na chollodd Cymru ei henaid yn hollol yn nydd y gwallgofrwydd mawr."

Mor wir a pherthnasol o hyd oedd geiriau Thomas Rees yn y rhifyn cyntaf: "Rhyfel yw'r ffurf amlycaf yn awr ar elyniaeth y byd at Deyrnas Duw." Yr un mor berthnasol yw ei neges i'r eglwys pan ddywed "mai i'r eglwys yr ymddiriedwyd y dasg o ddysgu'r byd beth yw maddeuant a thrugaredd, a chymod a chariad, a'i hetifeddiaeth hi yw'r adnoddau ysbrydol a all dorri dros ben gelyniaeth cenhedloedd a'u dwyn i gwlwm tangnefedd."

WELEDYDD CALON LYDAN - Dyma'r geiriau a naddwyd ar faen coffa'r gweinidog a'r heddychwr John Puleston Jones, ar fur ei gartref yn Stryd Fawr y Bala, gyferbyn â chofgolofn Tom Ellis, A.S., un o gyfeillion Puleston. Uwchben y geiriau uchod ceir, PREGETHWR HEDDYCHWR A CHYMRO DA. Er iddo golli'i olwg yn flwydd a hanner dywedwyd ei fod yn gweld ymhellach a chliriach na'r mwyafrif. "Rydach chi'n gweld yn bellach na neb ohonom ni, ac yn dweud y gwir yn rhy fuan a ninnau ddim yn barod i'w dderbyn", oedd sylw un o'i aelodau ym Mhenmount, Pwllheli. Un o gyfeillion pennaf Puleston oedd Heddychwr Mawr Cymru, George M.LL. Davies ac yn ei bortread ohono yn Cenhadon Hedd, un o Bamffledi Heddychwyr Cymru, dywed: "Yr oedd yn ddall, ac eto yn amgyffred yn ddyfnach ac ymhellach na'i gyfoedion, yn grefftwr medrus, yn arddwr deallus, yn gallu trin a marchogaeth ei geffyl, ac - o bob camp yn gallu tynnu'i deipiadur Braille oddi wrth ei gilydd a'i ail-osod". 

"Y dwysaf a'r dewraf o Genhadon Hedd y Gogledd", meddai George Davies, ac yr oedd y ddau yng nghwmni naw arall yn y Bermo ym 1916 mewn cyfarfod i hybu cenhadaeth hedd yn nyddiau tywyll y rhyfel. Cytunwyd i gyhoeddi cylchgrawn i hyrwyddo egwyddorion heddychiaeth, ac yn Hydref cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Y Deyrnas, gyda Thomas Rees a Hywel Harris Hughes yn olygyddion. "Mewn ysgrif yn y rhifyn hwnnw gan 'Ŵyr i John Jones, Talysarn', ceryddodd George Davies y Prifweinidog D. Lloyd George", yn ôl E.H. Griffiths, yn Heddychwr Mawr Cymru, "am ddyfynnu hwyl heb ddyfynnu pregeth John Jones. Rhydd George yn ei ysgrif ddyfyniad hir o bregeth ei daid ar Sechareia 4,6: 'Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd i, medd Arglwydd y lluoedd'.

Cyfrannodd Puleston yn aml i'r cylchgrawn a dyma ddau ddyfyniad o 1918: "Nid oes bosibl adrodd yn rhy aml, mai dioddef drwy ymladd ydyw rhyfel; ymladd drwy ddioddef ydyw'r Groes". Ac wrth gymeradwyo Cristnogaeth dywed: "Hi ddeil ei safonau ei hun o flaen dynion sy eto heb ei derbyn hi. Hi fyn edrych ar ddynolryw i gyd fel aelodau o gorff dirgeledig Iesu Grist. Ar ddynion y mae'r bai os nad ydynt. Yr un peth ydyw cariad rhwng dwy genedl a rhwng dau ddyn. Gall ei weithredu amrywio; ond yr un fydd ei amcan ym mhob man".

Y mae Ioan Wyn Gruffydd yn ei ysgrif ar Puleston yn Herio'r Byd, ar "l dyfynnu'r sylw "Pobl ffyrnig o ryfelgar sy o'm cwmpas i ym Mhwllheli", yn ychwanegu, "Dywedwyd geiriau brwnt a chreulon wrtho lawer gwaith. Pan bregethai, clywid rhywrai yn y gynulleidfa yn pesychu eu hanghymeradwyaeth. A byddai dadlau ac anghytuno mawr ag ef yn ystafell y blaenoriaid ac yn y lletyau. Yng ngeiriau Alun Puleston, cafodd ei dad lawer gwaith 'ei frifo yn nhŷ ei garedigion'.

Siomwyd Puleston yn agwedd ei gyfeillion megis John Williams, O.M. Edwards a John Morris-Jones, a fu wrthi'n cefnogi ymgyrch recriwtio Lloyd George. Yr un oedd ei siom yn ei gyfaill Syr Henry Jones a ddaeth i Bwllheli i gefnogi ymgyrch y Prifweinidog. "Plediai achos y Llywodraeth nad oedd 'ffordd arall' boed y canlyniad beth y bo", meddai George Davies, gan ychwanegu, "Yna cododd Puleston, ac meddai, 'Y mae gen' i gwestiwn, Syr Henry, a dyma fo - Y mae ffordd arall on'd oes? 'Y mae ffordd arall'. Nid gwrthdystiad yn erbyn rhyfel oedd gwedd amlycaf Protestaniaeth Puleston, eithr tystiolaeth am 'ffordd arall' - y 'ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist'.

Y mae Ioan W Gruffydd yn cloi'i bortread o Puleston drwy sôn amdano'n annerch ar ôl y Prifathro Thomas Rees yn Seiat y Tangnefeddwyr ym Mhwllheli ac yn traethu ar 'Arglwyddiaeth Crist': Yr oedd Prydain, meddai, am i gariad fynd i'r gegin i olchi'r llestri ond nid oedd lle iddo yn y parlwr i reoli'r holl dŷ. Câi cariad gyflawni ambell ddyletswydd fach, ond nid oedd lle iddo gael teyrnasu. Nid gwas oedd Cariad i fod, ond brenin. Ar ei ffordd i'w orsedd yr oedd. Ac nid oes a wad bellach na wnaeth John Puleston Jones, y pregethwr dall a welai ymhellach na llawer o'i gyfoeswyr, ei ran i hybu Cariad ar ei ffordd i'w orsedd.

Da fyddai bawb fydd yn mynd i Brifwyl y Bala fyddai oedi wrth gofeb Puleston ac wrth ei fedd ym mynwent Eglwys Crist, gan ddiolch i Dywysog Tangnefedd am 'Weledydd Calon Lydan'.

W J Edwards

Ganed Richards Roberts ym Mlaenau Ffestiniog ar 31 Mai 1874. Roedd ei dad, David Roberts, yn weinidog gyda'r Hen Gorff a bu'n chwarelwr cyn cael ei ordeinio. Yn y Blaenau y cafodd Richard ei addysg gynnar, a dywedodd 'Mi gefais y gansen yn fynych yn siarad Cymraeg yn ystod oriau ysgol, ond methodd y gansen â'm dysgu i beidio â siarad Cymraeg, dim ond fy ngwneud yn benderfynol o beidio â chael fy nal wrthi eto.' Wedi tair blynedd mewn ysgol uwchradd, cafodd ysgoloriaeth i fynd i'r Liverpool Institute, ac ym 1890 cafodd ysgoloriaeth bellach i fynd i Goleg y Brifysgol Aberystwyth, ac oddi yno i Goleg y Bala, gyda Thomas Charles Edwards yn brifathro arno. Wedi graddio, aeth yn weinidog i Dreharris, ac fel un a gredai yn yr efengyl gymdeithasol, aeth ati i wleidydda, gan sefydlu cangen o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP) yn yr ardal, a chynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored fel y gwnaethai gyda'i genhadu crefyddol. Ar ôl symud i Lundain, bu'n weinidog yn eglwys genhadol Saesneg Westbourne Grove, ond oherwydd ei heddychiaeth, gorfodwyd ef i adael, a daeth yn weinidog Capel Cymraeg Willesden Green, lle y cyfarfu â'i wraig, Anne Thomas, a bu'r ddau yn fawr eu gofal dros y nifer fawr o fechgyn a merched ifanc o Gymru a ddaethai i'r ddinas i weithio. 

Cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Cyffredinol llawn-amser cyntaf Cymdeithas y Cymod (British FOR) yn 1915, gyda George M. Ll. Davies yn Ysgrifennydd Cynorthwyol iddo. Am flynyddoedd cyn hynny bu'n weithgar gyda Mudiad Gristnogol y Myfyrwyr, ac fel un a oedd yn frwd dros yr Ysgol Sul, amlinellodd gynllun uchelgeisiol i'w diwygio mewn llyfr a gyhoeddwyd ym 1909. Dilynwyd y gyfrol honno gan naw llyfr arall, gan gynnwys The Contemporary Christ ym 1938. Aeth i'r Unol Daleithiau ym 1916 ar ran FOR i sefydlu cangen yno, a'r flwyddyn ddilynol derbyniodd wahoddiad i fod yn weinidog eglwys annibynnol enwog yn Efrog Newydd, 'The Church of Pilgrims', gan ddod ar unwaith yn un o arweinwyr Cymdeithas y Cymod yn yr Amerig, ac yn aelod dylanwadol o fwrdd golygyddol ei chylchgrawn, World Tomorrow. Buasai wedi hoffi dychwelyd i Gymru, ond ni chafodd gyfle, ac ar ôl 1921, ymgartrefodd yng Nghanada, lle y daeth yn adnabyddus fel pregethwr, darlledwr, awdur a darlithydd academaidd poblogaidd iawn. Pan fu farw ar Ebrill 10 1945, danfonwyd ei lwch i Gymru, ac mewn gwasanaeth byr o dan arweiniad ei hen gyfaill George M. Ll. Davies, a Dan Thomas, fe'i gwasgarwyd ar ochrau creigiog Pared y Cefn Hir yn ymyl Cader Idris.

Ni fu erioed fwy o wrthwynebydd i ryfela na T. E. Nicholas. Ni welai ddiben i ladd am nad oedd, yn ei dyb, yn gwella cyflwr y dyn cyffredin. 

Condemniai'r hyn a ystyriai'n ymrafael i gynnal 'y drefn ysbail' fel y galwai gyfalafiaeth. Er hynny, gosodai Niclas derfyn ar ei heddychiaeth. Doedd ganddo ddim gwrthwynebiad i'r defnydd o drais fel rhan o'r Chwyldro Bolsheficaidd yn Rwsia yn 1917. Gwelai ddisodli gafael y Tsariaid yn gam tuag at greu teyrnas nefoedd ar y ddaear.

Yn 1898, wedi cyfnod byr yn y Rhondda, ymrestrodd fel myfyriwr yn Academi'r Gwynfryn yn Rhydaman o dan athrawiaeth Gwili a Watcyn Wyn a'i olygon ar y weinidogaeth. Yn 1901 yn 22 oed derbyniodd alwad i weinidogaethu capel sblit yn Llandeilo.

Trwy hynny dechreuodd ar yrfa ddadleuol a chythryblus fel gweinidog. Roedd aelodaeth capel yr Annibynwyr, Tabernacl, yn Ffairfach gerllaw, wedi tyfu i'r graddau y penderfynwyd codi capel yn nhref Llandeilo ar gyfer carfan o'r 600 o aelodau. Aeth yn ymrafael ynghylch lleoliad a phenderfynodd un garfan feddiannu hen gapel bychan y Wesleaid am eu bod nhw'n symud i adeilad mwy. Mae'n siwr y medrai Niclas ddewis gofalaeth amgenach na fyddai'n gymaint o her iddo. Ond hwyrach mai dyna oedd yn apelio wrth iddo gael ei ordeinio a'i sefydlu yn Horeb.

Yn 1903 gadawodd Horeb a hwylio i Dodgeville, Wisconsin gyda'i wraig newydd Alys Hopkins. Ond byr fu ei arhosiad fel gweinidog yn yr Unol Daleithiau. Denwyd y Parch T. E. Nicholas a'r teulu i Seion, Y Glais, yn 1904 ac arhosodd yng Nghwm Tawe tan 1914. Yn 1911 penodwyd Niclas yn olygydd Cymraeg y Merthyr Pioneer a sefydlwyd gan Keir Hardie, yr AS Llafur dros Ferthyr. Niclas oedd llais Cymraeg Sosialaeth. Siom i'r ddau oedd methiant gweithwyr Ewrop i gynghreirio i wrthwynebu'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y cyfnod hwn ymwelai Niclas, yn ei dro, â'r Tŷ Gwyn yn Rhydaman, sef hen adeilad y Ficerdy a brynwyd yn 1913 gan George Davison, y miliwnydd a pherchennog cwmni Kodak, at ddefnydd gweithwyr cyffredin i wyntyllu syniade sosialaidd. Amharod oedd y capeli i roi defnydd o Festrïoedd i gynnal cyfarfodydd o'r fath yn enw'r Blaid Lafur Annibynnol.

Yn 1914 symudodd Niclas i gymryd gofal o eglwysi yn Llangybi yng Ngheredigion ond ni fu'n hir cyn rhoi'r gore i'r weinidogaeth lawn amser am fod ei ddaliade radical yn golygu na chai groeso yn holl bulpudau'r wlad. Collodd yn drwm pan safodd fel ymgeisydd seneddol yn hen sedd Hardie yn Aberdâr yn 1918. Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n barod i ysgwyd llaw â Jyrman dywedodd y gwnelai hynny'n llawen. Gyda hynny daeth ei yrfa wleidyddol seneddol i ben cyn iddi ddechre.

Trodd at ddeintydda i ennill bywoliaeth ac ymsefydlu yn Aberystwyth lle bu tan ei farwolaeth yn 1971. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol er ni ellir dweud iddo chwarae llawer o ran yn ei threfniadaeth na sefyll yr un etholiad yn ei henw. Esgynnai i bulpudau'r wlad fel pregethwr llawrydd a mynych oedd y galwadau arno fel darlithydd yn arbennig wedi ei ymweliad â Rwsia yn 1935. Fe'i hadwaenid fel 'y darlithydd coch' gyda'i fap mawr a'i bwyntil.

Yn 1940 cafodd ynte a'i fab, Islwyn, eu carcharu ar amheuaeth o fod yn ffasgwyr gan dreulio cyfnod yng ngharchar Brixton. Ond ni fu hynny'n rhwystr iddo ddal at ei ddaliade yn ddiwyro. Ni chollai'r un cyfle i gollfarnu cyfalafwyr a theuluoedd brenhinol, gan orseddu dysgeidiaeth foesol ac ymarferol yr Iesu uwchlaw dogma ac athrawiaeth.

Hefin Wyn

Wrth ddwyn i gof Pamffledi Heddychwyr Cymru a argraffwyd gan Wasg Gee yn ystod yr ail ryfel byd, mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn annog y genhedlaeth bresennol, yn hen ac ieuanc, i'w darllen. Maent ar gael yn ein Llyfrgell Genedlaethol. Arweinydd yr heddychwyr hyn oedd George Maitland Lloyd Davies, gŵr yn ôl Gwynfor Evans, awdur y llyfr Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru (Cymdeithas y Cymod, 1991), a "safai ar ei ben ei hun", ac a ysgrifennodd dri o'r pamffledi ei hun, sef rhif 2 "Ffordd y Cymod", rhif 9 "Gandhi a Chenedlaetholdeb India" o'r gyfres gyntaf o ddeuddeg, a rhif 1 "Triniaeth Troseddwyr" o'r drydedd gyfres. Galwyd ef gan ei gofiannydd, E.H. Griffiths, yn "Heddychwr Mawr Cymru" ac yn "Seraff yr Efengyl Seml", dau ddisgrifiad cwbl haeddiannol. 

Person dwys a theimladwy oedd George Davies erioed, ond yr archoll ddofn o golli ei gyfaill enaid, Herbert Roberts, ym 1905, wedi i driniaeth lawfeddygol fethu, a'i sbardunodd i wasanaethu cyd-ddyn. Yng ngeiriau ei ddyddlyfr ar y pryd: "I live more for others and much happiness has come into my soul". Un o'i nodweddion pennaf oedd ei allu i gymysgu gyda phob math o bobl. Roedd yr un mor gartrefol gyda'r dysgedigion a'r 'byddigions' ag yr oedd ymysg 'gwehilion' cymdeithas, yr anffodusion y gweithiodd mor galed a diarbed yn eu plith am flynyddoedd, heb gyfri'r gost iddo ef ei hun o ran ei iechyd na'i amgylchiadau personol. Mae englyn D.J. Davies, Capel Als yn crynhoi hynny'n berffaith:

Rhoes ei galon i Shoni, - Wil a Dai
o'i weld ef fu'n llonni;
Yn nydd craith clywodd eu cri,
Ar eu salwch rhoes eli.

Cafodd lawer o flynyddoedd o iselder ysbryd ar ddechrau ei bererindod ysbrydol, rhywbeth a nodweddai pobl angerddol o bryd i'w gilydd, ond ar adeg ei dröedigaeth, dywedodd:

"Yn y tywyllwch eithaf ... daeth goleuni Crist a darganfyddiad o'i eiriau mai amod ei ddisgyblaeth oedd ufudd-dod: 'Os cerwch fi cerwch fy ngorchmynion'; nid teimlad, na chyffes, na phroffes na gwaith ... gwybod a gweithredu oedd trefn addysg y byd, gweithredu a gwybod oedd trefn yr Efengyl ... ac o beth i beth, deuthum o anobaith a thywyllwch i oleuni gyda hyn - megis angor yr enaid - mai cariad personol Crist oedd yn cadw ac yn cymodi, ac mai cyfeillgarwch personol, ac nid clod neu anghlod y byd oedd yn cyfrif yn y pen draw."

Dyna'r weledigaeth a fu'n llywodraethu ei fywyd am bymtheng mlynedd ar hugain wedyn. Cafodd gyfaill o'r un anian yn y Parchedig Richard Roberts yn swyddfa'r Fellowship of Reconciliation yn Llundain, yntau wedi ei orfodi i roi'r gorau i fugeiliaeth ei eglwys am nad oedd ei bregethu heddychol yn gymeradwy gan ei braidd. Profodd y ddau, ynghyd â holl heddychwyr y cyfnod, lawer o erledigaeth, ac fe garcharwyd rhai ohonynt, gan gynnwys George Davies, am wrthod gwasanaeth milwrol gorfodol ym 1916. Bu'n gwneud gwaith amgen fel gwas fferm a bugail yn Llŷn am gyfnod, a mynych fu'r cyfarfodydd gweddi a'r seiadau, gyda George yn un o'r siaradwyr mwyaf huawdl. Ceid disgrifiad ohono yn siarad dan deimladau dwys ac ar ambell foment angerddol daliai'r gynulleidfa ei hanadl.

Tystiolaeth gwraig o Dywyn a fu yng nghwmni George lawer gwaith oedd: "Fo oedd yr unig berson i mi ei gyfarfod erioed oedd yn llythrennol ufudd i orchmynion ei Feistr", a sylw ei gofiannydd oedd: "Os oedd llawer ar y pryd yn dioddef wrth ymladd, ymladd trwy ddioddef yr oedd George Davies".

Priodol hefyd ar yr adeg hanesyddol a chyffrous sydd ohoni yng Ngogledd Iwerddon y dyddiau hyn yw nodi ymdrechion glew George Davies yn 1920 i ddod â chymod i'r dalaith gythryblus wrth iddo gyfarfod â phobl amlwg o'r ddwy ochr yn Iwerddon ei hun a hefyd yn yr Alban, a cheisio eu hargyhoeddi mai ffordd Tywysog Tangnefedd oedd yr unig ffordd i'w dilyn. Aeth hefyd i rif deg Downing Street ar sawl pererindod heddwch a llwyddodd i gael Lloyd George, y Prif Weinidog, i gyfarfod â de Valera am y tro cyntaf yn Iwerddon. Bu George Davies yn allweddol i 'Mesur 1921' a fu ar y pryd, er ei ddiffygion, yn gam pwysig ymlaen ym mherthynas Prydain ac Iwerddon.

Dywedwyd amdano mai "ef oedd yr olwyn ddirgel oedd yn troi'r olwynion mawr oedd yn yr amlwg". Ni allaf lai na meddwl pa mor wahanol y buasai hanes Gogledd Iwerddon dros y blynyddoedd pe bai'r gwleidyddion wedi gwrando a gweithredu yn ôl doethineb George M. LL. Davies. Coffa da a diolch i Dduw amdano.

Note: An English translation of the biography of George M.LL.Davies mentioned above  is available to download or to purchase a printed copy from our store at lulu.com.

Rwyf yn y broses o sgwennu llyfr i bobl ifanc am wrthwynebydd cydwybodol. Mae gen i sail i'r cymeriad yn y llyfr gan mai dyna oedd fy nhaid, David Thomas (1880-1967). Athro yn ysgol gynradd Talysarn oedd o ym 1916, pan gafodd ei alw i'r Fyddin. Roedd wedi bod yn dysgu dynion i wynebu'r Tribiwnlys, ac yn sgwennu'n ddyfal i'r Wasg i wrthwynebu'r Rhyfel, ond yn y diwedd daeth ei dro ef i sefyll ger bron y swyddogion. 

Yn ei achos ar 2 Mai 1916, dywedodd,

'I am conscientiously opposed to everything that destoys human life. I cannot feel justified, under any circumstances, in destroying men's lives for the sake of anything of less value.'

Rhoddwyd statws gwrthwynebydd cydwybodol iddo gan ddweud y byddai'n rhydd o 'combat service' ond y byddai yn rhaid iddo wneud 'non-combat service', a gwaith o 'bwysigrwydd cenedlaethol'. Nid oedd ei waith fel athro yn ateb y gofyniad hwnnw! Roedd yn rhaid iddo ganfod gwaith oedd o leiaf 50 milltir o'i gartref. Bu am fisoedd yn ceisio cael gwaith na fyddai'n golygu ei fod yn rhyddhau gŵr arall i fynd i'r Fyddin.

Rai wythnosau yn unig cyn iddo wynebu carchar, daeth o hyd i waith fel gwas fferm yn Wrecsam. Yno y bu tan ddiwedd y Rhyfel. Ond daeth un fendith fawr iddo tra 'roedd yno. Cyfarfu fy nain yn y Capel Wesla, a phriododd y ddau yng Ngorffennaf 1919. Cafodd ei swydd fel athro yn Nhalysarn yn ôl hefyd, diolch i bwysau o du'r staff.

Roedd dipyn go lew o ragfarn yn erbyn 'conshis'. Nid yw fy nhaid yn sôn am yr ochr yma o gwbl, ond mae gennym dystiolaeth un o'i ddisgyblion, neb llai na Gwilym R. Jones. Meddai ef yn ei hunangofiant, 'Rhodd Enbyd':

'Nid oedd arno [David Thomas] ofn arddel ei syniadau pasiffistaidd gerbron pawb, a chostiodd hynny'n ddrud iddo. Gallem ni'r plant synhwyro hynny rywsut. Clywem rai hŷn na ni'n achwyn mai 'Hen Gonsi' oedd Dafydd Thomas, ac ni wyddem yn iawn pa beth a olygai hynny. Pan aem i'r Cwt Du, cynullfan doethion y pentref, yn y stesion, clywem weithiau ddadlau gwyllt ar ei gorn, a chasglem ei fod yn ŵr 'ofnus' a 'di-asgwrn cefn'. A dechreuasom amau mawredd ein hathro!

Ond ni bu undyn yn cerdded strydoedd Talysarn â chanddo fwy o lewder moesol yn ei galon'.

Ydi, mae pobl sy'n gwneud safiad yn gwneud argraff ar blant.

Angharad Tomos

Bu'r Parchedig Lewis Valentine yn filwr yn y rhyfel byd cyntaf, ac fel llawer arall, arweiniodd y profiad hwnnw iddo bregethu heddychiaeth am weddill ei fywyd. Roedd yn un o'r tri, gyda Saunders Lewis a DJ Williams a losgodd ysgol fomio Penyberth fel protest yn erbyn bomio dinasoedd fel arf rhyfel. Cafodd ei garcharu am y weithred hon yn Wormwood Scrubs. Ef oedd golygydd Y Deyrnas, misolyn y Bedyddwyr Cymraeg. Dyma ddarnau allan o erthygl ganddo yn y Deyrnas sy'n gosod her i bob enwad a phob Cristion, ac sydd mor wir heddiw ac oedd pan gafodd ei ysgrifennu: 

Yr Eglwys yn y Witness Box

Ateb i her Mr. Lloyd George yn Heol y Castell, Llundain, 24 Mehefin 1928

Y Sul olaf ym Mehefin traddododd y Gwir Anrhydeddus Lloyd George, Aelod Seneddol araith ryfedd yng nghapel y Bedyddwyr, Heol y Castell, Llundain. Gosododd yr Eglwys Gristnogol yn y witness box a chroesholodd hi'n llym. Dowch inni godi brawddeg ohoni i'r Deyrnas: "If all the Churches had said 'Halt', there is not a Minister or Monarch who would have dared to have done it", hynny yw, cyhoeddi rhyfel yn 1914. Bu raid inni rwbio dipyn ar ein llygaid wrth ddarllen yr araith, ac yn enwedig wrth ddarllen y rhannau hynny sy'n ymwneud â pherthynas yr eglwys â rhyfel.

Onid Mr. George oedd y mwyaf taer yn ystod y rhyfel yn galw ar weinidogion yr Efengyl i droi'n recruiting sergeants a throsi eu pulpudau yn llwyfannau i chwythu utgyrn rhyfel, ac annog ohonynt yr ieuanc i ymuno yn y rhyfel sanctaidd (sic) oedd sicrhau buddugoliaeth i ni a chrocbren cyfuwch â chrocbren Haman i'r Kaiser?

Buom ni yn y fyddin - yr oeddem ni yn un o'r bechgyn a wrandawodd ar yr efengylwyr hyn. Buom yn y rhyfel - gwelsom ei huffern, cawsom ein clwyfo'n dost - buom am dri mis yn ddall - buom am chwe mis heb wybod ai angau ai einioes oedd ein tynged i fod. Dioddefasom fel miloedd eraill, ond atgas gennym y gweinidogion hynny a buteiniodd y pulpud i bregethu rhyfel, ond chware teg i'r gweinidogion hynny, y maent heddiw'n barod i weiddi 'PECHASOM', ond beth fu rhan y gwŷr hynny a brotestiodd yn enw Crist yn erbyn rhyfel - y Gwrthwynebwyr Cydwybodol? Beth a gostiodd teyrngarwch i ddysgeidiaeth Crist i'r rhain? Atebed Dartmoor a Wormwood Scrubbs a charcharau eraill! Onid Mr. George oedd pen y llywodraeth a oedd yn gyfrifol am hyn?

Nid gwrthwynebu beirniadu'r Eglwys yr ydym, ond ni fedrwn oddef ymosod annheg. Gosoded pob dyn ei hun yn y witness box cyn gosod yr Eglwys. Gall yr Eglwys wneuthur llawer iawn mwy dros heddwch ac nid breuddwyd ffanatig i'n tyb ni ydyw breuddwydio am Gynghrair yr Eglwysi i alltudio rhyfel.

Beth am ein henwad ni? Bu unwaith yn odidog o ddewr yn gwrthwynebu rhyfel. Pryd y gwneir ymwrthod ag arfau rhyfel yn amod aelodaeth eglwysig? Y mae'n rhaid gwneud rhywbeth yn fuan, fuan gan fod Seiat y Cenhedloedd mor annheg a di-rym ac o dan bawen yr ymerodraethau cedyrn, a pha fodd y gallwn ni ymuno â hi, a hithau yn nadu inni ymuno fel Cymry? Nid cysurwyr galarus mohonom, ond efallai fod rhyfel arall yn nes atom nag a feddyliwn. Annidwyll geiriau Mr. George yng ngoleuni ei record yn nyddiau'r rhyfel, ond nid annichon llesiant mawr ohonynt. Pwy rydd i lawr sylfeini Seiat yr Eglwysi i ddilorni a dileu rhyfel?

Gorffennaf 1928

Am fwy o wybodaeth gallwch ddarllen:

  • Dyrchafwn Gri. Lewis Valentine, gol.Idwal Wynne Jones 1994
  • Valentine. Arwel Vittle 2006

Pa mor aml tybed y clywsom eiriau Y Tangnefeddwyr yn cael eu hadrodd neu yn cael eu canu i gyfeiliant cerddoriaeth hudol Eric Jones? Mae'n amlwg fod y gerdd wedi cydio a bod Waldo, ein bardd heddwch, yn dal i dystio i rin y tangnefeddwyr, plant i Dduw. 

Cafodd Waldo Goronwy Williams ei eni ar Fedi 30, 1904 yn Hwlffordd lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr. Cafodd ei rieni ddylanwad dwfn arno. Roedd ei fam Angharad yn hynod am ei thynerwch a'i haelioni. Gŵr cadarn ei argyhoeddiad oedd Edward ei dad, yn heddychwr ac yn aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol. Fe nododd Waldo eu rhinweddau mewn geiriau cofiadwy:

Mae Gwirionedd gyda 'nhad
Mae Maddeuant gyda 'mam

Ac mae'r llythrennau bras yn awgrymu'r trosgynnol.

Saesneg oedd iaith yr aelwyd a bu trobwynt ym mywyd Waldo pan benodwyd ei dad yn brifathro'r ysgol ym Mynachlog-ddu ac wedi hynny yn Llandysilio. Fe'i bwriwyd i fôr o Gymreictod a bu ei brofiad o ddysgu'r Gymraeg a dod i'w hanwylo yn un ysgytwol. Ac yno wrth odre'r Preseli fe gafodd brofi rhagoriaeth "bro brawdgarwch" a'r ddyfnder perthynas y daeth i'w gyfleu yn ei ddefnydd o'r gair "adnabod".

Hawdd tybio bod Waldo wedi tyfu'n naturiol i fod yn heddychwr drwy ddylanwad yr aelwyd. Dyma gartref na chafodd ei sugno i mewn i ryfelgarwch 1914. Byddai'r Waldo ifanc wedi clywed llawer am Willie, mab y Parchedig John Jenkins, oedd yn gyfaill mawr i'w dad ac fel y bu iddo gael ei garcharu am iddo wrthod ymladd.

Fe gofiai Waldo yn dda fel y cafodd, yn ddeg mlwydd oed, ei gyfareddu wrth wrando ar ei dad yn darllen cerdd T.E. Nicholas, Gweriniaeth a Rhyfel. Ac nid dibwys fyddai'r pwyslais a gaed yn y broydd hynny ar "agwedd ymarferol a chymdeithasol Cristionogaeth gyda sêl dros deyrnas Dduw ar y ddaear"!

Dyna'r fagwriaeth a'r dylanwadau a roes i Waldo ei atgasedd at y pwerau sy'n treisio a chaethiwo a'i alwad am hybu brawdoliaeth a chyfeillach.

Cawn y nodyn hwn gyntaf yn 1931 yn ei gân i'r Hen Allt. Cafodd hon ei thorri lawr "i borthi uffern yn ffosydd Ffrainc trwy'r pedair blynedd ddu" ond bellach yr oedd yn ail dyfu.

A llywodraethau dynion a'u dyfeiswyr
Yn llunio arfau damnedigaeth fwy.

Yn Nhŷ'r Arglwyddi yn 1938 galwodd yr Arglwydd Strabolgi am fabwysiadu mesur gorfodaeth filwrol. Ymatebodd Waldo gyda'i gerdd Y Tŵr ar Graig gyda'r Tŵr yn arwyddo pŵer treisiol.

Ôl hen ryfel a welais
Y cysgod trwm lle bu trais.

Cafodd neges heddwch le amlwg ym marddoniaeth Waldo trwy gyfnod y rhyfel. Yn ei gerdd Plentyn y Ddaear fe wêl oruchafiaeth y bychain ar y treiswyr:

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain,
Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr,
Daw bore ni wel ond brawdoliaeth
Yn casglu teuluoedd y llawr.

A "Brawdoliaeth" yw testun un o'i gerddi grymusaf. Hon oedd cyfraniad Waldo i un o bamffledi Heddychwyr Cymru. Am fod "rhwydwaith dirgel Duw" yn cydio pawb ohonom mae'n dilyn ein bod i fyw fel brawdoliaeth. Ac felly:

Pa werth na thry yn wawd
Pan laddo dyn ei frawd

Fel y dywedir yn Y Tangnefeddwyr

Cennad dyn yw bod yn frawd.

Ym mis Chwefror 1942 ymddangosodd Waldo yn wrthwynebydd cydwybodol ger bron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin a chyflwyno datganiad na fu ei debyg. "War to me," meddai, "is the most monstrous violation of the spirit that society can devise".

Cafodd ryddhad diamod ond bu pwysau annifyr arno oherwydd ei safiad a gadawodd ei swydd yn ysgol Casmael ac aeth yn athro yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Yn dilyn marwolaeth drist ei briod, bu'n dysgu am bum mlynedd yn Lloegr cyn dychwelyd wedyn i Gymru.

Cyfansoddodd Waldo ei gerdd nodedig Cyfeillach yn ymateb i'r cyhoeddiad y byddai milwyr Prydain yn yr Almaen yn cael ei dirwyo pe baent yn dymuno Nadolig Llawen i'r Almaenwyr. Mynegodd ei hyder fod ysbryd cyfeillach yn drech na phob ymgais "i rannu'r hen deulu am byth".

Y newyddion fod y Swyddfa Ryfel â'i golygon ar diroedd y Preseli a'i cymhellodd i sgrifennu Preseli. Ynddi fe roes fynegiant i gri'r dewrion a fynnodd rwystro'r bwriad:

Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw.

Pan gyhoeddwyd ei gerdd fwyaf oll Mewn Dau Gae fe eglurodd iddo fynegi profiad a gafodd pan oedd yn ifanc sef "sylweddoli fod dynion yn gyntaf oll yn frodyr i'w gilydd".

Daeth Waldo i deimlo nad oedd tystio drwy eiriau yn ddigon. O 1949 ymlaen ni thalodd ei dreth incwm. Pan alwyd ef i gyfrif fe ddatganodd, "Gwrthodaf dalu'r dreth incwm tra bo gorfodaeth filwrol ar Gymru a thra bo'r Llywodraeth yn dal i wario mor wallgof ar baratoadau rhyfel".

Dwysawyd ei brotest wrth iddo glywed am erchyllterau'r rhyfel yng Nghorea a chafodd ei lethu gan ymdeimlad o euogrwydd oherwydd yr hyn a wnaed yn ei enw.

O ganlyniad i'w safiad daeth bwmbeilïaid a meddiannu ei eiddo, ac yna yn 1960 ac eilwaith y flwyddyn ddilynol cafodd ei garcharu yn Abertawe.

Dywedodd Lewis Valentine "na fu dim dewrach yn ein cenhedlaeth ni na safiad Waldo Williams yn erbyn rhyfel".

Bu cerddi Dail Pren, cerddi a rymuswyd gan safiad costus, yn ysbrydiaeth gyson i heddychwyr Cymru.

Ein braint ydyw atseinio'r ymbil ddwys hon.

Cod ni Waredwr y byd
O nos y cleddyfau a'r ffyn,
O! Faddeuant, dwg ni yn ôl
O! Dosturi casgl ni ynghyd
A bydd cyfeillach ar ôl hyn.

M. Islwyn Lake

Profiadau dau wrthwynebwr cydwybodol Cymraeg yn yr Ail Ryfel Byd

Ym 1940 carcharwyd Cymro pump ar hugain oed mewn tribiwnlys yn Aberystwyth i dri mis o lafur caled am ei safiad fel gwrthwynebwr cydwybodol. Ei enw oedd Merfyn Turner. Dengys Dewi Eirug Davies yn ei gyfrol werthfawr Protest a Thystiolaeth bod y mwyafrif o wrthwynebwyr cydwybodol yn yr Ail Ryfel Byd wedi cytuno i wneud rhyw waith anymladdol, ond 'gwrthododd Merfyn Turner, ar dir cydwybod, dderbyn unrhyw orchymyn o du'r llysoedd'. Yn ôl ei gyfaill Tilsli, dadleuodd ei achos ei hun yn 'benderfynol a di-droi'n ôl', gan ddyfynnu geiriau Luther "Yma y safaf: ni allaf wneud yn amgen". Aeth ei gyfaill mynwesol, Dyfnallt Morgan, o flaen tribiwnlys yn Aberystwyth yn ystod 1940 hefyd, a phenderfynodd ymuno ag un o Unedau Gwasanaeth y Peace Pledge Union yng Nghymru. Byddaf yn sôn am brofiadau cyferbyniol y ddau ffrind fel gwrthwynebwyr cydwybodol, un yng ngharchar Abertawe a'r llall mor bell dros y moroedd â China wledig.

Disgrifia Merfyn Turner, yn ei gyfrol A Pretty Sort of Prision, weld carcharor am y tro cyntaf ar y ffordd i'r ysgol pan oedd yn ddeg mlwydd oed. Roedd y gŵr anffodus hwn wedi cael ei orymdeithio mewn gefynnau trwy stryd fawr y dref i lys yr ynadon. Aeth Turner trwy'r un profiad diraddiol yn Aberystwyth: 'That my offence was only a matter of refusing to join the Forces...did nothing to lessen the pain of public parade.' Wedi iddo gyrraedd y carchar ar noson aeafol, oer, fe'i diraddiwyd ymhellach trwy ei orchymyn i ddadwisgo, sefyll yn noeth ar y llawr llechen a golchi ei hun ym math rhif tri. Ar ôl gwisgo'i iwnifform carchar fe'i gorymdeithiwyd i sefyll gyda'r carcharorion newydd eraill ac i ddisgwyl arolygiad y meddyg. Bu mewn cyflwr o sioc emosiynol ddwfn am y pythefnos cyntaf. Roedd yn smygu'n drwm cyn cyrraedd, ond collodd ei flas am dybaco yn llwyr. Daeth y blas yn ôl wrth iddo gyfarwyddo â rheolau ag amodau'r carchar; rhai llym a dorrodd yn aml trwy ysmygu mwy na'r mwyafswm a bennwyd gan awdurdodau'r carchar. Dysgodd yn gyflym mai torri'r fath fân reolau oedd yr unig ffordd i gael ei gyd-garcharorion i'w dderbyn beth bynnag.

Rhestrodd Turner effeithiau niweidiol a dinistriol carcharu yn sgîl ei brofiad personol: anesmwythder corfforol trwy orfod cysgu mewn cell oer, heb fawr i'w orchuddio yn y gwely caled; awch cyson am fwyd; yn bennaf oll, difrod seicolegol trwy nid yn unig ddarostwng y carcharor ond hefyd rheoli ei fywyd allanol. Fe'i gorfodwyd felly i ddibynnu'n gyfan gwbl ar yr awdurdodau i gyflenwi ei anghenion. Roedd y fath amodau a rheolaeth lem yn gorfodi carcharorion i ymchwelyd i'w plentyndod, yn ei dyb ef. Yn swyddogol, nid oedd hawl gyda'r carcharorion i hyd yn oed siarad â'i gilydd nac i ofyn am gymorth o'r swyddogion. Bu'n rhaid iddo ddysgu pob un o arferion dyddiol y carchar trwy wylio ei gyd-garcharorion a dilyn eu hesiampl. Rhydd ddisgrifiad grymus o amgylchfyd hollol ddigysur ac oeraidd y carchar: "There is something fiendish and sadistic about its internal design, with its contradictory sensations of impenetrability and constant exposure. Everything is strong, yet affords no cover...."

Ei gefndir fel mab i weinidog Wesle oedd yn gyfrifol am heddychiaeth Merfyn Turner i raddau helaeth, a'i ffydd ym mhosibiliadau dynoliaeth am ddaioni os yw'r amodau cymdeithasol iawn yn cael eu creu er mwyn iddynt flodeuo. Nid ffydd naïf neu freuddwydiol mewn 'natur ddynol', ond ffydd ymarferol, ddyngarol bod ffordd amgen o drefnu cymdeithas yn bosib, nad oedd yn ddibynnol ar filitareiddio a charcharu. Gwelodd bod y carchar yn rhan o'r un peirianwaith cymdeithasol awdurdodaidd â'r fyddin ac ysgolion bonedd, a'i fod yn amhosib adeiladau cymdeithas fwy heddychlon a gwâr tra bod y fath sefydliadau Fictoraidd yn dal i sefyll.

Gŵr o empathi a thrugaredd anarferol ydoedd a ddysgodd trwy ei brofiad personol mai tlodi ac anghyfartaledd cymdeithasol oedd yn fwyaf cyfrifol am droseddau'r mwyafrif o garcharorion. Treuliodd gweddill ei fywyd o 1940 hyd ei farwolaeth ym 1991 yn gwneud gwaith cymdeithasol blaengar ac arbrofol, yn bennaf gyda chyn-garcharorion. Cariad diamod oedd sail ei waith, fel ei heddychiaeth, a dderbyniai pob unigolyn fel rhan o'r un greadigaeth a'r un bywyd beth bynnag fo'i ffaeleddau neu droseddau. Sefydlodd y tŷ hanner ffordd cyntaf ym Mhrydain ar gyfer dynion oedd newydd adael y carchar ym 1955. Dilynwyd esiampl arloesol Norman House mewn degau o dai tebyg ar draws Prydain.

Llion Wigley

Ganed Annie Eleanor Jones (wedyn Humphreys) ym Merthyr Tudful, a hi oedd Ysgrifennydd cyntaf Heddychwyr Cymru a ffurfiwyd yn 1938. Dilynwyd hi fel Ysgrifennydd gan Gwynfor Evans pan iddi roi'r gorau i'r swydd ar enedigaeth ei phlentyn cyntaf yn Awst 1939. 

Fuodd hi'n yn aelod blaenllaw o'r Peace Pledge Union yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, a hi oedd yn gyfrifol am droi'r hyn a elwid yn Welsh National Council o'r PPU yn "Heddychwyr Cymru". Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd hi yn byw yn Wrecsam ac yn aelod o'r grŵp heddychwyr a oedd â swyddfa yn 51 King Street, Wrecsam. Pan ddechreuodd y rhyfel gwrthododd perchennog y swyddfa adael i'r heddychwyr gwrdd yno. Felly aeth Annie Humphreys ati i logi stondin ym marchnad Wrecsam i werthu llenyddiaeth heddwch, ac roedd ganddi ddigon o gynorthwywyr i sicrhau rota ar gyfer pob diwrnod gwaith. Trefnodd gynhadledd heddwch i Gymru gyfan ar ran Heddychwyr Cymru yn Wrecsam yn 1939.

Cyfrannodd hefyd fel un o'r genhedlaeth ifanc o heddychwyr i gyhoeddiad gan Heddychwyr Cymru o'r enw Tystiolaeth y Plant. Ymysg y cyfranwyr eraill roedd Rosalind Bevan, W.R.P. George, A.O.H. Jarman, Waldo Williams, a Dewi Prys Thomas. Cyhoeddwyd pamffledi Tystiolaeth y Plant gan Y Faner am dair ceiniog diolch i gefnogaeth Kate Roberts a Morris Williams.

Ymunodd hi a Chymdeithas y Cymod yn ystod yr Ail Ryfel Byd a gweithiodd yn ddiarbed dros heddwch ar hyd ei hoes. Mae Gwynfor Evans yn sôn amdani fel un o arweinwyr Cangen Gymraeg Caerdydd o Gymdeithas y Cymod gyda R.J. Jones yn y chwe degau. Bu farw yn 1988 yng Nghaerdydd a derbyniwyd rhoddion "er cof" i Gymdeithas y Cymod yng Nghymru.

Diolch i Nia Rhosier am y wybodaeth uchod.

Roedd yr Athro J.R. Jones yn athronydd a benodwyd i gadair Athroniaeth Coleg y Brifysgol Abertawe yn 1952, a bu yno hyd ei farw. Roedd hefyd yn bregethwr, diwinydd, heddychwr a chenedlaetholwr, ac yn wir yn broffwyd i genedl y Cymry.

Dyma ddarn allan o bregeth ganddo a gyhoeddwyd yn y gyfrol Ac Onide yn 1970. Roedd y rhyfel oer yn ei anterth ar y pryd, ond nid oes rhaid gwneud dim mwy na newid y gair "Rwsia" am "Al Qaida" a "comiwnyddiaeth" am "derfysgwyr Islamaidd", ac mae'r hyn sydd ganddo yma yn wir am ein sefyllfa ni heddiw. Sef, y syniad fod un ochr yn "dda" a'r ochr arall yn "ddrwg", sy'n arwain at ryfel. Mae hyd yn oed yn defnyddio'r gair "Crwsâd" fel y defnyddiodd Arlywydd America George Bush y gair cyn dechrau rhyfel Iraq.

Pan weinyddir barn y tu allan i wledydd, sef gan wledydd ar ei gilydd, dyma'r union erchylltra y maent yn mynd yn euog ohono. Canys eglur yw mai pen draw unrhyw weinyddu barn ar wlad gan wlad arall, neu ar un gwareiddiad gan wareiddiad arall, yw rhyfel. A bu'n wir erioed, ond yn gan fil gwiriach erbyn hyn, mai'r diniwed sy'n dioddef fwyaf mewn rhyfel.

'A fynni di', meddai'r gweision, 'i ni fyned a chasglu yr efrau?' Hynny yw, 'a fynni di i ni weinyddu barn?' O'r ddwy ochr, cofiwch - 'ni', y gwareiddiad rhydd, 'Cristnogol', weinyddu barn ar yr anferthwch comiwnyddol; neu, o'r ochr arall, 'ni' gwareiddiad y rhannu a'r gwastatau, weinyddu barn ar addolwyr y ddoler a'r bunt? 'A fynni di i ni fyned a chasglu yr efrau?' 'Na fynnaf ... rhag i chwi, wrth gasglu yr efrau, ddiwreiddio fy ngwenith hefyd'.

'Rwyf am bwysleisio fod mwy o arwyddocâd heddiw i'r rhybudd proffwydol hwn nag erioed yn hanes dynion. Canys yn gwbl agored bellach, fel rhyfel y 'da' yn erbyn y 'drwg' yr edrychir ar y gwrthdaro rhwng y ddau wareiddiad. Daethpwyd i feddwl am y rhyfel a ragwelir yn torri allan rhyngddynt fel rhyfel ideolegol pur - rhyfel a fydd yn ei gyhoeddi ei hun o'r cychwyn, a heb ddim cywilydd, yn rhyw fath o grwsâd dros ddaioni a chyfiawnder. Clywch, er enghraifft, eiriau o 'blatfform' y Blaid Weriniaethol, y mae nid yn unig eithafwyr fel Goldwater, ond hefyd lawer iawn o Americanwyr capelgar a chyfrifol, yn aelodau ohoni:

"America must advance freedom throughout the world as a vital condition of orderly human progress and universal justice. The supreme challenge to this policy is an atheist imperialist communism. Our nation's leadership must be judged by the stand it takes against communism. That stand must be: victory for freedom. There can be no security until this goal is won. We will reconsecrate this nation to human liberty assuring the freedom of our own people and rallying mankind to a new crusade for freedom all around the world..."

Y mae'n wir fod Goldwater wedi ei drechu yn yr etholiad. Ond, a thros bum miliwn o bleidleisiau y tu ôl iddo, ei air olaf wrth ildio'r oruchafiaeth i Johnson oedd: 'Communism remains our number one obstacle to peace'. Y pwynt i graffu arno yw y dywedai arweinwyr Rwsia yr un peth yn union am gyfalafiaeth. Ac wrth gwrs, nid heb reswm. Oni wel y darllenydd hynny, gan gryfed ei bartïaeth, nid yw wedi dechrau deall neges y bregeth hon. Canys y safbwynt proffwydol yw nad oes yn yr honiadau hyn ddim oll ond fod y naill ochr, fel y llall, yn ei gweld ei hunan yn wenith pur a'r efrau i gyd ar yr ochr arall - gweld y gyfundrefn gyfiawn ynddi hi a 'chyfiawnder' honedig yr ochr arall heb fod yn ddim ond lledrith a thwyll. Eithr yn enw'r Gristnogaeth broffwydol, y mae'n rhaid cyhoeddi nad felly y rhannwyd byd Duw. Y mae ganddo Ef ei wenith ym mhob gwlad ac ym mhob gwareiddiad. Gwir, ymhob gwlad ac ymhob gwareiddiad, fe heuwyd efrau yn gymysg a'r gwenith. Eithr Efo ei hun yn unig a fedr eu didoli. Bydd unrhyw gais o eiddo'r naill ochr neu'r llall, yn enw ei chyfiawnder ei hun, i chwynnu efrau'r ochr arall, yn sicr o dynnu'r diniwed - y 'rhai bychain hyn' - i mewn i'r dioddef.

Wrth y sawl sydd, gan hynny, yn ei ystyried ei hun yn ddigon glan a theilwng i farnu - wrth America a Phrydain, hynny yw, yn ogystal ag wrth Rwsia a China - y mae'r Tragwyddol yn dywedyd, ac yn ei lais bellach holl daerineb y ffaith fod tynged bodolaeth y byd yn y fantol:
'Na fynnaf - rhag i chwi, wrth gasglu'r efrau, ddiwreiddio fy ngwenith hefyd'.

Utgorn nef yn dolefain,
Y sêr a glywant ei sain.

Gallwch ddarllen y cyfan o'r bregeth yn Ac Onide gan J R Jones 1970.

Cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd roedd Rosalind Bevan (nawr Rusbridge) yn athrawes yn y clasuron yn Ysgol Glanmor i Ferched yn Abertawe. Bu'n aelod o Grŵp Heddychwyr Abertawe ers 1938, gan rentu stondin heddwch yn ei henw ym Marchnad Abertawe. Dywedodd: "Roeddwn yn sosialydd a heddychwraig ar sail Gristnogol cyn i fi adael ysgol yn 1933. Rwy'n cofio George Lansbury yn siarad yn y Neuadd Ganolog yn Abertawe, ac roedd Gwynfor yno. Ni chymrodd pobl fawr o sylw ohonom cyn y rhyfel, ond roeddem yn rhentu stondin ym marchnad Abertawe gan werthu Peace News. Roedd Gwynfor Evans yn help mawr i ni. Byddem yn cynnal cyfarfodydd yn Tŷ Cwrdd y Crynwyr yn Abertawe. Pan ddechreuodd y rhyfel o ddifrif aethom ar ein beiciau i Bontarddulais a chawsom ein hatal gan dorf fawr o bobl oedd yn ein gwrthwynebu yn gweiddi 'Ewch yn ôl i Abertawe, y blydi conchies!'" 

Erbyn 1940 roedd mudiad o'r enw the League of Swansea Loyalists wedi ei ffurfio i wrthwynebu'r heddychwyr, gan ymgyrchu i gau'r Stondin Heddwch ym Marchnad Abertawe. Roedd y stondin ar rent dan enw Rosalind Bevan, a gwrthododd hi ildio i gais gan Gyngor Tref Abertawe i gau'r stondin. Felly aeth Clerc y Dref yn ei flaen i gau'r stondin. Protestiodd Heddychwyr Cymru yn erbyn y cau gan ddweud fod Cyngor y Dref wedi torri'r cytundeb rhentu.

Ond roedd gwaeth i ddod wrth i'r bomiau ddechrau disgyn ar Abertawe. Ymunodd y Lleng Brydeinig yn Abertawe gyda'r League of Swansea Loyalists i hawlio fod Cyngor Abertawe yn diswyddo gweithwyr y Cyngor oedd yn gwrthwynebu'r rhyfel. Penderfynodd Cyngor Abertawe ar 28 Mehefin 1940 ofyn i'w gweithwyr arwyddo Datganiad Teyrngarwch, ac mi fyddai'r rhai oedd yn gwrthod arwyddo yn cael eu diswyddo. Roedd y Datganiad Teyrngarwch yma yn gofyn tri chwestiwn sef "Ydych chi yn aelod o'r Peace Pledge Union?", "Ydych chi yn aelod o'r bumed golofn?" (sef bod yn gefnogwr neu ysbïwr y gelyn) ac "Ydych chi o blaid llwyddiant y rhyfel?"

Collodd 19 o weithwyr y Cyngor eu swyddi, ac roedd deg o'r rhain yn ferched, yn eu plith Rosalind Bevan. Yn ddiweddarach yn yr hydref penderfynodd y Cyngor i ddiddymu'r diswyddiadau. Ond penderfynodd Rosalind Bevan wrthod derbyn ei swydd yn ôl a gadael Abertawe i edrych am waith, a bu fyw gweddill ei oes yn alltud yn Lloegr. Daliodd i weithio dros heddwch ac roedd yn aelod o CND Cristnogol.

Ceir rhagor o wybodaeth am Rosalind Bevan yn erthygl Ursula Masson yn Radical Wales 1991, "Loyalty and Dissent in Wartime Wales".

Ym mis Medi 1981 gorymdeithiodd 36 o ferched o Gaerdydd i Gomin Greenham dan y faner "Merched dros Fywyd ar y Ddaear". Yn eu plith roedd Jill Evans ASE Plaid Cymru ac Ann Pettitt sydd wedi ysgrifennu llyfr am ei phrofiadau "Walking to Greenham: How the Peace Camp Began and the Cold War ended"

Pan gyrhaeddodd y merched o Gymru Comin Greenham ar ôl taith o 120 milltir, dyma nhw yn anfon y datganiad yma at brif swyddog y ganolfan filwrol yno: "Rydym yn ofni am ddyfodol ein plant ac am ddyfodol y byd byw sy'n wraidd pob bywyd".

Bu'r merched yn gwersylla y tu allan i ganolfan filwrol Comin Greenham am dros ugain mlynedd gan sefydlu naw o wersylloedd bychain. Y cyntaf oedd "Yellow Gate" ac yna yn 1983 "Green Gate". Roedd gan pob un o'r gwersylloedd bychan thema wahanol. Er engraifft roedd y "Pedestrian Gate", "Indigo Gate" a "Violet Gate" yn cynnwys merched oedd yno am resymau crefyddol tra roedd y "Red Gate" ar gyfer merched a oedd yn artistiaid.

Cafodd y gwersylloedd merched ar Gomin Greenham ddylanwad mawr. Bu sawl protest dros heddwch yno a gafodd sylw fyd-eang. Cynhaliwyd un brotest ar ddechrau y rhyfel dros ynysoedd y Malvinas / Falklands yn 1982 gyda 34 o'r merched yn cael ei arestio. Mae'n debyg mai y brotest enwocaf oedd yr un a elwir yn "Embrace the Base" pan ddaeth 30,000 o gefnogwyr i Gomin Greenham yn Rhagfyr 1982.

Cafodd y ffens o gwmpas y ganofan filwrol a fu yn gartref i 96 o daflegrau Cruise ei dynnu i lawr ym mis Ebrill 2000 pan sefydlwyd parc busnes yno yn lle maes awyr milwrol. Daeth y gwersyll heddwch i ben ar 5ed Medi 2000. Heddiw mae cylch o gerrig "gorsedd" o Gymru ar y safle a darnau eraill o gelf mewn gardd heddwch syml.

Yn anffodus yn ystod cyfnod y Gwersyll Heddwch lladdwyd un heddychwraig ifanc o Gymru sef Helen Thomas gan un o'r cerbydau milwrol. Nid oedd hi'n fywyd cysurus o gwbwl i'r merched ar Gomin Greenham, roeddynt yn byw mewn ffordd gyntefig iawn mewn pebyll hunan-gwneud. Cafodd nifer o'r merched dros y blynyddoedd eu dwyn o flaen y llysoedd, ond ar sawl achlysur enillodd y merched yr achos. Yn bendant yn y pendraw y merched enillodd y frwydr foesol gan sicrhau na ddefnyddiwyd yr arfau erchyll yma erioed yn erbyn neb, er gwaethaf y "rhyfel oer". Ni farwodd Helen Thomas yn ofer. Roedd gwersyll merched Comin Greenham yn symbol o heddwch byd eang.

Ein Dyled i Gwynfor

Fel y nododd llawer un a roes deyrnged i Gwynfor Evans, roedd ei heddychiaeth yn gwbl ganolog yn ei fywyd. Gydol ei yrfa wleidyddol fe safodd yn gadarn a diflino dros y ffordd ddi-drais. 

Fe deimlai'n falch iawn o'r cyswllt teuluol a gafodd â Richard Roberts, Ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas y Cymod a bu yno yng nghwmni George M. Ll. Davies pan wasgarwyd ei lwch. Ac fe wisgodd Gwynfor fentyll y ddau heddychwr mawr hynny mewn ffordd loyw iawn.

Yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe gyfrannodd yn helaeth at y dystiolaeth heddwch gan weithredu fel ysgrifennydd Heddychwyr Cymru.

Bu Cymdeithas y Cymod yn ddyledus i Gwynfor am ei gefnogaeth gyson a'i braint oedd cael cyhoeddi ei draethiad ar George M. Ll. Davies, Pererin Heddwch a'r llyfryn gwerthfawr Heddychiaeth yng Nghymru. Llawenydd i ni oedd iddo gael ei wahodd i draddodi darlith Coffa Alex Wood a gwnaeth hynny yn 1983 gan ddewis yn destun Cenedlaetholdeb Di-drais.

Bydd haneswyr y dyfodol yn sicr o gydnabod arbenigrwydd y gwleidydd hwn o heddychwr. Bu'n wrol yn ei ymgais i lefeinio byd dyrys gwleidyddiaeth â gwerthoedd y Deyrnas. Nid oedd ganddo amheuaeth beth oedd yn hawlio blaenoriaeth. "Er mwyn dyn y mae popeth yn bod; pob sefydliad a phob cymdeithas." Ac eto, "Personoliaeth dyn yn unig sydd o werth eithaf ar y ddaear ? nid gwladwriaeth na chenedl na gwreiddiad."

Pa well ffordd o barchu coffadwriaeth Gwynfor na thrwy lynu wrth y gwerthoedd a arddelodd a'u hyrwyddo o fewn ein dyddiau ni.

Pytiau o anerchiadau angladd Gwynfor

Meddai Jill Evans ASE:

Roedd Gwynfor Evans yn ysbrydoliaeth i mi. Materion heddwch a chyfiawnder oedd yn ei yrru - ac yn cael eu hadlewyrchu ym mhob peth a wnâi.

Fe wnaeth Gwynfor wahaniaeth enfawr. O'r tridegau a'r pedwardegau pan oedd yn ysgrifennydd Heddychwyr Cymru ac yn chwarae rôl flaenllaw yn y protestiadau yn erbyn y bwriad o symud chwe deg o deuluoedd o Fynydd Epynt er mwyn troi'r tir yn faes tanio, pan wrthwynebai'r modd y meddiannodd y fyddin ddeg mil o aceri o dir ger Abergeirw, hyd at y llynedd pan gododd ei lais yn erbyn yr ymosodiad anghyfreithlon ar Irac.

Fe chwaraeodd ran bwysig iawn yn CND Cymru - nid yn unig pan oedd yn ffasiynol gwneud hynny ond hefyd pan roedd diarfogi yn isel ar yr agenda ac CND yn cael bron dim sylw. Siaradai Gwynfor gydag angerdd dros heddwch a diarfogi a'u pwysigrwydd i bob rhan o'n bywydau.

Siaradodd yn gryf yn y Senedd yn erbyn rhyfel Fietnam ac fe gynigiodd ei hun fel 'tarian ddynol' yn Hanoi. Fe wrthodwyd mynediad i'r grŵp i Fietnam ond roedd y weithred yn nodweddiadol o ŵr na allai sefyll a gwylio'r fath laddfa.

Mae Gwynfor wedi gosod safonau uchel i ni gyd. Ac mae gyda ni i gyd ddyled enfawr iddo am ei waith diflino dros heddwch a chyfiawnder. Diolch Gwynfor am garu Cymru ond hefyd am garu'r byd.

Meddai yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC:

Ganwyd yr enaid mawr hwn y ffarweliwn a'i weddillion heddiw yn y ganrif fwyaf treisgar yn hanes y byd. Pa ryfedd felly mai heddwch rhyngwladol oedd pwnc cyhoeddus cyntaf Gwynfor Evans. Pwnc ei gyfweliad olaf oedd ymosodiad deifiol ar fenter anghyfreithlon Llywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn erbyn Irac. Y cyplysiad hwn rhwng dyfodol Cymru fel cenedl a heddwch byd-eang oedd canolbwynt ei yrfa gyhoeddus a'i argyhoeddiad personol.

Am fod y byd wedi ei drefnu mewn cymuned o genhedloedd yr oedd am i Gymru fod yn un ohonynt. Gwelai ddyfodiad y cenhedloedd llai ar lwyfan ryngwladol yn her i'r hen wladwriaethau ymerodrol.

Materion cydwladol oedd y paragraffau tanbaid yn ei ddegau o areithiau llywyddol i gynadleddau blynyddol ei blaid. Dyna a symbylodd ei daith i Cambodia mewn ymgais i gyrraedd Fietnam.

Ymhell cyn dyfodiad yr Undeb Ewropeaidd, roedd ymlyniad Gwynfor wrth genhedloedd llai'r tir mawr yn nodedig. Coleddodd ryddid y Catalaniaid a'r Basgiaid yn nyddiau du ffasgaeth Franco. Dadleuodd dros hawliau'r Cwrdiaid pan nad oedd gan wleidyddion amlwg y DU nag UDA unrhyw ddiddordeb ynddynt. Ymgeleddodd y Llydawiaid drwy'r degawdau pan wadwyd eu hawliau.

Ni allai neb wadu ei gyfraniad unigryw i sefydlu'r Cynulliad. Gwyddai Gwynfor erioed am werth moesol y broses ddemocrataidd a'r urddas a ddyry ar fywyd cenedl ac unigolyn.

Gosododd urddas digymar ar ein bywyd cyhoeddus yn genedlaethol a rhyngwladol. Yn nhywyllwch yr ugeinfed ganrif ryfelgar a threisgar bu ei fywyd yn olau.

Collodd Cymru heddychwraig nodedig pan fu farw Marion Eames yn Ebrill 2007. Cyfeiriodd Saunders Lewis ati fel "nofelydd o athrylith ddiamau". Mae ei nofelau am y Crynwyr cynnar yn ardal Dolgellau a'r ymfudiad i America, sef Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn yn dangos ei edmygedd o neges heddwch Cymdeithas y Cyfeillion. Ond rydym ni fel Cymdeithas yn cofio amdani, nid yn unig fel nofelydd ond fel heddychwraig. Yn ei gyfrol arni mae Richard R. Evans yn dweud: 

"Pan oedd hi tua phedair ar ddeg i bymtheg oed, roedd y Mudiad Heddwch yn ei anterth a chofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol gydag iddi ddod i'r oed i wneud hynny. Er pan ddechreuodd hi gymryd diddordeb mewn heddychiaeth, bu'n edmygu'r Crynwyr yn fawr, yn enwedig eu consyrn cymdeithasol a'u gwrthwynebiad digymrodedd i ryfel."

Byddai Marion Eames wedi bod yn bymtheg oed yn 1935 pan oedd cymylau yr ail ryfel byd wedi dechrau ymgasglu gyda rhyfel cartref Sbaen ar y gorwel. Gadawodd yr ysgol yn un ar bymtheg oed i weithio yn llyfrgell yr hen Sir Feirionnydd. Cafodd ei derbyn i weithio gyda'r Crynwyr yn ystod y rhyfel ond roedd ei swydd yn y llyfrgell yn un o'r "reserved occupations" ac felly ni chafodd ei rhyddhau o'i swydd.

Yn ôl ei gweinidog, y Parchedig Megan Williams, Eglwys Salem, Dolgellau cafodd athro ysgol Sul Capel Bethel, y diweddar Dafydd Owen ddylanwad mawr arni. Meddai Marion Eames amdano: "Fo oedd yr un soniodd wrthyf gyntaf am y Crynwyr, ac am yr angen i chwilio am yr hyn sydd o Dduw ym mhob dyn. Y gŵr hwn oedd un o ddylanwadau mwyaf fy mywyd."

Roedd gŵr Marion Eames, sef y newyddiadurwr Griffith Williams yn Grynwr, ac roedd ef hefyd wedi ei chyflwyno hi i Gymdeithas y Cyfeillion yn ôl Meic Stephens yn ei deyrnged iddi yn yr Independent.

Mae rhagor o lyfrau a nwyddau eraill ar gael o’r siop.

Gallwch hefyd lawrlwytho rhai o’n cyhoeddiadau neu eu cael nhw wedi’u hargraffu yn ein ‘siop’ ar lulu.com.

Linciau

International Fellowship of Reconciliation (IFOR)

Forum für Friedenserziehung – Cymdeithas y Cymod yn y Swistir

IFOR Norge – Cymdeithas y Cymod yn Norwy

Fellowship of Reconciliation, England

Wi’am Palestinian Conflict Resolution Centre

Hanes heddychiaeth yng Nghymru (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

The history of pacifism in Wales (National Library of Wales)

CND Cymru

Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn

Wrexham Peace & Justice Forum

Y Saith Heddychwr Treth

Conscience – yr ymgyrch dros dreth heddychlon

Trident Ploughshares

Faslane 365

Adroddiad Informed Choice? Armed forces recruitment practice in the United Kingdom

Before you sign up – gwybodaeth am y lluoedd arfog

At Ease – mudiad gwirfoddol sy’n darparu cyngor a gwybodaeth i filwyr a’u teuluoedd

ForcesWatch

Study War No More – adroddiad ar waith ymchwil filwrol ym mhrifysgolion Prydain

Movement for the Abolition of War

Peace Pledge Union

European University Center for Peace Studies (EPU)

Control Arms

International Coalition to Ban Uranium Weapons

Campaign against Arms Trade

Unarmed Forces Day

Christian Campaign for Nuclear Disarmament

Christian Peacemaker Teams UK

Pax Christi UK

September Eleventh Families for Peaceful Tomorrows

Network of Christian Peace Organisations

Waging Nonviolence – blog ymgyrchwyr didrais

Overcoming Violence – eglwysi dros gymod a heddwch

Network for Peace – rhwydwaith o fudiadau heddwch yn y DU

Corrymeela

Cytûn

Ekklesia – melin drafod sy’n hybu syniadau diwinyddol trawsnewidiol

Cristnogaeth 21 – trafodaeth radical ar Gristnogaeth

Crynwyr Cymru

London Mennonite Centre

Palestine Solidarity Campaign

www.stopthewall.org – grŵp o ddinasyddion Palestinaidd sy’n ymgyrchu yn erbyn y Wal Apartheid

Drone Campaign Network

Drones Wars UK – yn dod â’r wybodaeth ddiweddaraf am awyrennau di-beilot Prydain

Rhwydwaith Cymru yn erbyn awyrennau di-beilot

www.radicalwales.org

Heddwch a Chyfiawnder – blog Arfon Rhys, Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod

www.marikafusser.com – y wefeistres